Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Elin Mai Davies

  • Cyhoeddwyd
Elin Mai DaviesFfynhonnell y llun, Elin Mai Davies

Y steilydd personol Elin Mai Davies sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fi a fy chwaer yn rhoi makeover i'n brawd a 'neud iddo edrych fel merch (brydferth iawn mae'n rhaid i fi dd'eud).

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Gai restru tri? Tupac, Ryan Giggs a Jessica Rabbit. Rhyfedd ond gwir!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n g'neud gymaint o bethau fyddai pobl eraill efo cywilydd ohonyn nhw bob dydd felly does dim byd yn fy ngwneud i deimlo llawer o gywilydd. Os fydd rhywun arall yn meddwl am rywbeth, 'na i basio fo ffwrdd fel bod yn eccentric/fabulous! Haha!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Cwestiwn da, achos dwi byth bron yn crïo. Fedra i ddim cofio. Mae'n debyg fod gen i lot o toxins felly... wps.

Disgrifiad o’r llun,

Tupac, Ryan Giggs, Jessica Rabbit... Roedd gan Elin dâst amrywiol iawn pan oedd hi'n ifanc!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi ar fy ffôn yn rhy aml yn hwyr yn y nos, sydd yn fy nghadw i'n effro.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llanddwyn achos ei fod yn agos i lle nes i dyfu fyny. Dwi hefyd yn licio dod dros y bont i Sir Fôn - dyna ni olygfa!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Waw, rhy anodd ateb hwn achos mae pob noson allan yn dda am resymau gwahanol. Dwi'r math o berson sydd byth eisiau'r noson i orffen. Un o'r rhai mwya' cofiadwy, dwi'n meddwl, oedd private party efo Wyclef Jean.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Creadigol, hwyl, driven. Neu hefyd: All Or Nothing!

Beth yw dy hoff lyfr?

Unrhywbeth gan Jodi Picoult. Dwi efo attention span byr iawn felly dwi ddim yn darllen hanner digon!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Nelson Mandela - un o bobl mwyaf diddorol a chwyldroadol ein hoes ni. Diod neis, oer yn Ne Affrica efo'r dyn ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin yn hoff o gael mynd adre yn ôl i Ynys Môn ac ymweld â Llanddwyn

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di a beth oeddet ti'n ei feddwl?

Eto, attention span byr felly mae'n rhaid i ffilm fod yn dda i ddal fy sylw. Nes i wylio Passengers bron iawn yr holl ffordd drwadd heb edrych at fy ffôn. Mae unrhywbeth sci-fi fel arfer yn ffefryn gen i.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael parti anferth ar yacht efo Jay Z, Beyoncé a Mariah Carey yn canu. Geith Mariah hefyd fod yn waitress am y dydd. Ga i fod y diva ar fy niwrnod olaf.

Dy hoff albwm?

The Miseducation Of Lauren Hill. Dwi wedi gwrando at hwn drosodd a drosodd a mae o dal 'run mor dda heddiw ag oedd o pan ddaeth o allan.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Ers i fi fynd yn hÅ·n, dwi ddim yn licio pwdin. Wel, mae hynny yn glwydda'. Mae'n rhaid i'r pwdin fod yn ysgafn a slippy down a ddim yn drwm. Dwi'n licio pwdinau old school fel pwdin reis neu dreiffl ac yn anffodus dydi rheiny ddim ar fwydlen y rhan fwyaf o'r llefydd dwi'n mynd iddyn nhw! Dwi'n ffan mawr o brunch sydd fel dipyn o brif gwrs wedyn rhywbeth fel crempog i rannu.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Yn rhyfeddol neb yn y byd ffasiwn, ond rhywun fel Jeff Besos neu Amancio Ortega (wel ocê, mae o yn y byd ffasiwn o fath). Fyswn i isho gwybod sut maen nhw'n rhedeg cwmnïau mor fawr a bod yn llwyddianus. Ella Mark Zuckerberg hefyd. Dwi'n drist nad ydw i'n gallu enwi dynes yn fa'ma!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bu Elin yn cynghori ac yn steilio cystadleuwyr y gyfres Ffasiwn Mecanic, o dan lygad craff y cyflwynydd a'r model Dylan Garner

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Dylan Garner