Â鶹ԼÅÄ

Gadael y nyth

  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bobl ifanc yn gadael eu cartrefi ac yn mynd am y brifysgol am y tro cynta' y mis hwn. I'r myfyrwyr, mae'n ddechrau newydd, cyffrous, llawn addewid ond i'r rhieni, mae'n ddiwedd cyfnod ac yn gallu bod yn adeg anodd iawn o'u bywydau.

Mae dwy fam yn siarad â Cymru Fyw am y profiad o weld eu plant yn gadael y nyth...

Ffynhonnell y llun, Elin Maher

Mae Rhys, mab Elin Maher o Gasnewydd, yn mynd i'r brifysgol y mis yma ac mae gan Elin deimladau cymysg o weld ei mab hynaf, y cyntaf i adael, yn mynd i brifysgol Guildford yn Surrey.

Fel Mam, sydd â'i phlentyn yn mynd am y tro cynta', 'wi'n teimlo'n gymysg am y peth. Dyw hwn ddim yn rhywbeth unigryw i fi, er ei fod 'falle'n teimlo felly, ar hyn o bryd. Nid fi yw'r rhiant cynta' i fynd trwy hyn, ond dyma'r tro cynta' i fi a phan mae'n dro cynta' i rywun, mae wastad yn teimlo'n fwy o beth.

'Wi'n amlwg yn falch iawn dros Rhys, ei fod e wedi gweithio'n galed i gyrraedd y brifysgol, a'i fod e'n mynd i'r lle mae e mo'yn. Rwy'n gwbod ei fod e'n ddigon abl i fynd hefyd, a 'wi'n gorfod cadw meddwl agored achos mae'n gyfnod lle mae e'n gorfod agor ei adenydd, mae e'n gorfod hedfan.

Hiraeth

Mi fyddai yn hiraethu wrth gwrs, bydde fe'n annaturiol os fydden i ddim, ond beth sy' bwysica' i fi hefyd yw gwbod ei fod e'n mynd i 'neud rhywbeth mae e wir mo'yn 'neud, y bydd e'n hapus yn ei 'neud e, a'i fod yn mynd i fod yn ddechre newydd iddo fe. Mae'r teimlad yna yn gryfach na'r teimlad o hiraeth.

Wrth bod plant yn tyfu maen nhw'n dod yn fwy o ffrindie, felly mi fyddai'n gweld eisie'r cysylltiad dyddiol yna ti'n ei gael gyda rhywun, pan fydd e ddim yna, ry'n ni'n deulu agos, a 'wi'n dishgwl mla'n i'w gael e nôl pryd bynnag bydd e mo'yn dod nôl!

Technoleg

Fyddai ddim yn eistedd gytre yn llefen y glaw. 'Wi'n meddwl nôl pan o'n i'n gadael i fynd i'r coleg, o'dd rhaid ciwio i ffonio, ond ma' technoleg gyda ni erbyn hyn wrth gwrs, tecstio, Facetime, Skype, mae'r dechnoleg mor dda, ac mae'n lot haws i gysylltu â'n gilydd. Fi'n siŵr bydd ambell i dext yn dod fan hyn a fan 'co i gadw Mam yn hapus, a bydd hynny yn help i fi!

Fi'n credu mai gweld y plentyn cynta' yn mynd fydd siŵr o fod y gwaetha'. Ma' cael y plentyn cynta' yn brofiad newydd sbon, ac erbyn yr ail a'r trydydd plentyn dydy'r profiad ddim yn gymaint o beth, a 'wi'n gobeithio mai dyna sut fydd hi wrth iddyn nhw adael hefyd.

Bydd fy ail blentyn yn mynd mewn dwy flynedd, ac erbyn 'ny fe fyddwn ni wedi cynefino a sefydlu patrwm newydd a bydd y bwlch yna wedi ei lenwi. Ac erbyn bod y trydydd plentyn yn gadael, wel gobeithio fyddai wedi cadw digon o arian a phrynu motorhome, a bydd dim ishe poeni gymaint am y plant!

Ffynhonnell y llun, Sharon Laban

Mae Sharon Laban o Bontypridd yn fam i ddau. Fe adawodd Tomos y nyth i fynd i'r brifysgol bum mlynedd yn ôl, a'i merch Rhiannon yn 2015. Mae'n newid byd ond yn ddechrau cyfnod newydd i'r rhieni hefyd, meddai Sharon.

Aeth Tomos bant i'r coleg i Aberystwyth yn 2012. Fi'n cofio ei adael e yna, o'n i'n gyffrous drosto fe yn dechre cyfnod newydd, ond o'n i'n poeni dipyn hefyd. Roedd yn dod nôl ag atgofion o fy mam a nhad yn fy ngadael i ym Mhontypridd pan es i i'r coleg flynyddoedd cyn 'ny. O fy mhrofiad i, dyw bechgyn ddim mo'yn siarad gymaint, felly oedd e wastad lan i ni gysylltu â Tomos a ddim fel arall rownd. Ei neges e oedd "no news is good news"!

O'n i ddim mor upset â hynny ar ôl i Tomos fynd, achos oedd Rhiannon dal gyda ni yn y tŷ, ond o'n ni i gyd yn ei golli fe wrth gwrs. Fe wnaethon ni addasu a ymdopi yn weddol gloi, ond pan aeth Rhiannon i Lundain ddwy flynedd yn ôl, hi oedd y plentyn ola' i adael y nyth, oedd hwnnw'n fwy o ergyd mewn ffordd.

'Newid ein bywyd'

Mae technoleg, yn enwedig Whatsapp a Skype yn wych y dyddie 'ma. Mae gyda ni grwpiau Whatsapp gwahanol i wahanol aelodau'r teulu ac un i'r teulu cyfan gael gyfathrebu. Bob dydd ni'n sgwrsio a rhannu lluniau, a dweud y gwir mae wedi newid ein bywyd.

Wrth gwrs oedd e'n newid byd i ni fel rhieni ar ôl i'r plant adael... llai o waith siopa a llai o olch, ond dwi'n credu ei bod hi'n bwysig i ŵr a gwraig gael digon o ddiddordebau fel bod bywyd yn parhau ar ôl i'r plant adael gartre'. Mae gan fy ngŵr a fi ein diddordebau a'n ffrindiau ein hunain, ond mae gyda ni hefyd ddiddordebau gyda'n gilydd a dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig, bod cwpwl yn ffeindio pethau i wneud gyda'i gilydd.

Rwyt ti'n arfer yn ddigon cloi ar ôl i'r plant adael, a dechre mwynhau'r tawelwch, ond rwyt ti'n edrych ymlaen iddyn nhw ddod adre' ar y penwythnosau ac at y Nadolig pan fyddan nhw - a'u cariadon - yn dod adre'!

Mae fy mab wedi dod yn ôl i fyw gyda ni am gyfnod ar ôl bod yn y brifysgol, ac mae hynny'n brofiad gwahanol, am ein bod ni - a fe - wedi bod yn gyfarwydd â bod yn annibynnol.

Sgiliau bywyd

Fel rhiant, rwyt ti'n trial paratoi dy blant at bethe', fel eu bod nhw'n gallu sefyll ar eu traed eu hunain. Fi'n credu ei bod hi'n bwysig i ddysgu sgiliau sylfaenol iddyn nhw cyn iddyn nhw adael, sut i setio lan cyfri' banc a phethe ymarferol a shwt i goginio prydiau bwyd syml fel scrambled eggs a chilli. Ro'n i'n gwybod wedyn bod y ddau yn ddigon abl i edrych ar ôl eu hunain.

Mae'n bwysig hefyd i fod ar ben arall y ffôn os oes problem a chadw'r cyfathrebu ar agor. Mi fyddan nhw'n eich ffonio chi pan maen nhw angen, ond peidiwch â disgwyl gormod. Rhowch le iddyn nhw dyfu.

Rwy' a'r gŵr newydd fod ar holiday of a lifetime yn California a joio pob munud!