Nifer sydd yn profi troseddau casineb LGBT yn cynyddu

Ffynhonnell y llun, EPA

Mae nifer y bobl hoyw, lesbiaid, deurywiol a thrawsryweddol sydd wedi profi trosedd casineb yng Nghymru wedi codi 82% mewn pedair blynedd, meddai astudiaeth.

Yn ôl Stonewall Cymru mae'r niferoedd wedi codi o 11% yn 2013 i 20% yn 2017.

Mae'r astudiaeth wedi ei selio ar bôl YouGov lle cafodd 1,272 o bobl LGBT eu holi.

Dywedodd yr elusen fod "lot o waith i'w wneud i bobl LGBT deimlo yn saff, yn rhan o gymdeithas ac yn rhydd i fod yn nhw eu hunain".

Daw'r pôl piniwn wrth i ymgyrch newydd gael ei lansio, Dewch allan dros LGBT, sydd yn ceisio cael cydraddoldeb go iawn i bobl hoyw, lesbiaid, deurywiol a thrawsryweddol.

Canfyddiadau'r arolwg

  • 23% o bobl LGBT yng Nghymru wedi profi trosedd casineb neu ddigwyddiad yn y 12 mis diwethaf;
  • 39% o bobl yn teimlo yn ofnus dal dwylo gyda chymar yn gyhoeddus;
  • 57% o ddynion hoyw yn teimlo yn ofnus dal dwylo gyda chymar yn gyhoeddus.

Mae'r elusen yn nodi bod trosedd casineb pobl trawsryweddol yn cael ei gynnwys am y tro cyntaf ac yn cydnabod bod trosedd casineb yn cael ei gofnodi yn fwy effeithiol erbyn hyn.

Ond mae Stonewall Cymru'n dweud bod yna "gynnydd gwirioneddol" wedi bod ers yr arolwg mawr diwethaf yn 2013.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Disgrifiad o'r llun, Mae Stonewall Cymru yn dweud bod hi yn bwysig i lygad dystion ddweud wrth yr awdurdodau os ydyn nhw yn gweld trosedd casineb

Dywedodd Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White: "Er ein bod ni wedi dod yn bell o ran gwella hawliau pobl hoyw, lesbiaid, deurywiol a thrawsryweddol yng Nghymru, mae'n amlwg bod yna lot o waith sydd angen ei wneud tan fod pobl LGBT yn teimlo yn saff, yn rhan o gymdeithas ac yn rhydd i fod yn nhw eu hunain.

"Mae'r ymchwil yma yn dangos na allwn ni fod yn hunanfodlon pan rydyn ni yn sôn am amddiffyn hawliau rydyn ni wedi ymladd mor galed i'w gwireddu."

Mae'r adroddiad yn cynnwys profiadau personol:

Gethin, 42: "Fe wnaeth rhywun daflu bleach atai, brics trwy'r ffenestri. Cafodd tân gwyllt eu glynu ar y ffenestri a'u cynnau, ac fe gafodd fy nghariad ei guro yn ddidrugaredd."

Freya, 21: "Fe wnaeth dyn ymosod arna i tra roeddwn i'n dal dwylo fy mhartner lesbaidd. Fe wnaeth e afael yno fi o'r cefn a gwthio ei hun arna i ac yna ymosod arna i yn eiriol."

Macsen, 23: "Unwaith ro'n i'n hebrwng ffrind i'w prifysgol am ei bod yn cael teimladau hunanladdol, felly o'n i'n gafael yn eu dwylo. Fe wnaeth dyn o'n i ddim yn adnabod boeri arnai a sibrwd 'dyke' arna i."