Â鶹ԼÅÄ

'Diffyg arweiniad yng Nghymru ar driniaeth prolaps'

  • Cyhoeddwyd
Vaginal mesh
Disgrifiad o’r llun,

Gall y mewnblaniad gael ei ddefnyddio i gynnal organau

Mae diffyg gweithredu cadarn gan Lywodraeth Cymru ar ddefnydd rhwyll yn y fagina (vaginal mesh) yn "gryn syndod", medd clinigydd blaenllaw.

Mae Dr Wael Agur, sydd wedi cynghori llywodraethau San Steffan a'r Alban ar y mater, yn cefnogi galwadau gan rai cleifion o Gymru i wahardd y rhwyll blastig sy'n cael ei defnyddio ar gyfer prolaps y fagina.

Wedi adolygiadau, dyw hi ddim yn arferol i'r Alban na Lloegr bellach gymeradwyo defnyddio rhwyll i drin prolaps.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru bod gan Gymru y systemau a'r strwythurau cywir i gael yr un canlyniad.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer wedi cael poenau mawr yn dilyn y mewnblaniad

Dywedodd y clinigydd Dr Agur: "Ychydig o ddiddordeb sydd wedi bod gan Lywodraeth Cymru. Dy'n nhw ddim wedi bod yn dangos fawr o ddiddordeb i fod yn rhan gyson o'r grwpiau sy'n trafod y mater.

"Mae hynny yn gryn syndod gan fod barn gadarn o blaid ac yn erbyn y defnydd o rwyll."

Ychwanegodd bod yr astudiaeth orau yn y maes wedi cael ei gwneud gan gynaecolegwyr arbennig o Gymru ac o ystyried hyn, mae'n fwy o syndod byth nad yw Cymru yn rhan flaenllaw o'r trafodaethau.

Er hynny, dywedodd un o gyd-awduron yr astudiaeth, Dr Simon Emery o Brifysgol Abertawe, fod llawfeddygon yng Nghymru yn gyffredinol yn tueddu i beidio gosod rhwyll lle nad yw hynny'n addas.

Ychwanegodd nad oedd y problemau sydd wedi deillio o'r rhwyll yng Nghymru yn niferus.

Achosion yn erbyn y GIG

Mae'r mewnblaniadau, sy'n cynnwys gwahanol fathau o dâp plastig, yn cael eu defnyddio i drin anymataliaeth (incontinence) ac i gynnal organau megis y bledren, y coluddyn a'r fagina sydd yn gallu mynd o'u lle wedi rhoi genedigaeth i blentyn.

Mewn rhai achosion mae'r rhwyll wedi achosi problemau cymhleth i gleifion ac mae nifer o ferched yn y DU wedi dwyn achos yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd.

Mae'r mewnblaniadau yn parhau i gael eu rhoi i gleifion ar gost y GIG ond mae adolygiadau diweddar yn Lloegr a'r Alban yn dweud na ddylent gael eu defnyddio, heb ystyriaeth, i drin prolaps organau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jemima Williams yn dweud ei bod hi mewn poen difrifol wedi'r mewnblaniad

'Hynod boenus'

Mae Jemima Williams, 57 oed o'r Barri yn dweud ei bod hi weithiau yn ei chael hi'n anodd codi o'r gwely, cymaint yw'r boen wedi'r mewnblaniad.

Mae'n galw am wahardd cynnyrch o'r fath.

"Mae'n hynod o boenus, " meddai, "mae'n ofnadwy ac mae e'n mynd â chi i le tywyll iawn.

"Mae e fel weiren neu falwr caws yn torri mewn i'ch tu mewn. Mae'n boen na ellwch ddianc rhagddo."

Ychwanegodd Ms Williams ei bod ar un adeg wedi byw bywyd gweithgar ond bellach dyw hi ddim yn gyrru a rhaid iddi fodloni ar gerdded yn unig.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chynrychioli yn y grŵp sy'n trafod y mater.

"Byddwn ni nawr yn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn unol â chynnwys yr adroddiadau sydd wedi deillio o'r cyfarfod.

"Byddwn yn sicrhau bod ein holl wasanaethau yn cydymffurfio â'r cyfarwyddyd sydd wedi'i nodi. Mae gennym y systemau a'r strwythurau iawn yma yng Nghymru - strwythurau a fydd yn sicrhau ein bod yn cael yr un canlyniadau â'r Alban a Lloegrm, a phan y byddwn yn defnyddio'r mewnblaniad, byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddefnyddio'n iawn."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn sefydlu grŵp arbennig er mwyn sicrhau bod argymhellion amrywiol adolygiadau yn cael eu gweithredu.