Â鶹ԼÅÄ

Gwahardd Neil McEvoy eto am 'dorri rheolau' Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r eildro eleni i Neil McEvoy i gael ei wahardd o'r grŵp

Mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi pleidleisio'n unfrydol dros wahardd Neil McEvoy o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad.

Mewn llythyr at aelodau'r blaid, dywedodd yr arweinydd Leanne Wood fod Mr McEvoy wedi ei whardd am fynd yn groes i reolau'r blaid.

Dywedodd ffynhonnell o'r blaid fod y gwaharddiad hwn yn wahanol i'r ymchwiliad mewnol sy'n cael ei gynnal i'w ymddygiad.

Mae Neil McEvoy wedi dweud y bydd yn parhau i "ofyn cwestiynau anodd" yn y Senedd er gwaethaf y gwaharddiad.

Torri safonau

Yn unol â safonau ymddygiad y blaid, mae'n rhaid i ACau "dderbyn cyfrifoldeb i'r genedl a'r blaid i ymddwyn yn briodol a chywir bob amser" a "rhaid peidio â gweithredu mewn modd sy'n dwyn anfri ar y grŵp na'r blaid".

Yng nghyfarfod grŵp wythnosol Plaid Cymru yn y Senedd ddydd Mawrth, penderfynodd aelodau'r blaid nad oedd Mr McEvoy wedi cadw at y safonau hynny.

Cyfeiriodd ffynhonnell o'r blaid at sylwadau ar-lein AC Canol De Cymru - polisi Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gefnogi gan Blaid Cymru.

Dywedodd Mr McEvoy y byddai'n parhau gyda "busnes fel arfer" yn ei waith fel Aelod Cynulliad.

"Dwi'n mynd i barhau i ofyn cwestiynau anodd yma yn y Senedd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Leanne Wood nad oedd hi am "ganiatáu ymddygiad sy'n tanseilio undod a chyfanrwydd" Plaid Cymru

Ychwanegodd nad oedd wedi cael gwybod am ba mor hir y mae wedi ei wahardd, ac os yw'n waharddiad dros dro neu'n un parhaol.

Ond mynnodd nad oedd ef yn bersonol yn rhwystr i Blaid Cymru, a'i fod yn ystyried ei hun fel rhywun oedd yn rhannu'r un safbwyntiau â "mwyafrif" yr aelodaeth.

"Yn fy marn i mae'n rhaid i chi ddim ond weld y gefnogaeth [i'r] blaid yn ein prifddinas nawr," meddai.

"Mae tîm gyda ni yng Nghaerdydd, 'dan ni'n gweithio ar y stryd ac ar y drysau, 'dan ni'n gweithio gyda phobl drwy'r amser, ac mae llawer o gefnogaeth [tu] allan i'r Senedd i Blaid Cymru nawr yng Nghaerdydd ac yn yr ardal."

'Aflonyddwch'

Wrth ysgrifennu at aelodau'r blaid ar ôl y penderfyniad, dywedodd Leanne Wood: "Wrth fynd yn groes i nifer o Orchmynion Sefydlog Grŵp y Cynulliad a'n Côd Ymddygiad, mae wedi tynnu sylw a chreu aflonyddwch.

"Fel Arweinydd, ni allaf ganiatáu i aelodau etholedig weithredu mewn ffordd sy'n niweidiol i'r blaid.

"Rydym yn blaid ac yn bwysicaf oll, yn dîm. Mae'n ddyletswydd arna i i beidio â chaniatáu ymddygiad sy'n tanseilio ei undod a'i gyfanrwydd.

"Edrychaf ymlaen at symud y Grŵp Cynulliad ymlaen yn gryf ac unedig, gan ganolbwyntio'n llawn ar y dasg o herio'r Llywodraeth Lafur a chynnig cynrychiolaeth effeithiol i bobl ar bob lefel ym mhob rhan o Gymru."

Dyma'r eildro i Mr McEvoy gael ei atal gan grŵp Cynulliad y blaid.

Ym mis Mawrth, wedi iddo gael ei wahardd am fis o'i swydd fel cynghorydd yng Nghaerdydd am .

Mae gan Mr McEvoy yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.