Â鶹ԼÅÄ

Enwi Tabernacl Treforys yn hoff gapel Cymru

  • Cyhoeddwyd
CapelFfynhonnell y llun, Google

Mae enillydd cystadleuaeth i ddewis hoff eglwys neu gapel Cymru wedi ei gyhoeddi.

Yr adeilad buddugol gafodd ei ddewis mewn pleidlais gan y cyhoedd oedd capel Tabernacl Treforys ger Abertawe.

Yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol oedd yn gyfrifol am gynnal y gystadleuaeth, a hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth grefyddol Cymru.

Llwyddodd Tabernacl Treforys i sicrhau 7,081 o bleidleisiau gan y cyhoedd. Cafodd yr adeilad, sy'n Adeilad Rhestredig Gradd I, ei ddylunio gan y pensaer John Humphreys ac fe agorodd yn 1870.

Tlws gwydr

Roedd yn gynllun uchelgeisiol ac fe gostiodd £18,000 i'w adeiladu - oedd yn swm sylweddol iawn ar y pryd. Cafodd ei ddisgrifio fel 'Cadeirlan i Anghydffurfiaeth Gymraeg', ac nid yw'r creiriau na'r dyluniad gwreiddiol wedi cael eu haddasu ers i'r capel agor.

Bydd Tabernacl Treforys yn derbyn tlws gwydr i ddathlu'r llwyddiant, ynghyd â gwobr o £500.

Dywedodd y darlledwr a'r newyddiadurwr Huw Edwards, sydd yn is-lywydd yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol: "Rwyf wrth fy modd fod capel Tabernacl, 'cadeirlan y capeli', wedi ei bleidleisio'n hoff eglwys neu gapel Cymru yng nghystadleuaeth 'Cymru Sanctaidd' Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi.

Ffynhonnell y llun, Tabernacl Treforys

"Mae'r capel yn parhau'n ganolfan fywiog i'r gymuned, yn gartref i grwpiau diwylliannol lleol, ymarferion wythnosol gan gorau lleol, diwrnodiau digwyddiadau i'r difreintiedig a phobl ag anableddau, ac wrth gwrs gwasanaethau cyson ar y Sul.

"Mae 'Cymru Sanctaidd' wedi cynorthwyo i dynnu sylw at 50 o'r eglwysi a chapeli mwyaf hanesyddol a hyfryd drwy Gymru... mae wedi bod yn ddathliad gwych o rai o'r adeiladau crefyddol mwyaf godidog yn y byd."

Adeilad 'eiconig'

Dywedodd Huw Tregelles Williams ar ran y Tabernacl: "Fel aelodau o gynulleidfa Tabernacl Treforys rydym wrth ein bodd fod yr adeilad eiconig hwn wedi ennill cystadleuaeth 'Cymru Sanctaidd'. Hoffwn ddiolch i bawb yn ein cymuned ac yn bellach i ffwrdd sydd wedi gwneud hyn yn bosib.

"Mae'r pôl yn adlewyrchu'r nifer fawr o gorau sydd wedi perfformio yma dros y blynyddoedd a'r cynulleidfaoedd oedd wedi mynychu'r cyngherddau.

"Mae addoli a cherddoriaeth wedi mynd law yn llaw ers agor stori'r Tabernacl, pan roedd rhan isaf Cwm Tawe'n brif ddinas copr y byd."

Ffynhonnell y llun, Huw Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Agoron Tabernacl Treforys ei ddrysau am y tro cyntaf yn 1870

Roedd 50 o gapeli ac eglwysi, yn cynnwys Cadeirlan TÅ· Ddewi, Eglwys Santes Gwenffrewi, Treffynnon a Chapel Als, yr addoldy Anghydffurfiol cyntaf yn Llanelli, i gyd ar y rhestr fer.

Heblaw am ddathlu'r adeiladau, gobaith ymgyrch Cymru Sanctaidd yw cynnal sgwrs ynglŷn â sut i'w cadw.

Daw hyn wedi i adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol ddangos bod prinder gwirfoddolwyr i ofalu am yr adeiladau.