Â鶹ԼÅÄ

Chris Coleman: Apêl gan chwaraewyr iddo aros

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Coleman wedi bod yn reolwr Cymru ers 2012

Mae grŵp o chwaraewyr mwyaf profiadol tîm pêl-droed Cymru wedi cynnal cyfarfod gyda'r rheolwr Chris Coleman yn gofyn iddo aros yn y swydd.

Mae ei gytundeb presennol yn dod i ben yn haf 2018, ond fe welwyd y freuddwyd o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Rwsia yn .

Ers y golled mae nifer o chwaraewyr, gan gynnwys Gareth Bale, wedi gofyn i Coleman ystyried parhau yn y swydd.

Mae'r amddiffynwr Chris Gunter wedi mynegi ei ddymuniad i weld y rheolwr yn aros, a dywedodd: "Rwy'n credu y byddai pawb yng Nghymru, cefnogwyr a chwaraewyr, am ei weld yn aros 100%.

"Mae e wedi bod yn rhan enfawr o'r hyn yr y'n ni wedi ei gyflawni, a fe yw'r dyn, gobeithio, i fynd â ni ymlaen.

"Os ydy'r awdurdodau yn medru cynnig cytundeb da iawn iddo a'i berswadio i aros, fe all gario 'mlaen i fod yn rheolwr gorau Cymru erioed."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth John Hartson ddweud ei fod yn disgwyl i Coleman adael ei swydd

Gyda dyfodol Coleman yn ansicr nawr fod Cymru allan o'r gystadleuaeth, mae sawl un yn dyfalu os mai hon oedd ei gêm olaf wrth y llyw.

Wedi'r gêm dywedodd Coleman wrth raglen Sgorio ar S4C ei fod am fynd ffwrdd a meddwl cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar ei ddyfodol.

"Dwi'n siomedig gyda'r canlyniad. Mae'r bechgyn i gyd gan gynnwys y staff yn siomedig yn yr ystafell newid.

"Ond dwi am fynd i ffwrdd i feddwl ac i adael i'r canlyniad yma suddo fewn cyn gwneud unrhyw benderfyniad," meddai.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gefnogwyr Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i Chris Coleman ac yn dymuno ei weld yn aros fel rheolwr

Mae cytundeb Chris Coleman yn dod i ben yn yr haf ac mae eisoes wedi datgan

Mae cyn ymosodwr Cymru, John Hartson wedi dweud y dylai Coleman adael ei swydd fel rheolwr Cymru a disgrifiodd fel "rheolwr mwyaf llwyddianus Cymru".

"Dwi'n credu mai dim ond Chris fydd yn gallu ateb y cwestiwn. Yn bersonol dwi'n credu y gwneith gerdded i ffwrdd nawr. Fydd na ddigon o gynigion iddo," meddai.

"Mae wedi profi ei hun fel rheolwr Cymru a dwi'n credu ei fod yn barod am swydd fawr os mai dyna mae Chris eisiau."

'Cenedl yn brifo'

Yn ystod cynhadledd i'r wasg wedi'r gêm, dywedodd Coleman ei fod angen amser i benderfynu ar ei ddyfodol tra bod y "genedl yn brifo ac yn siomedig".

Dywedodd: "Dydw i ddim yn meddwl am fy nyfodol ar hyn o bryd.

"Mae 'na siawns nai aros a siawns y gwnai ddim. Allai ddim rhoi ateb ar hyn o bryd.

"Nid yw'n fater o arwyddo cytundeb newydd. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn wych gyda mi.

"Bydd trafodaethau yn digwydd maes o law ac mae gêm gyfeillgar mis nesaf.

"Mae fy ngytundeb yn dod i ben yn yr haf, ar hyn o bryd dwi'n meddwl am y profiad.

"Fe wnai dreulio amser gyda fy nheulu a chawn weld lle fyddai'n mynd wedyn."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Joe Allen adael y cae wedi 33 o funudau oherwydd anaf i'w ben

Un o uchafbwyntiau'r noson o ran Cymru oedd yr anthem cyn y gêm.

Am y tro cyntaf mewn hanes fe gafodd Hen Wlad Fy Nhadau ei chanu yn ddigyfeiliant cyn gêm bêl-droed ryngwladol.

Cymru ddechreuodd y gêm orau, ac am y chwarter awr agoriadol roedd canol cae Cymru yn llwyr reoli'r meddiant gyda phasio taclus rhwng Allen a Ramsey yn rhoi pwysau ar amddiffyn y Gwyddelod.

Colli Allen

Daeth ergyd i Gymru wedi 33 munud pan oedd rhaid i Joe Allen adael y cae wedi trosedd gan James McClean. Jonny Williams ddaeth ar y maes yn ei le.

Fe wnaeth ymadawiad Allen roi hwb o ysbrydoliaeth i'r Gwyddelod a nhw orffennodd yr hanner cyntaf gryfaf wrth amddiffyn yn gadarn a gorfodi chwaraewyr Cymru wneud camgymeriadau ar y bêl.

Daeth ergyd i'r tîm cartref wedi 53 o funudau.

Camgymeriad yn y cefn rhwng Wayne Henessey ac Ashley Williams, croesiad i'r canol ble roedd James McClean yn sefyll ar ei ben ei hun a fe gyfeiriodd y bel i gefn y rhwyd.

Gyda 27% o'r meddiant roedd ergyd McClean yn ddigon i Weriniaeth Iwerddon sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle gyda Chymru yn gorffen yn drydydd yng ngrŵp D.