Ateb y Galw: Cleif Harpwood

Tro'r cerddor Cleif Harpwood yw hi i Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Carwyn Ellis wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mynd am dro gyda Mamgu i weld y trenau stêm ar orsaf rheilffordd Aberafan.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Olivia Hussey. Mi ges i fy hudo gan ei phortread o Juliet yn fersiwn ffilm Franco Zeffirelli o Romeo and Juliet. Roeddwn i'n bymtheg oed ar y pryd.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cael fy nal yn ysmygu Woodbine y tu ôl i gampfa'r ysgol a chael fy nwyn o flaen yr ysgol gyfan y diwrnod wedyn.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Amser cinio heddiw. Ro'n i newydd fwyta cyri coch o Wlad Thai (gyda chillies ychwanegol), ac wedi cael gwybod nad oeddwn wedi ennill y £167 miliwn ar y loteri.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cwrw, gwin coch a gadael pob dim tan y funud olaf.

Ffynhonnell y llun, Creative Commons Attribution

Disgrifiad o'r llun, Ynys Lochtyn - lle hardd, llawn awen

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ynys Lochtyn ger Llangrannog, fu'n gymaint o ysbrydoliaeth i ganeuon fel Ysbryd y Nos a Nia Ben Aur.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Cyngerdd Tafodau Tân Eisteddfod Aberteifi 1976. Perfformiad gorau Edward H Dafis a noson i'w chofio.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Penstiff, Penderfynol, Hael.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

X-Ray, hunangofiant Ray Davies o'r Kinks a'r ffilm It's a Wonderful Life - dyma gychwyn ar bob 'Dolig i mi.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Gyda Richard Burton. Mi wnes ei gyfarfod yn aml pan yn blentyn gan fy mod yn ffrindiau gyda bechgyn ei frawd Graham, ond nid oeddwn yn ddigon hen i werthfawrogi ei fawredd ar y pryd.

Disgrifiad o'r llun, Dim ond 'chydig dros ddeufis cyn cei di wylio dy hoff ffilm eto, Cleif!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Daw'r enw teuluol Harpwood o ardal Glympton ger Woodstock yn swydd Rhydychen.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mwynhau yng nghwmni fy ngwraig a'm teulu.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Blowin' in the wind, Bob Dylan. Yn anffodus mae ei geiriau mor berthnasol nawr ag oedden nhw nôl ar ddechrau'r 1960au. Yr un hen bethau sy'n poeni'r byd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cocos wedi'u ffrio mewn menyn a garlleg gyda chacen bara lawr, linguini gyda saws marinara, yna tiramisu gyda gelato limoncello.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dewi Pws - ond fe fyddwn i am ddod o hyd i jôcs newydd!

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ddau yn ffrindiau, ond mae Cleif yn credu fod Dewi angen llyfr jôcs newydd...!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Aled Samuel