Ymgyrch Cwpan y Byd Cymru wedi dod i ben yng Nghaerdydd

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae ymgyrch Cymru o geisio cyrraedd cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Rwsia'r haf nesaf ar ben wedi'r golled o 1-0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Un o uchafbwyntiau'r noson o ran Cymru oedd yr anthem cyn y gêm.

Am y tro cyntaf mewn hanes fe gafodd Hen Wlad Fy Nhadau ei chanu yn ddigyfeiliant cyn gêm bêl-droed ryngwladol.

Cymru ddechreuodd y gêm orau. Am y chwarter awr agoriadol roedd canol cae Cymru yn llwyr reoli'r meddiant gyda phasio taclus rhwng Allen a Ramsey yn rhoi pwysau ar amddiffyn y Gwyddelod.

Gyda llond llaw o giciau cornel a thacteg ddiddorol gan y cochion o sefyll u tu ôl i'w gilydd wrth ddisgwyl y bêl roedd y Weriniaeth yn gallu ymdopi a'r croesiadau'n rhwydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Daeth Robson - Kanu yn agos gyda peniad yn yr hanner cytaf ond fe arbedodd Randolph yn wych i'r Gwyddelod.

Fe ddaeth cyfle cyntaf y Weriniaeth pan chwipiodd James McClean groesiad peryglus o'r chwith ond roedd Ashley Williams yn y fan ar lle i glirio'r bêl.

Daeth ergyd i Gymru wedi 33 munud pan oedd rhaid i Joe Allen adael y cae wedi trosedd gan James McClean. Jonny Williams ddaeth ar y maes yn ei le.

Fe wnaeth ymadawiad Allen roi hwb o ysbrydoliaeth i'r Gwyddelod a nhw orffennodd yr hanner cyntaf gryfaf wrth amddiffyn yn gadarn a gorfodi chwaraewyr Cymru wneud camgymeriadau ar y bêl.

Ar yr hanner roedd y sgôr yn gyfartal.

Roedd rhaid i Gymru ddioddef ymadawiad annisgwyl chwaraewr mor ddylanwadol â Joe Allen a cheisio ymdopi gydag ochr gorfforol y Weriniaeth o chwarae pêl-droed wrth baratoi ar gyfer yr ail hanner.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Roedd yn rhaid i Joe Allen adael y cae wedi 33 o funudau oherwydd anaf i'w ben

Fe ddechreuodd Cymru yr ail hanner yn debyg iawn i'r ffordd ddechreuodd nhw'r hanner cyntaf, yn llwyr reoli'r meddiant.

Ond daeth ergyd i'r tîm cartref wedi 53 o funudau.

Camgymeriad yn y cefn rhwng Wayne Henessey ac Ashley Williams, croesiad i'r canol ble roedd James McClean yn sefyll ar ei ben ei hun a fe gyfeiriodd y bel i gefn y rhwyd.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, James McClean sgoriodd unig gôl y gêm wedi dryswch yn amddiffyn Cymru

Yn syth fe ddechreuodd y Weriniaeth rhoi pob dyn y tu ôl i'r bel ac amddiffyn popeth oedd yn dod tuag atyn nhw.

Gyda'r Gwyddelod yn amddiffyn yn gadarn roedd yn rhaid i Chris Coleman ddechrau eilyddio.

Dyma gyflwyno Ben Woodburn i'r maes yn lle Andy King a Sam Vokes ddaeth ymlaen yn lle Hal Robson Kanu.

Gyda llai na chwarter awr yn weddill o'r gêm roedd newyddion yn dechrau cyrraedd y cefnogwyr fod Serbia, oedd ar frig y grŵp, ar y blaen yn erbyn Georgia.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd Gareth Bale yn y dorf yn Nghaerdydd. Mi oedd Cymru yn colli ei ddylanwad

Daeth newyddion hefyd fod Croatia, un o'r timau oedd yn bygwth safle Cymru yn y gemau ail gyfle ar y blaen yn erbyn yr Iwcraen yn grŵp I.

Fe ddechreuodd Cymru chwipio'r bêl fewn i'r cwrt cosbi. Fe ddaeth Jonny Williams yn agos gyda pheniad o groesiad Woodburn ond fe gliriodd yr Iwerddon y perygl.

Gyda phum munud o amser yn cael ei ychwanegu i ddiwedd y gêm roedd pwysau Cymru yn parhau ond fe wnaeth y Gwyddelod barhau i amddiffyn yn gadarn.

Daeth chwiban y dyfarnwr a'r gêm i ben a llorio chwaraewyr Cymru.

Gyda 27% o'r meddiant roedd ergyd James McClean wedi 53 o funudau yn ddigon i Weriniaeth Iwerddon sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle gyda Chymru yn gorffen yn drydydd yng ngrŵp D.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae taith y cefnogwyr ar ben am ymgyrch arall

Gyda dyfodol rheolwr Cymru, Chris Coleman yn ansicr nawr fod Cymru allan mae sawl un yn dyfalu os mai hon oedd ei gêm olaf wrth y llyw.

Wedi'r gêm dywedodd Coleman ei fod am fynd ffwrdd a meddwl cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar ei ddyfodol.

"Dwi'n siomedig gyda'r canlyniad. Mae'r bechgyn i gyd gan gynnwys y staff yn siomedig yn yr ystafell newid.

"Ond dwi am fynd i ffwrdd i feddwl ac i adael i'r canlyniad yma suddo fewn cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynglyn a'r dyfodol," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae Chris Coleman am gymryd ei amser cyn penderfynnu ar ei ddyfodol meddai.