Â鶹ԼÅÄ

Ymchwiliad wedi i feddyg roi hormonau i blentyn 12 oed

  • Cyhoeddwyd
Dr Helen Webberley
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Helen Webberley yn rhedeg clinig preifat sy'n arbenigo mewn materion rhywedd yn Y Fenni

Mae 'na ymchwiliad i waith meddyg teulu yn Y Fenni oherwydd cwynion ei bod wedi rhoi hormonau newid rhywedd i blant mor ifanc â 12.

Dydy Dr Helen Webberley ddim yn cael rhoi triniaeth i gleifion trawsryweddol heb oruchwyliaeth tra bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn ymchwilio.

Mae'r meddyg yn dweud bod ei gwasanaeth yn allweddol.

Ond mae un grŵp rhieni yn dadlau bod pobol dan 16 yn rhy ifanc i wneud penderfyniad fydd yn cael effaith mor fawr ar eu dyfodol.

Dywedodd y GMC nad ydyn nhw'n gwneud sylw ar ymchwiliadau os nad ydyn nhw'n arwain at wrandawiad tribiwnlys.

Triniaeth i bedwar o blant dan 16

Daw'r ymchwiliad wedi cwynion gan ddau feddyg teulu am glinig preifat Dr Webberley, sy'n arbenigo mewn rhywedd.

Mae'n cyfaddef iddi roi triniaeth hormonaidd i bedwar o blant o dan 16 - tri pherson 15 oed ac un 12 oed.

Yn ôl canllawiau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, dylai plant aros tan eu bod yn 16 cyn dechrau'r driniaeth.

"Mae nifer o blant dan 16 sydd bron â marw eisiau cychwyn be' maen nhw'n ystyried fel blaenaeddferwydd naturiol yn gynt na hynny", meddai.

"Ac wrth gwrs, mae llawer o emosiwn pan fo rhywun yn sôn am blentyn 12 oed."

Ychwanegodd bod "dim penderfyniadau nac arfarniadau" ar yr honiadau amdani ac mai "agweddau sydd angen eu hystyried" ydyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhybudd Transgender Trends ydy bod y newidiadau sy'n digwydd yn sgil triniaeth hormonau yn "anferthol"

Yn ôl grŵp rhieni Transgender Trends, mae pryderon bod plant "ieuengach ac ieuengach" yn cael triniaeth "yn gynt ac yn gynt".

Dywedodd Stephanie Davis-Arai o'r grŵp bod pobl ifanc ddim pob tro'n "gallu gwneud penderfyniadau hirdymor a mesur manteision a risg".

"Mae'r rhain yn newidiadau anferthol, trawsnewidiol ar gyrff plant, bywydau plant, ac mae'n rhaid bod yn ofalus iawn, iawn cyn cyflwyno'r llwybr at driniaeth i blant". meddai.

Galwodd am reoleiddio meddygon teulu preifat yn y maes "yn llawer agosach".

O fis Mawrth 2018, fe fydd gofal iechyd i bobl drawsryweddol yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd - .

Mae'r amodau ar Dr Webberley yn golygu nad ydy hi'n gallu darparu triniaeth heb oruchwyliaeth tan fis Tachwedd 2018.