Cynllun metro £1bn i 'haneru amser teithio' i Abertawe

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gallai amseroedd teithiau trên rhwng Abertawe a Chaerdydd haneru i 30 munud pe bai'r brif linell yn cael ei adfer, yn ôl un arbenigwr ar drafnidiaeth.

Dywedodd yr Athro Mark Barry, a gynigiodd gynllun Metro De Cymru, y gallai system metro gwerth £1bn o amgylch Abertawe drawsnewid cysylltedd y ddinas a'i helpu i greu mwy o gyflogaeth.

Mae'r Athro Barry hefyd wedi awgrymu dod a'r brif linell reilffordd o Bort Talbot yn syth i Abertawe.

Cafodd cynllun i ddrydaneiddio'r llinell reilffordd i Abertawe ei ddileu ym mis Gorffennaf.

Er y byddai'r cynllun yn golygu mynd a'r brif linell o Gastell-nedd, dywedodd y byddai'r datblygiad yn talu'i ffordd mewn system metro gyda mwy o wasanaethau yn rhedeg o Gastell-nedd i'r ddinas.

Ychwanegodd y byddai gorsafoedd newydd yn gwasanaethu ardaloedd SA1, y campws addysg newydd ar Ffordd Fabian a Stadiwm Liberty ymysg eraill.

Ffynhonnell y llun, Google

Yn ei gynnig, mae'r Athro Barry yn galw am wneud Gorsaf Abertawe yn orsaf drwodd yn hytrach na therfynfa, i leihau amseroedd teithio ymlaen i orllewin Cymru.

Mae hefyd yn cynnig ymgorffori llinell Dyffryn Nedd i rwydwaith newydd, sydd ar hyn o bryd yn cario trenau cludo nwyddau, a mwy o wasanaethau rhanbarthol i Lanelli a Phort Talbot.

Dywedodd yr Athro Barry y byddai'r amser teithio yn llai i Gaerdydd, ynghyd â thrydanu'r llinell o Gaerdydd i Paddington, yn gweld amseroedd teithio o Abertawe i Lundain yn torri i ddwy awr a 15 munud.

Dywedodd wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Byddai'r achos busnes yn llawer cryfach na phrosiect trydaneiddio yn unig.

"Rydyn ni'n sôn am £1biliwn, ond yn fy mhrofiad i, os oes gennych brosiect da ac achos busnes da, mae'r arian yn hawdd ei ddarganfod".