Â鶹ԼÅÄ

'Amhosib' i 70% o drenau Cymru gyrraedd targed anabledd

  • Cyhoeddwyd
Tren

Fe allai fod yn "amhosib" i 70% o drenau Cymru a'r gororau gyrraedd canllawiau anabledd erbyn 2020, yn ôl adroddiad.

Mae Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad wedi dweud fod yr amser sydd ar gael iddyn nhw geisio cyrraedd y targed yn "hynod frawychus".

Daw hyn wedi i 97 o bobl arwyddo deiseb sy'n cael ei gefnogi gan elusen anabledd plant Whizz-Kidz yn galw am well ddarpariaeth anabl ar drenau.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates AC y dylai anghenion pob teithiwr "gael ei ystyried yn llawn" mewn unrhyw gytundeb reilffordd newydd.

Problemau

Ar ôl ystyried tystiolaeth mae'r pwyllgor deisebau wedi gwneud 12 argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella darpariaethau trenau, bysus a thacsis.

Mae'r rhai mwyaf amlwg yn canolbwyntio ar wasanaethau trenau, gan gynnwys yn y cymoedd lle mae arbenigwr trafnidiaeth yn dweud na fydd 70% yn cyrraedd gofynion mynediad newydd.

Mae'r adroddiad yn nodi fod problemau gyda drysau, rampiau a llefydd ar gyfer cadeiriau olwyn yn "rwystr mawr", a bod rhai o'r trenau mwyaf diweddar yn 20 oed a'r hynaf yn 40 oed.

Nid yw'n bosib gwneud newidiadau eto gan fod Llywodraeth Cymru yn ystyried ceisiadau gan bedwar cwmni ynglŷn â rhedeg gwasanaethu trenau yng Nghymru, gyda disgwyl cytundeb newydd erbyn 2018.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mr Skates roi tystiolaeth i'r pwyllgor.

Mae Trenau Arriva Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaethau ar hyn o bryd, wedi gwneud cais eto i adnewyddu'r cytundeb.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni nad oedd yn bosib gwneud newidiadau ar hyn o bryd, "gan nad ydym yn gwybod eto os mai ni fydd yn gyfrifol am y gwasanaeth yn y dyfodol".

Dywedodd Mr Skates wrth y pwyllgor: "Fel rhan o'r trafodaethau gyda'r cwmnïau mae angen rhoi ystyriaeth lawn i deithwyr anabl."

Mae Mr Skates wedi gofyn i'r cwmnïau am esiamplau o sut bydden nhw'n cyrraedd y disgwyliadau.

'Anfoddhaol'

Mae'r adroddiad gan y pwyllgor yn nodi: "Mae'r amserlen [ar gyfer cyrraedd y canllawiau, sef 2020] yn ymddangos yn hynod frawychus os nad yn amhosibl."

Mae Great Western Railway, sy'n rhedeg gwasanaethau ar hyd prif lein y DU, wedi cadarnhau y bydd eu trenau newydd nhw sy'n cyrraedd ym mis Hydref yn cyrraedd y gofynion.

Mae elusen plant Whizz-Kidz yn cefnogi'r ddeiseb. Dywedodd y prif weithredwr, Ruth Owen: "Mae profiadau anfoddhaol rhai pobl ifanc wrth ddefnyddio trenau yng Nghymru yn adlewyrchu'r angen arwyddocaol am well safonau."

Mae'r pwyllgor wedi gwneud 12 o argymhellion sy'n gynnwys "gwella'n sylweddol" mynediad anabl ar drenau, hyfforddiant ar ymwybyddiaeth i yrwyr bysiau a safon cenedlaethol ar gyfer gyrwyr tacsis.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n ystyried yr argymhellion ac edrych ar beth allai wneud i wella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.