Â鶹ԼÅÄ

Ymchwiliad i ddiffyg trydaneiddio Caerdydd-Abertawe

  • Cyhoeddwyd
TrênFfynhonnell y llun, Swyddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y trenau newydd diesel-drydanol ar y rheilffordd erbyn yr hydref eleni

Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio trydaneiddio'r prif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.

dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth y gallai teithiau cynt gael eu cyflawni heb orfod trydaneiddio o ganlyniad i drenau newydd.

Dywedodd Chris Grayling y byddai'r trenau newydd ar y rheilffordd erbyn yr hydref eleni.

Ddydd Iau fe wnaeth cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, David Davies gadarnhau y byddai eu hymchwiliad yn ystyried os yw honiadau'r ysgrifennydd yn dal dŵr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd bod peidio trydaneiddio gyfystyr â "thorri blynyddoedd o addewidion i bobl Cymru".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Davies y bydd yr ymchwiliad yn ystyried effaith y penderfyniad ar yr economi

Bydd y trenau newydd diesel-drydanol yn gallu rhedeg ar rannau o'r rheilffordd sydd wedi ac sydd heb eu trydaneiddio.

Mae Network Rail yn gobeithio trydaneiddio'r llinell rhwng Llundain a Chaerdydd erbyn diwedd 2018.

'Archwilio'r rhesymeg'

Dywedodd Mr Davies: "Mae'r llywodraeth wedi penderfynu yn erbyn trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe, gan gyhoeddi buddsoddiad mewn stoc newydd a gwelliannau i orsafoedd yn lle hynny.

"Rydyn ni wedi lansio'r ymchwiliad yma i archwilio'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad.

"Yw eu honiadau o fwy o gapasiti a theithiau cynt yn dal dŵr, neu oes dadl y byddai trydaneiddio yn darparu gwell gwerth am arian?"

Dywedodd Mr Davies y bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried effaith y penderfyniad ar economi de Cymru ac os dylai mwy o bwerau dros reilffyrdd gael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.