Profiad athrawes 20 mlynedd ers refferendwm 1997

Disgrifiad o'r llun, Mae Carla Bartlett yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

Yn 1997 fe bleidleisiodd pobl Cymru o blaid ffurfio Cynulliad Cenedlaethol fyddai'n rhoi pwerau deddfu i Gymru. Ymhlith y pynciau sydd bellach wedi eu datganoli mae addysg.

Roedd Carla Bartlett yn ddisgybl yn chweched dosbarth Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, neu Ysgol y Cymer fel oedd hi'n arfer cael ei hadnabod pan ddigwyddodd y refferendwm. Mae hi nawr yn ôl yn yr ysgol yn gweithio fel athrawes Gymraeg.

Dyma ei hargraffiadau o'r newidiadau yn y byd addysg a sut mae pethau wedi newid ers y cyfnod hynny.

"Bryd hynny [1997] oedd pobl dim ond yn dechre poeni am y sefyllfa ariannol. O'dd benthyciadau myfyrwyr a ffioedd ac ati yn bethe newydd a doedd e ddim yn gymaint o bryder.

"Mae 20 mlynedd wedi pasio ers hynny, a llawer o sôn am ddyled myfyrwyr ar ôl graddio a ffioedd wedi cynyddu yng Nghymru a Lloegr fwyfwy.

"A nawr dw i'n meddwl bod mwy o ofn gan fyfyrwyr o ran y ddyled ma' nhw'n mynd i fynd iddo fe. Mae mwy o fyfyrwyr yn anffodus yn penderfynu byw gartre, mwy nag o'dd e ar y pryd.

"Fi'n credu yn fy mlwyddyn i o'dd mwy neu lai pawb yn mynd i ffwrdd i brifysgolion.

"Yn sicr mae 'na fwy o bwyse... doeddwn i ddim yn teimlo gymaint o bwyse ar y pryd. Oedd 'na fodiwlau, oedd, ond doedd 'na ddim cymaint o gyfleoedd ail sefyll ac ati.

Disgrifiad o'r fideo, Carla Bartlett yn cael ei holi yn 1997 ynglŷn â'r syniad o gyflwyno ffioedd ar gyfer darpar fyfyrwyr oedd eisiau mynd i'r brifysgol

"Mae 'na deimlad gan rai bod nhw'n cael eu profi o hyd, a ma' nhw dan lawer o straen. Mae nifer o fyfyrwyr yn poeni am eu dyfodol nhw, fwy na beth oedd pobl 20 mlynedd yn ôl achos yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

"Mae'r Cynulliad wedi bod yn flaengar iawn gyda nifer o bethau o ran cynhaliaeth i fyfyrwyr ac ati. Hefyd cyflwyno Bagloriaeth Cymru, dw i'n meddwl bod hwnna wedi bod yn gam positif."

Efallai o ddiddordeb...

"Ond mae 'na a dyw'r ffaith bod cymaint o athrawon yn gadael y proffesiwn yn syth ar ôl llwyddo i raddio ac ati, neu yn gynnar iawn yn eu gyrfaoedd, dyw hwnna ddim yn beth positif iawn, a dwi'n meddwl bod e'n sefyllfa argyfyngus ar hyn o bryd.

"Ac mae hwnna wedyn yn cael effaith ar y bobl sydd dal yn y proffesiwn. Mae gyda chi bobl sydd yn addysgu gwahanol bynciau achos bod 'na brinder athrawon.

"[Mae angen] recriwtio athrawon talentog da, llwyddiannus a'u cadw nhw.

Disgrifiad o'r fideo, Mae Carla Bartlett yn dweud bod mwy o ddarpar fyfyrwyr yn dewis byw gartref am fod y gost o fynd i'r brifysgol wedi cynyddu

"Ond y cyflog hefyd. Dydy athrawon ddim wedi derbyn codiad cyflog ers amser hir. Dwi ddim yn meddwl bod hwnna yn helpu gyda statws y swydd chwaith.

"[Mae angen] helpu tynnu tyndra oddi ar athrawon gyda llai o waith papur a phwyslais ar ddata ac ati, fel bod athrawon yn gallu canolbwyntio ar yr hyn sydd yn bwysig sef addysgu plant yn y dosbarth."

Cefnogaeth yno

"Mae 'na fwy o bwyslais nawr ar gyrraedd targedau a rhyw her i gyrraedd y nod. Ond yn sicr mae'r gynhaliaeth yr un peth a beth o'dd hi 20 mlynedd yn ôl.

"Allai mond siarad am yr ysgol fan hyn. Dwi'n gwybod bod ni'n gefnogol iawn i les y disgybl.

"Oes, mae 'na bwysau arnon ni fel athrawon a disgyblion i gyrraedd targedau, ond mae'r gynhaliaeth yma hefyd iddyn nhw."