Â鶹ԼÅÄ

Yr ifanc a ŵyr? Esther Prytherch a Jacob Ifan

  • Cyhoeddwyd
jacob ac estherFfynhonnell y llun, Esther Prytherch
Disgrifiad o’r llun,

Jacob Ifan ac Esther Prytherch

Mae'r actor Jacob Ifan o Aberystwyth yn ymddangos fel y cymeriad Sam yng nghyfres ddrama newydd S4C nos Sul 10 Medi am 21:00. Mae ei fam, Esther Prytherch yn Bennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yma, maen nhw'n trafod perthynas mam a mab...

Jacob Ifan - 'Dyna'i gyd wyt ti mo'yn fel mab, yw 'neud dy fam di'n hapus'

Rwy' wastad wedi cael perthynas agos â Mam, ni'n debyg iawn. Mae hi wastad wedi bod yn gefnogol, yn gyrru fi i sioeau neu glybiau, beth bynnag o'n i mo'yn 'neud, oedd Mam yn fy nghefnogi i.

Mae hi'n ddynes brysur iawn, ond mae hi'n dal i checko lan arna' i. Mae wastad wedi rhoi lot o ryddid i fi wneud penderfyniadau fy hunan. Os ydw i mo'yn siarad â rhywun ar ôl diwrnod caled yn y gwaith, mae hi yna i fi a ry'n ni wastad ar fin ffonio'n gilydd ar yr un pryd.

Ges i fy ngeni yng Nghaerdydd ac o'n ni'n byw yn Nhreganna tan bo' fi tua naw mlwydd oed. Wedyn fe wnaethon ni symud i Aberystwyth, dyna lle mae fy mam a nhad yn dod o'n wreiddiol. Aberystwyth dwi'n galw adre' ond mae Caerdydd yn agos at fy nghalon i hefyd.

'Lot o gefnogaeth'

Fi ydy'r plentyn canol a fel llawer o actorion, mae'n jôc bod y plentyn canol wastad isie sylw! Mae fy mrawd mawr, Harri yn byw yn Beijing ac yn product designer yn dylunio beics, a fy chwaer fach i Hanna ydy brainbox y teulu. Mae hi dal yn yr ysgol a dwi'n falch ei bod hi'n iau na fi, fel nad o'n i'n teimlo bod yn rhaid i fi fyw fyny iddi!

Mae gen i atgofion hapus iawn o fy mhlentyndod, lot o gariad a lot o gefnogaeth, ma' hwnna'n bwysig. Agwedd ein rhieni ni aton ni'r plant oedd y gallen ni wastad 'neud beth oedden ni mo'yn, dim ond ein bod ni'n hapus. Mae hynny wedi aros gyda fi dros y blynyddoedd.

O'dd Mam wastad wedi gwybod bo' fi mo'yn bod yn actor, cyn o'n i'n gwybod. Doedd hi byth wedi pwsho fi at y cyfeiriad 'na, ond o'dd hi'n dweud "pan fyddi di'n actor yn Hollywood..." ac o'n i'n meddwl "sai hyd yn oed yn astudio Drama yn yr ysgol, felly sai'n gwbod am beth wyt ti'n sôn..."

O'n i'n obsessed gyda ffilms yn tyfu lan ac o'n i'n meddwl bo' fi am fod yn rhan o'r byd yna. O'n i'n meddwl falle mai tu nôl y camera bysen i, ond o'dd Mam yn gallu gweld fy natur i fel person, fy mod i'n hoffi perfformio, o'n i'n well o flaen y camera.

Bues i'n mynd i glwb drama Arad Goch pan o'n i'n tyfu lan, ond o'n i'n dipyn henach pan wnes i gymryd actio'n fwy o ddifri. Ffotograffiaeth o'n i'n mwynhau 'neud, wedyn fe wnes i ymuno â theatr ieuenctid yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, achos o'n i'n ffansïo merch oedd yn mynd yna!

Wrth i fi fynd yn hÅ·n, o'n i'n manteisio ar gymaint o gyfleoedd actio ag o'n i'n gallu a cheisio am le yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. A wedyn that was it.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Jacob Ifan yn chwarae rhan Sam

Do'n i ddim am gael fy nghlymu i un lle, mae actio yn siawns i ddod i gyfarfod â phobl newydd. Mae Mam a Dad wedi 'neud swyddi gwahanol wrth i fi dyfu lan, fe fuon ni'n byw yng Nghaerdydd, Aberystwyth, Y Borth a wedyn pentre' bach Llanfihangel y Creuddyn, lle fuon nhw'n rhedeg tafarn wledig, a mae hynny wedi dylanwadu arna'i, i fod yn spontaneous, 'sdim rhaid bod yn glwm i un swydd, mewn un lle, nid dyma'r diwedd.

Pan ges i ran ar Cuffs, roedd mam fel byddai unrhyw fam pan mae eu mab nhw'n llwyddo... mynd dros ben llestri tipyn bach, ond o'dd e'n neis ei gweld hi'n hapus.

Dyna'i gyd wyt ti mo'yn fel mab yw 'neud dy fam di'n hapus. Falle bod ei breuddwyd hi wedi dod yn wir!

Esther Prytherch - 'mae Jacob yn unigolyn annibynnol sy'n dilyn ei drywydd a'i freuddwydion ei hun'

Mae gyda ni berthynas agos, perthynas rhwydd. Gan fod Jacob yn Llundain neu'n gweithio bant, ni'n cadw mewn cysylltiad drwy WhatsApp, negeseuon testun neu'r ffôn symudol. Mae Jacob yn un o dri a gan fod pawb yn aml ar wasgar, mae sgyrsiau ar-lein yn dueddol o gynnwys sawl, os nad pob aelod o'r teulu, a mynd i sawl cyfeiriad gwahanol. Mae Jacob hefyd yn dod nôl adre i Aber yn weddol reolaidd ac mae wastad yn braf ei gael o gwmpas y tŷ unwaith eto.

Mae 'na debygrwydd o ran golwg rhyngddon ni, ond mewn nifer o ffyrdd, mae Jacob yn ymdebygu i'w dad, yn enwedig ei ddiddordeb byw mewn ffotograffiaeth a ffilm - a'i allu rhyfeddol i golli pethau.

Actio yn y gwaed

Byddai'n braf gallu hawlio'r clod am ei ddawn actio, ac fe allwn i gyfeirio at glyweliad ges i'n wyth oed ar lwyfan yr Old Vic yn Llundain ar gyfer cynhyrchiad o Annie! - ond ches i mo'n newis a dyna ddiwedd ar fy ymgais dila i fentro i fyd y theatr. Mae tipyn mwy o brofiad perfformio ar ochr ei dad.

Bu Taid (Dr Gareth Edwards) yn cyfarwyddo nifer o ddramâu a chynyrchiadau myfyrwyr, yn nyddiau cynnar Theatr y Werin yn Aberystwyth ac roedd modryb Jacob (Manon Edwards Ahir) yn un o brif gymeriadau'r gyfres deledu Jabas ar S4C. Mae ei gefnder Tom Rhys Harries yn actor proffesiynol a'i gefnder arall Gruff Harries yng nghanol ffilmio'r gyfres nesa' o Parch. Mae 'na rywbeth yn y genynnau...

Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth Jacob greu argraff wrth chwarae un o'r prif rannau yn y gyfres ddrama 'Cuffs' ar Â鶹ԼÅÄ One

Gwthio ffiniau

Roedd Jacob yn blentyn annwyl, yn hapus a hwyliog gyda dychymyg byw a synnwyr da o'r digri a'r difyr. Mae 'na elfen o ddireidi a gwthio ffiniau yn perthyn iddo hefyd. Mae ganddo fe gylch arbennig o dda o ffrindiau o'i blentyndod a'i ddyddiau coleg, mae'r 'Hwligang' estynedig yma yn hynod o driw i'w gilydd ac yn fêts da fydde'n gallu dechrau parti mewn bus stop yn Albania.

Roedd Jacob a'i frawd Harri wrth eu boddau yn gwisgo lan ar gyfer y gemau gwych hynny sy'n deillio o ddychymyg plentyn. Roedd llond drâr o wisgoedd ffansi gwahanol o dan y gwely - ond roedd clymu ffedog ei fam o gwmpas ei wddf yn gallu bod yn ddigon i drawsnewid Jac yn Superman neu SuperTed am y diwrnod.

Mae'n anorfod bod rhiant yn dylanwadu ar blentyn. Ym mha ffordd union, mae'n anodd dweud. Ond ar ddiwedd y dydd, mae Jacob yn unigolyn annibynnol sy'n dilyn ei drywydd a'i freuddwydion ei hun a braf yw gweld hynny.

Beth sy'n bwysig i fi yw bod Jac wedi cael pen rhyddid i dorri ei gŵys ei hun. Ry'n ni ar y ddaear yma am gyfnod cymharol fyr, felly mae angen gafael yn yr hyn sy'n tanio'r ysbryd a'r dychymyg - ac sy'n gwneud codi yn y bore i fynd i'r gwaith yn bleser ac yn wefr.

Beth bynnag fo'i drywydd, dwi fel mam yma i'w gefnogi - ac i olchi ei ddillad pan mae'n dod adre.

Disgrifiad,

Jacob Ifan yn trafod 'Bang' gyda Heledd Cynwal ar Bore Cothi, Radio Cymru