Buddsoddi £4.5m yn sector ynni môr gogledd Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd £4.5m yn cael ei fuddsoddi yn sector ynni'r môr a'r llanw yng ngogledd Cymru.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu cynllun Morlais Menter Môn, sef cynllun gwerth £5.6m i "ddatblygu a masnacholi" technolegau ynni'r llanw.

Daw'r buddsoddiad drwy law'r UE, sydd wedi cyfrannu £4.2m, a Llywodraeth Cymru sydd wedi cyfrannu £300,000.

Cafodd y buddsoddiad ei gyhoeddi mewn digwyddiad ar gyfer sector ynni môr a llanw'r Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd ddydd Llun.

'Potensial mawr'

Dywedodd Ysgrifennydd Economi Cymru, Ken Skates: "Gall ynni'r tonnau a'r llanw wneud cyfraniad mawr at wireddu'n huchelgais am Gymru ag economi rhad-ar-garbon yn ogystal â chreu swyddi a thwf cynaliadwy.

"Mae natur arfordir Cymru'n golygu ein bod mewn sefyllfa dda i allu manteisio ar y cyfleoedd y mae'r economi las yn eu cynnig... bydd gan yr ardal y capasiti i gynhyrchu o leiaf 20MW o ynni ar gyfer y grid, gyda photensial ar gyfer 193.5MW arall.

"Dros y pump i ddeng mlynedd nesaf, bydd gennym gyfle go iawn i ddatblygu a chynyddu'r diwydiant ynni morol yng Nghymru. Mae'r arian hwn yn hwb arall i ni wireddu'n huchelgais."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mr Skates ei fod am weld y diwydiant ynni morol yn datblygu ymhellach

Mae Gerallt Llewelyn Jones o Fenter Môn, wedi croesawu'r newydd: "Mae Menter Môn wedi gweithio'n galed i gyrraedd y garreg filltir hon ar gyfer Ynys Môn a'r gogledd.

"Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi'n hunain yng nghanol yr ymdrechion byd-eang i ddatblygu ynni adnewyddadwy'r môr, sector sy'n tyfu ac sydd â photensial mawr i greu a chynnal swyddi."