Cymro ar dop ei gêm

Ffynhonnell y llun, EA

Disgrifiad o'r llun, Gwyn Jones (yn y canol) gyda aelodau o dîm pêl-droed y Vancouver Whitecaps

Yn y byd gemau cyfrifiadurol mae EA Sports yn un o'r cwmnïau sy'n arwain y ffordd, gan gynhyrchu gemau rygbi, hoci iâ, pêl-fasged, a bocsio hynod boblogaidd.

Ymysg y mwya' adnabyddus mae'r gyfres bêl-droed FIFA, ac mae'r diweddara', FIFA 18, ar werth ar 29 Medi.

Un sy'n gweithio i EA Sports yn Vancouver ydy Gwyn Jones o Rhiwlas, ger Bangor. Bu'n siarad gyda Cymru Fyw am ei brofiadau'n gweithio i un o'r brandiau chwaraeon mwyaf eiconig a'i fywyd ers iddo symud i Ganada:

O'n i'n gweithio yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd fel anogwr dysgu, ond nes i benderfynu codi pac a symud i Ganada er mwyn bod gyda fy nghariad (sydd bellach yn wraig i mi), Bronwyn.

Doedd dysgu yma yn Vancouver ddim yn opsiwn yn syth gan fod fy nghymwysterau ddim yn trosglwyddo. Felly yn lle mynd nôl i'r coleg am flwyddyn a hanner gyda chostau uchel, es i am swydd gyda EA Sports.

Yn ystod y cyfweliad daeth hyfforddi a llwyddiannau tîm pêl-droed Ysgol Plasmawr yn ddefnyddiol ac roedd o'n destun sgwrs. Roedd y tîm ysgol yn bencampwyr ysgolion Prydain ac Iwerddon yn 2014.

Disgrifiad o'r llun, Gwyn (ail o'r chwith) yn dathlu buddugoliaeth Cwpan Prydain ac Iwerddon gyda aelodau eraill tîm hyfforddi Ysgol Plasmawr

Pwysigrwydd y manylion

Dwi wedi bod yn rhan o'r adran gynhyrchu yn y tîm DCL (Data Collection and Licensing), gan gasglu data a thrwyddedu.

Yn ddiweddar o'n i'n gweithio ar FIFA 18, a ni oedd yn gyfrifol am wneud yn siŵr fod popeth yn edrych yn authentic yn y gêm.

Mae'n rhaid bod yn hynod o ofalus oherwydd os 'da chi'n gwneud camgymeriadau a chreu deunydd anghywir fe all fod yn niweidiol i ddelwedd y cwmnïau a'r unigolion, ac all arwain at broblemau cyfreithiol.

'Da ni'n cyd-weithio gyda chwmnïau fel Adidas a Nike, a chynghreiriau mawr y byd fel Uwch Gynghrair Lloegr a La Liga Sbaen, yn ogystal â'r rhai llai adnabyddus fel cynghrair Colombia.

Mae'n gallu bod yn anodd yn gyfreithiol i ddweud gwir, gan fod yn rhaid cael yr hawliau a thrwyddedau cywir.

Yr elfennau dwi'n gyfrifol amdanyn nhw ydy'r kits a'r accessories- pethau fel esgidiau'r chwaraewyr, menig y golwr, y peli, byrddau hysbysebu, a hefyd y starheads, sef pennau'r prif chwaraewyr sydd wedi eu sganio gan beiriant 360 gradd.

Mae rhai pethau annisgwyl hefyd, fel gwneud yn siŵr ein bod efo'r hawliau i ddangos tatŵ'r chwaraewyr gan mai artist y tatŵ sydd efo'r hawlfraint dros ei gelf weithiau, a pherson trin gwallt sydd â'r hawlfraint dros steil chwaraewr, fel Marco Reus ar glawr FIFA 17.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gyfres wedi bod yn llwyddiant flynyddol ers y gêm gyntaf, 'FIFA International Soccer' yn 1993

Gweithio i EA Sports

Mae 'na dros 2,500 yn gweithio yn Vancouver, ac mae 'na swyddfeydd o amgylch y byd. Mae'n swyddfa grêt i weithio ynddi, gyda bwyty, caffi, siop, arcade (am ddim), cyrtiau pêl-droed a phêl-fasged o dan do, cae astroturf, cwrt volleyball tywod a chwrt roller hockey.

Hefyd yn yr adeilad mae 'na bob math o adnoddau gan gynnwys llyfrgell, sinema, campfa ac ystafelloedd triniaeth (massage). Mae'n bosib dilyn llwybr natur a mae 'na fan i gael barbeciw heb son am lefydd i ymlacio ar bob llawr.

Mae hi'n fraint i fod yma a chael gwybod mai, heblaw am y clybiau, ni ydy'r cyntaf i weld deunydd fel y citiau newydd, a 'da ni'n gwylio gemau pêl-droed yn fyw wrth weithio - ar gyfer ymchwil wrth gwrs!

Mae 'na gynghrair bêl-droed ar y cae bob amser cinio felly mae amser mwynhau yn rhan o'r dydd hefyd, a does dim deud pwy allai ddod i ymweld â'r stiwdio - roedd Justin Trudeau [Prif Weinidog Canada] yma am y diwrnod yn ddiweddar.

Mae'r gemau poblogaidd NHL (hoci iâ), Plant v Zombies, UFC, Star Wars Battlefront ac wrth gwrs FIFA i gyd yn cael eu cynhyrchu yma.

Barf Ledley a'r Gymraeg

Disgrifiad o'r llun, Joe Ledley, perchennog un o farfau enwocaf Cymru

Dwi'n falch fy mod wedi bod yn rhan o FIFA 16, 17 ac 18. Roedd hi'n wych cael cynnwys timau merched yn y gêm am y tro cyntaf ar FIFA 16, a datblygiad o greu 'gêm gyrfa' Alex Hunter yn 2017.

Mae barf Joe Ledley (o'r diwedd) wedi ei chynnwys yn y gêm eleni- nes i wthio am hyn am dair mlynedd, a dyma'r barf cyntaf o'i fath yn hanes y gêm.

Mae gen i rôl fechan yn FIFA 18 hefyd - edrychwch allan am physio o'r enw G. Jones yn y gêm!

Ond yn bwysicach fyth dwi'n hynod falch mod i wedi sicrhau fod baneri Cymru (yn Gymraeg) yn y gêm am y tro cyntaf - efallai y tro cyntaf i'r Gymraeg gael ei gweld mewn gêm mor fawr?

Dwi'n mwynhau gwthio Cymru lle gallai yn y stiwdio a dwi'n teimlo bod yr ymwybyddiaeth o Gymru ac ein hiaith wedi cynyddu yn ddiweddar - mi wnaeth y llwyddiant yn Ewro 2016 helpu gyda hynny.

Weithiau bydd crysau pêl-droed yn cael eu hanfon i ni yn y swyddfa, ond yn anffodus 'da ni heb gael un gan dîm Cymru eto (hint hint Joe Ledley).

Hiraeth

Dwi'n colli'r bobl mwy na dim, ac mae wedi bod yn aberth mawr symud yma i fod efo Bronwyn.

Un poendod mawr ydi mod i yn methu gwylio gemau pêl-droed Lerpwl a Chaerdydd ar amser call yn y dafarn efo ffrindiau a methu mynd i gemau Cymru yn y stadiwm. Er, ges i wyliau da llynedd yn dilyn Cymru yn Ffrainc.

Disgrifiad o'r llun, Gwyn a Bronwyn yn dilyn Cymru yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016

Siaradodd Gwyn gyda rhaglen Ar y Marc ar Radio Cymru, i'w darlledu 8.30 bore dydd Sadwrn, 30 Medi.

Disgrifiad o'r sainHanes Gwyn Rhys Jones sy'n gweithio i gwmni E.A.Sports ar gemau pel-droed Fifa