Â鶹ԼÅÄ

Blair: 'Wnes i ddim perswadio pawb am ddatganoli'

  • Cyhoeddwyd
Tony Blair
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Tony Blair, roedd llawer o wrthwynebiad i ddatganoli o fewn ei blaid 20 mlynedd yn ôl

Mae'r cyn-Brif Weinidog Tony Blair wedi dweud taw "gwthio" datganoli i Gymru wnaeth e 20 mlynedd yn ôl, heb lwyddo i berswadio pawb o fewn y Blaid Lafur.

Bu Mr Blair yn siarad â Â鶹ԼÅÄ Cymru wythnos cyn nodi dau ddegawd ers y refferendwm wnaeth arwain at greu'r Cynulliad.

Cyfaddefodd hefyd iddo beidio â gwerthfawrogi medr gwleidyddol y diweddar Rhodri Morgan ar ôl gwrthod rhoi swydd iddo yn ei lywodraeth gyntaf, ac wedyn cefnogi Alun Michael i arwain y Cynulliad cyntaf.

Cynhaliwyd refferendwm yng Nghymru a'r Alban ym mis Medi 1997 wedi i Mr Blair a Llafur ennill buddugoliaeth swmpus yn yr etholiad cyffredinol y mis Mai blaenorol.

'Llwybr peryglus iawn'

Dywedodd Mr Blair y bu 'na frwydr "sylweddol" o fewn Llafur.

"Roedd 'na bryderon gwirioneddol am y peth. Roedd 'na bobol o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru, a'r tu allan i'r blaid, a ddaeth i'm gweld i a dweud 'mae hyn yn llwybr peryglus iawn i'w ddilyn'," meddai.

"Â bod yn onest, dwi ddim yn meddwl i fi eu darbwyllo. Yn y pendraw gorfodi'r peth drwyddo wnaethon ni.

"Llywodraeth newydd oedden ni, ac roeddwn i wedi f'argoeddi pe bai hyn ddim yn digwydd, pe baen ni'n bradychu'r ymroddiad i ddatganoli - ac roedd hyn yn addewid yn y maniffesto - fe fyddai hynny'n broblem anferth i ni."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Blair bod Cymru wedi derbyn datganoli fel rhan o setliad cyfansoddiadol y DU

Yn ôl Mr Blair, roedd pobl Cymru yn gyfforddus â'r syniad o ddatganoli o fewn cyd-destun lle byddai'n parhau'n rhan o'r Deyrnas Unedig - yn wahanol i'r Alban lle bu mwy o ymdeimlad o fewn y mudiad cenedlaethol taw cam ar y ffordd i annibyniaeth oedd datganoli.

Ychwanegodd: "Dwi'n dal i gredu yn y bôn fod datganoli wedi'n galluogi i gadw'r DU gyda'i gilydd, ac rwy'n credu os fydd y galwadau am annibyniaeth yn yr Alban yn gostegu, wedyn fydd gennym ni setliad cyfansoddiadol, 20 mlynedd ymlaen - er gwaethaf ambell i straen o bryd i'w gilydd - sydd wedi cadw'r DU gyda'i gilydd."

'Ar flaen y gad wrth ddiwygio'

Mynnodd Mr Blair hefyd ei fod wedi gwerthfawrogi talentau Rhodri Morgan fel gwleidydd, er gwaethaf peidio rhoi swydd iddo yn ei lywodraeth yn 1997 ac wedyn cefnogi Alun Michael i arwain y Cynulliad cyntaf wedi ymddiswyddiad Ron Davies.

"Lle bu anghytuno, roedd hynny gan fy mod i'n credu'n gryf taw holl bwynt gwleidyddiaeth flaengar oedd, mewn byd sy'n newid mor gyflym, bod rhaid bod ar flaen y gad wrth ddiwygio," meddai Mr Blair.

Disgrifiad o’r llun,

Alun Michael (dde) oedd dewis Mr Blair i arwain y Cynulliad cyntaf ar draul Rhodri Morgan (chwith)

"Dyna pam roeddwn i o blaid diwygiadau mawr i addysg, i'r gwasanaeth iechyd ac i gyfraith a threfn. Roedd Rhodri o adain fwy traddodiadol o'r blaid.

"Ond fel gwleidydd, fel arweinydd, fel ffigwr ac i ddweud y gwir fel person, roeddwn i'n ffan mawr. Roeddwn i'n hoff iawn ohono, roedd e'n gwmni da, a mawr oedd fy mharch i Rhodri.

"Fe wnaethon ni anghytuno, dyna i gyd."