麻豆约拍

Awyrennau di-beilot wedi disgyn i'r m么r yn gynharach eleni

  • Cyhoeddwyd
Awyren di-beilotFfynhonnell y llun, RAF

Mae wedi dod i'r amlwg fod dwy awyren ddi-beilot gwerth miliynau o bunnoedd wedi disgyn i'r m么r yn gynharach eleni ar 么l codi o ganolfan awyr yng Ngheredigion.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau fod swyddogion wedi gorfod atal y fflyd gyfan rhag hedfan dros dro yn dilyn y digwyddiad, ond maent bellach wedi ailddechrau hedfan o'r maes awyr.

Fe ddiflannodd y dronau wrth hedfan dros F么r Iwerddon ar 么l codi o Faes Awyr Gorllewin Cymru yn Aberporth.

Nid yw gweddillion y dronau wedi'u darganfod, ac mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.

Mae'r dronau ysb茂ol newydd yn rhan o gynllun cudd-wybodaeth y Fyddin, ac wedi profi'n hynod ddadleuol, wrth i nifer o brotestiadau gael eu cynnal ym Maes Awyr Aberpoth gan ymgyrchwyr heddwch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Roedd yn rhaid i ni atal y Watchkeepers rhag hedfan am gyfnod byr wrth gynnal ymchwiliadau cychwynnol, ond fe ailddechreuodd y treialon hedfan yn gynnar ym mis Gorffennaf.

"Mae ymholiadau i'r digwyddiadau penodol yn parhau wrth i ni edrych i ddysgu popeth a allwn ohonynt."

Protestwyr

Roedd ymgyrchwyr yn protestio y tu allan i'r maes awyr fore Mercher.

Mae un protestiwr, Harry Rogers, sy'n rhedeg Drones Campaign Network Cymru, yn poeni am ddiogelwch ar 么l damwain arall.

"Mae dau ddigwyddiad blaenorol wedi bod - mae un wedi cwympo i'r rhedfa rhyw dair blynedd yn 么l, a daeth un arall i lawr ar y ffordd tu allan i'r ganolfan a tharo car oedd wedi parcio," meddai.

"Doedd neb yn y car, ond gallai rhywun fod wedi bod.

"Y prif reswm sy'n poeni pobl am y dronau yn yr ardal hon yw'r s诺n a'r mater o wyliadwriaeth, ac mae pobl yn poeni am eu preifatrwydd."