Â鶹ԼÅÄ

Mynediad anabl i atyniadau twristaidd 'ddim digon da'

  • Cyhoeddwyd
Dyn mewn cadair olwynFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl elusen, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl anabl yn medru mynd i leoliadau diwyllianol a thwristaidd

Mae galwadau i gynghorau yng Nghymru wneud lleoliadau twristaidd ac atyniadau yn fwy hygyrch i bobl anabl.

Mae corff Anabledd Cymru yn dweud bod pobl anabl a'u teuluoedd yn cael eu heithrio o ddigwyddiadau ac atyniadau am nad oes yna doiledau na chyfleusterau addas.

Yn ôl Rhian Davies o'r elusen, dyw'r sefyllfa fel y mae hi "ddim yn ddigon da".

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol wedi cael cais am ymateb.

Rheolaeth dros fywyd pob dydd

Dywedodd Ms Davies - prif weithredwr yr elusen - bod hi'n ymddangos bod "dim digon" yn cael ei wneud i sicrhau bod cymdeithas yn gynhwysol i bobl gydag anableddau.

"Mae pobl anabl a'u teuluoedd yn cael eu hatal rhag dod o hyd i lety, llefydd i fwyta, a mynd i ddigwyddiadau, atyniadau a lleoliadau achos diffyg toiledau hygyrch, cyfleusterau a gwasanaethau", meddai.

"Un o egwyddorion sylfaenol byw yn annibynnol ar gyfer pobl anabl yw eu bod yn cael dewis a rheolaeth am sut maen nhw'n byw eu bywydau bob dydd - mae hyn yn cynnwys mynediad at bethau diwylliannol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Arthur Lewis yn teimlo nad oes yna ddigon i ddiddanu pobl anabl mewn rhai ardaloedd yng Ngheredigion

Mae Arthur Lewis o Sir Amwythig ar ei wyliau yng Ngheredigion gyda'i ferched Katie a Becky. Mae Becky, sydd yn 22, yn dioddef o barlys yr ymennydd ac mae'n ddibynnol ar ei chadair olwyn.

"Ni'n hoffi Aberystwyth a Borth am fod yna lefydd eithaf fflat i ymweld â nhw," meddai Mr Lewis.

"Ond pan aethon ni i weld un o'r atyniadau twristaidd yn y dref, fe ddywedon nhw na fyddai Katie yn gallu ei ddefnyddio yn llwyr.

"Felly doeddwn ni ddim yn gweld pwynt talu. Does 'na'm llawer o ddim i bobl anabl mewn ardaloedd cyfagos fel Cei Newydd, Aberaeron ac Aberdyfi."

Ychwanegodd Mr Lewis bod ei ferch yn ei chael hi'n anodd i ddefnyddio toiledau cyhoeddus hefyd.

"Does 'na ddim llefydd newid go iawn i Katie ddefnyddio," meddai.

Cerbydau trên newydd

Un atyniad sydd wedi er mwyn gwella mynediad i bobl anabl yw Rheilffordd Cwm Rheidol.

Mae'r fenter wedi ailwneud eu trenau ar ôl derbyn grant gan y Gronfa Cymunedau Arfordirol.

"Rydyn ni'n ailadeiladu pedwar cerbyd. Maen nhw'n dyddio 'nôl i'r 20fed ganrif felly does 'na ddim mynediad i bobl anabl," meddai prif reolwr y rheilffordd, Llŷr ap Iolo.

"Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn golygu bod defnyddwyr cadeiriau olwyn yn medru mwynhau tripiau trwy'r cwm heb orfod gadael eu cadeiriau olwyn."