Â鶹ԼÅÄ

Cadeiriau yn eu cynefin

  • Cyhoeddwyd
Cadair Eisteddfod Sir Fôn eleini yn ei chartref newydd, o dan poster y Ramones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cadair Eisteddfod Ynys Môn eleni yn cadw cwmni i'r Ramones yng nghartre'r Prifardd Osian Rhys Jones

Ydych chi wedi eistedd i lawr a meddwl ble mae'r beirdd yn cadw'r holl gadeiriau maen nhw'n eu hennill mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru?

Dyna'r cwestiwn gafodd ei drafod yn swyddfa Cymru Fyw wedi i'r Prifardd Osian Rhys Jones, enillydd Cadair Ynys Môn eleni, rannu'r llun hwn o'i wobr ar Twitter. Osian yw Bardd y Mis Radio Cymru ym mis Hydref.

Disgrifiad,

Y Prifardd Osian Rhys Jones yw Bardd y Mis Radio Cymru ym mis Hydref

Fe aethom ati i gysylltu gyda rhai o'n prifeirdd i ddarganfod sut maen nhw'n ymdopi gyda dod o hyd i le i ddodrefnyn mor fawr. Fel y gwelwch chi, mae 'na ddefnydd amrywiol yn cael ei wneud ohonyn nhw:

Aneirin Karadog: Y Fenni 2016

"Ni'n defnyddio'r gadair pan fo' prinder cadeiriau gyda gwesteion yn ciniawa neu swpera yma, neu ar ambell achlysur i fi neu'r plant gael eistedd ynddi wrth fwyta.

"Ac wy'n eistedd ynddi bob Nadolig i fwyta fy nghinio Nadolig (dim ond un Nadolig sydd wedi bod ers ei hennill, ond mae'r traddodiad wedi dechrau!).

"A gan bod y saer wedi fy rhybuddio i symud y gadair bant o'r rheiddiadur, ry'n ni (wel, fi) wedi penderfynu diffodd y rheiddiadur yn y 'stafell fyw felly rhaid i'r teulu rewi drwy nosweithi oer y gaeaf!

"Yn ogystal â chadw'r silff sgidie yn ei le, 'wy'n defnyddio Cadair yr Urdd i wisgo fy 'sgidiau cyn gadael y tŷ, ac mae angen i fi adnewyddu'r upholstery ar honna gan bod y gath yn joio ei chrafu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gath wedi cael hwyl ar grafu Cadair yr Urdd yng nghartref Aneirin Karadog

Llion Jones: Llanelli 2000

Disgrifiad o’r llun,

Y gadair, yn ddiogel ar ôl ei thaith yn y fan

"Un peth dyw'r Eisteddfod ddim yn dweud wrthoch chi yw fod yn rhaid i chi drefnu cael y gadair adref ar ôl ei hennill.

"Do'n i ddim wedi disgwyl hynny a 'doedd y car ddim yn ddigon mawr i'w chario, felly chwarae teg, ges i ffafr, a daeth y gadair adre' ar fan cwmni teledu Barcud.

"O ran defnydd pob dydd, mae 'na duedd i focsus llyfrau ymgartrefu a chael eu storio arni... yn ogystal â chesys y plant ac ambell beth arall."

Mererid Hopwood: Dinbych 2001

"Pan ddaeth hi gartref gyntaf, dwi'n ofni mod i wedi dala un o'r plant, a oedd ar y pryd yn bump oed, yn ymarfer sgorio gôls rhwng ei choesau… a wedyn, ar ôl i'r antur honno gael ei gwahardd, aeth ati i ddefnyddio'r sedd fel llwyfan i ymarfer 'hedfan' o bopeth.

"Mae'n syml o hardd yn fy llygaid i, a thros y blynyddoedd mae wedi bod yn gelficyn defnyddiol iawn, yn un y gallwch chi ei symud yn 'nes at yr achos' fel bo'r galw!"

Tudur Dylan Jones: Abergele 1995 ac Eryri a'r Cyffiniau 2005

Mae gan rai beirdd fwy o broblem darganfod llecyn addas i'w cadeiriau... gan fod ganddyn nhw fwy nag un.

Trwy lwc, mae'r Prifardd Tudur Dylan nid yn unig wedi cael gafael ar ofod addas ar gyfer arddangos ei gadeiriau, ond maen nhw'n cael defnydd cyson gan y teulu, gan gynnwys, o bosib, y genhedlaeth nesaf o feirdd.

A fydd ei wyres Greta Fflur yn eistedd yn hedd yr Eisteddfod ryw ddydd? Amser a ddengys.

Efallai o ddiddordeb...