Â鶹ԼÅÄ

BAFTA Cymru: Rhaglenni Aberfan yn cipio nifer o wobrau

  • Cyhoeddwyd
Bafta Cymru gong

Roedd yna lwyddiant ysgubol i'r rhaglenni a wnaed i gofnodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan yn seremoni BAFTA Cymru nos Sul.

Eleni Aberfan: The Green Hollow a gipiodd y wobr am y ddrama deledu orau.

Wrth dderbyn y wobr roedd yna ddiolchiadau arbennig i bobl Aberfan, ac roedd nifer o'r rhai a oroesodd y drychineb yn y gynulleidfa.

Aberfan - The Fight for Justice gipiodd y wobr yng nghategori y ddogfen unigol a chyflwynydd y rhaglen honno, Huw Edwards, enillodd y wobr am y cyflwynydd gorau.

Yn ogystal enillodd Owen Sheers y wobr am yr awdur gorau am ei waith yn Aberfan: The Green Hollow.

Disgrifiad o’r llun,

Owen Sheers enillodd wobr yr awdur am ei waith yn Aberfan: The Green Hollow

Yng nghategori ffotograffiaeth ffeithiol Baz Irvine ddaeth i'r brig am ei waith yn y rhaglen The Aberfan Young Wives Club.

Roedd gwobr hefyd i Marc Evans am ei waith cyfarwyddo yn The Aberfan Young Wives Club ac i Jenna Robbins am ei chyfraniad iAberfan: The Green Hollow yng nghategori'r newydd-ddyfodiaid.

Enillydd cynta'r noson a hynny yn y categori Rhaglen Adloniant oedd Taith Bryn Terfel - Gwlad y Gân.

Deian a Loli enillodd y categori rhaglenni i blant.

Roedd yna bedwar enw yn y categori golygu a'r enillydd oedd Will Oswald am Sherlock.

Cafodd pedair rhaglen eu henwebu yng nghategori y gyfres ffeithiol ond yr enillydd nos Sul oedd The Greatest Gift.

Yn y categori effeithiau arbennig a gweledol yr enillydd oedd Dogs of Annwn Ltd am effeithiau arbennig yn y ffilmThe Lighthouse.

Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynwyr yn llawn hwyl ar ddechrau'r seremoni

Yn y categori sain yr enillydd oedd tîm cynhyrchu Damilola: OurLoved Boy.

Eleni mae 55 cynhyrchiad, sef y nifer uchaf erioed, yn cael cydnabyddiaeth.

Yng nghategori'r gêm Creature Battle Lab edd yn fuddugol, ac yng nghategori cerddoriaeth wreiddiol cerddoriaeth Galesa (Benjamin Talbott a Victoria Ashfield) ddaeth i'r brig.

Enillwyd y ffilm fer ganThis Far Up, ac fe gafodd Euros Lyn ei enwebu ddwywaith am ei waith cyfarwyddo ffuglenni ond ei gyfraniad i Y Llyfrgell a enillodd.

Disgrifiad o’r llun,

John Rhys Davies sydd eleni yn derbyn Gwobr Arbennig BAFTA

Roedd BAFTA Cymru wedi cyhoeddi yn barod mai'r awdur Abi Morgan, gafodd ei geni yng Nghaerdydd, fyddai yn a'r actor a'r cynhyrchydd, John Rhys Davies gipiodd Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu.

Eleni am y tro cyntaf roedd y seremoni yn cydnabod gwaith pobl o Gymru sydd wedi gweithio ar raglenni rhwydwaith yn y Deyrnas Unedig.

Actorion gorau

Yr actorion a gafodd eu henwebu yn y categori i actorion gorau oedd Dyfan Dwyfor Y Llyfrgell, Jack Parry Jones MoonDogs, Mark Lewis Jones The Lighthouse a Michael Sheen Aberfan: The Green Hollowac eleni Jack Parry Jones a gipiodd y wobr.

Yng nghategori yr actoresau enwebwyd Carys Eleri Parch, Eiry Thomas Aberfan: The Green Hollow, Kimberley Nixon Ordinary Lies a Mali Jones 35 Diwrnod ond barn y beirniaid mai Kimberley Nixon oedd yn haeddu'r wobr eleni.

Categorïau eraill

Yng nghategori y ffilm nodwedd/deledu roedd yna ganmoliaeth i Albi a Noa yn achub yr Iwnifyrs, Ellen a A Midsummer Night's Dreamond yn fuddugol nos Sul roedd y ffilm Ellen.

Yng nghategori y darllediad byw Â鶹ԼÅÄ Young Musician 2016 Grand Final oedd yn fuddugol.

Yng nghategori Newyddion a Materion Cyfoes roedd yna enwebiad i Cysgod Chernobyl - Y Byd ar Bedwar, Living with Dementia - Chris's Story, Michael Sheen: The Fight for My Steel Town a Wales at Six (21/10/2016) ond yr enillydd eleni oedd Michael Sheen: The Fight for My Steel Town.

Yng nghategori dylunio gwisgoedd Sarah Arthur Lady Chatterley's Lover oedd yn fuddugol.

Ffynhonnell y llun, Bafta Cymru

Claire Pritchard-Jones oedd enillydd y categori colur am ei gwaith yn Lady Chatterley's Lover. Roedd Claire wedi cael ei henwebu dair gwaith.

Enillwyd y categori ffotograffiaeth a goleuo gan Richard Stoddard am ei waith yn y ffilm Yr Ymadawiad.

Yn y categori dylunio cynhyrchiad Catrin Meredydd am ei gwaith yn Damilola, Our Loved Boy oedd yn fuddugol.

Cyflwynydd y seremoni oedd Huw Stephens.