Ffrae rhwng ACau Plaid Cymru dros 'hawl i brynu'

Mae AC Plaid Cymru wedi cyhuddo un o'i chydweithwyr o danseilio polisi'r blaid ar hawl i brynu.

Mynnodd Bethan Jenkins fod Neil McEvoy yn dileu neges Facebook ble mae'n gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Cymru i atal tai cyngor rhag cael eu gwerthu.

Ond mae Mr McEvoy wedi dweud fod hawl i brynu yn un ffordd i bobl sy'n byw ar stadau cyngor allu bod yn berchen eu cartref eu hunain.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi polisi'r llywodraeth Lafur, a dywedodd Ms Jenkins, llefarydd tai'r blaid, na ddylai tai cymdeithasol gael eu gwerthu.

'Tanseilio'

Ar 8 Medi fe wnaeth Mr McEvoy, sydd hefyd yn gynghorydd yng Nghaerdydd, bostio fideo ar Facebook o araith a wnaeth yn y Cynulliad yn gynharach eleni yn gwrthwynebu polisi Llywodraeth Cymru.

Mewn neges ochr yn ochr â'r fideo, dywedodd: "Gwerthwch dai cyngor i bobl dosbarth gweithiol. Defnyddiwch yr arian i adeiladu rhagor. Mae i weld yn ddigon syml.

"Ddim bellach, ar ôl i'r 'stafell yma sy'n llawn perchnogion sawl tŷ, wedi'i arwain gan Lafur, wahardd gwerthu tai cyngor.

"Roedd hynny'n un ffordd realistig oedd gan bobl ar y stadau o berchen eu cartref eu hunain ryw ddydd. Nid bellach."

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai cynghorau yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd, eisoes wedi gwahardd cynllun hawl i brynu

Mewn ymateb cyhoeddus i'r neges Facebook, fe awgrymodd Ms Jenkins wrth Mr McEvoy y dylai ddileu ei gyhoeddiad.

"Yn dilyn sgyrsiau e-bost MEWNOL fe ddywedais i wrthoch chi'n glir mai polisi Plaid yw cefnogi dod â'r hawl i brynu i ben," meddai.

Ychwanegodd: "Rydych chi'n tanseilio hynny, polisi Plaid Cymru, a gwaith Sian Gwenllian a minnau ar y pwyllgor sydd yn edrych ar y ddeddfwriaeth yma.

"Mae angen cadw tai cymdeithasol yn rai cymdeithasol. Allwn ni ddim gwerthu rhagor o dai fel eu bod nhw oddi ar y farchnad a methu cael eu defnyddio."