Allfudo: Bygythiad mwya'r Gymraeg?

Disgrifiad o'r llun, Richard Jones, pennaeth Ysgol Garndolbenmaen

Yn yr wythnosau nesaf bydd miloedd o bobl ifanc Cymru yn heidio i brifysgolion. Ond faint ohonyn nhw fydd yn dychwelyd i'w trefi a'u pentrefi genedigol?

Mae mewnfudo wastad wedi ei ddefnyddio fel un o'r rhesymau amlycaf dros dranc y cymunedau gwledig ac un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r iaith Gymraeg.

Ond ai allfudo ydy'r broblem fwyaf mewn gwirionedd?

Dyna ydy barn Richard Jones, pennaeth Ysgol Garndolbenmaen - ysgol gynradd yn Nwyfor Meirionnydd sydd â 53 o ddisgyblion.

"Gollon ni saith o blant, Cymry Cymraeg, yn y cwpl o flynyddoedd dwytha - eu teuluoedd yn symud i Loegr ac i Seland Newydd," meddai.

"Dyna saith o blant fysa wedi cael eu magu yn Gymraeg yn y pentref. Pan 'dych chi'n sôn am boblogaeth o hanner cant, mae o'n lot.

Disgrifiad o'r llun, Bydd hyd yn oed mwy o bobl ifanc yn cael eu denu i'r brifddinas wrth i Gaerdydd ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf?

"Cymraeg ydy iaith iard yr ysgol ar y cyfan ond yn y pentre' ei hun dwi'n meddwl mai Saesneg mae'r plant yn tueddu i siarad.

"Mae 'na lot o dai cymunedol yma yn mynd i ddwylo'r di-Gymraeg."

Ac er bod ceisio dal gafael ar y siaradwyr Cymraeg yn yr ysgolion cynradd yn her, mae Richard Jones o'r farn mai diffyg swyddi a chyfleoedd i'r bobl ifanc maes o law ydy'r talcen caled go iawn.

"Honna ydy'r un anodd," meddai, "- pan maen nhw'n gorffen Lefel A ac yn mynd i ffwrdd i Gaerdydd ac i lefydd eraill - dwi dal methu coelio faint sy'n dewis mynd dros y ffin i golega'. Ma' fy mab i fy hun yn mynd rŵan i'r brifysgol yn Llundain!

"Dwi'n meddwl, pan maen nhw'n cyrraedd 18 oed, dyna pryd 'da ni'n colli nhw. Mae o wirioneddol yn fy mhoeni i. Pan eith y mab i ffwr', ddoith o ddim yn ôl."

Efallai o ddiddordeb...

Mynnodd Llywodraeth Cymru wrth Cymru Fyw bod "ardaloedd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn parhau i fod wrth galon ein gweledigaeth".

"Nid oes ateb hawdd i'r heriau sy'n wynebu cymunedau fel y rhain," meddai llefarydd.

Ond meithrin sgiliau modern ydy'r unig ffordd i gadw'r bobl ifanc yng nghadarnleoedd y Gymraeg, yn ôl Richard Jones.

"Mae 'na lygedyn o obaith efo [atomfa niwclear] Wylfa newydd achos os awn ni allan rŵan i hyfforddi'n plant ni i fod yn beirianwyr ac ati, ella bydd gwaith yma iddyn nhw.

"Mae Dwyfor Meirionnydd ymhlith yr isa' o'r rhanbarthau ym Mhrydain o ran cyflogau isal.

"Dwi'n gobeithio bydd y cwricwlwm newydd yn creu pobl ifanc sy'n fwy mentrus, yn cychwyn yn yr oed cynradd - mae gwaith codio a [thechnoleg gwybodaeth] yn ofnadwy o bwysig.

"'Da ni'n licio 'neud lot o waith technoleg a chyfrifiadureg yn fan hyn. Ma' isio creu mentergarwch pen yma'r byd a rhoi hyder i bobl sefydlu busnesau'n lleol ac ati."

Mae dau blentyn arall - o aelwyd Gymraeg - wedi gadael yr ysgol a'r ardal am y Ffindir yn ddiweddar hefyd, meddai.

Y 'cadarnleoedd'

Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn 2013, un o bryderon mwyaf pobl y gogledd a'r gorllewin am yr iaith Gymraeg oedd pobl ifanc yn symud i ffwrdd.

Steffan Rees ydy swyddog datblygu cymunedol Menter Iaith Ceredigion, neu Cered. Mae'n grediniol bod y pryderon hynny'n parhau mor gryf ag erioed.

"Dwi'm yn meddwl ei fod e'n broblem fawr yng Ngheredigion yn unig - mae e'n wir am gymunedau bach gwledig ar draws Ceredigion a thu hwnt," meddai.

"Mae pobl ifanc yn symud o'r llefydd sydd wedi bod yn gadarnle i'r Gymraeg. Dwi'n gredwr cryf bod allfudo yn fwy o her [na mewnfudo] i'r iaith Gymraeg.

Disgrifiad o'r llun, Steffan Rees o Menter Iaith Ceredigion

"Un o'r prif bethau sy'n dod allan o'r Pwerdai Iaith yng Ngheredigion yw bod pobl ifanc, alluog, Cymraeg - sydd wedi cyfrannu gymaint i'r gweithgareddau Cymraeg yn lleol - yn gadael.

"Mae newid mawr yn y ddemograffeg wedyn, gyda phobl o Loegr yn bennaf yn symud i mewn.

"Ni'n gwneud ymholiadau ar hyn o bryd i wneud gwaith ymchwil i mewn i'r ffactorau sy'n achosi pobl i adael felly gobeithio gallwn ni wneud cynllun i annog pobl i ddod yn ôl i'r ardaloedd hyn. Mae Menter Iaith Sir Benfro yn gweld yr un broblem.

"Falle yn yr ardaloedd mwy trefol bod e rhywfaint yn wahanol, ond mae'n broblem gyffredinol oherwydd ma' cefn gwlad wedi bod yn rhyw gadarnle i'r Gymraeg. Ond os yw pobl yn gadael bydd yr un cadarnle'n bod."