Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Catrin Heledd

  • Cyhoeddwyd
catrin heledd

Y cyflwynydd chwaraeon Catrin Heledd sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio eistedd yn set flaen capel Pont ar Gothi fel morwyn fach ym mhriodas fy modryb pan yn 4 oed. Ro'n i'n gwisgo ffrog gyda sawl haenen o netting. Tra bod yn aros yn amyneddgar fe benderfynais i gyfri (A CHODI) pob un haenen o'r netting dros fy mhen - un wrth un - er mawr gywilydd i Mam odd yn gweiddi arna i o ryw ddwy res tu nôl i fi eistedd yn dawel a bihafio. Druan â'r gweinidog. (7 haenen oedd i gyd gyda llaw).

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Y Brodyr Gregory - Adrian odd y ffefryn.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na sawl peth - ond dwi 'di cael swyddog i'r wasg yn dweud wrthai i beidio gofyn cwestiwn mewn cynhadledd newyddion. Es i'n goch i gyd gan fod y cyfan yn cael ei ddarlledu yn fyw ar y pryd a'r stafell yn llawn dynion profiadol.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddydd Mercher... pan ddwedodd y meddyg wrtha i fod triniaeth canser fy nghariad wedi bod yn llwyddiannus. Dagrau o ryddhad.

Disgrifiad o’r llun,

Catrin yw 'Brenhines yr Hunluniau' - dyma hi efo capten y Llewod Sam Warburton

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Y pethau arferol fel cnoi ewinedd ond dwi'n wael iawn am gnoi cil dros bethe hefyd.. dwi'n meddwl a meddwl am bopeth dwi'n ei wneud neu ei ddweud o'i le ac yn ffeindio hi'n anodd iawn anghofio am y peth a gadael fynd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caerdydd, Aberystwyth yn agos iawn at fy nghalon ond does unman yn debyg i gartre - Pentyrch ger mynydd y Garth.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yn anffodus dwi ddim yn cofio rhai o'r nosweithiau gorau! Ond roedd Cymru yn curo Slofacia o 2 -1 yn ein gêm agoriadol yn Euro 2016 yn Bordeaux yn arbennig.

Roedd 'na dipyn o ddathlu wrth i bawb ymgynnull yng Nghanolfan y Wasg wedi'r gêm a'r newyddiadurwyr o bedwar ban byd wedi eu synnu gan ein brwdfrydedd ni dwi'n credu!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Croendenau, ffyddlon a diolchgar.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ewro 2016 yn gofiadwy iawn i Catrin... ac i Ashley hefyd!

Beth yw dy hoff lyfr?

O'n i wrth fy modd yn darllen pan o'n i'n fach. Ro'n i'n rhedeg llyfrgell yn y tŷ ac yn 'bwcio' a 'stampio' pob un llyfr allan cyn ei ddarllen! T Llew Jones odd y ffefryn bryd hynny… a dwi'n dal i feddwl taw Un Noson Dywyll yw'r ffefryn.

Byw neu farw gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Dwi fel arfer yn awyddus i gwrdd â thestun pa bynnag hunangofiant dwi'n darllen ar y pryd. Felly Amy Schumer ar hyn o bryd (comediwraig o America).

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di a beth oeddet ti'n ei feddwl?

War for the Planet of the Apes. Hir.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ffonio pawb dwi'n ei garu i ddweud bo fi'n caru nhw ac wedyn ffonio pawb dwi'n ei gasáu i neud lan da nhw. Wedyn crio bod y cyfan yn dod i ben cyn i fi allu cyflawni pob uchelgais - cyn gwylio Neighbours am y tro ola'.

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ Sport
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin yn wyneb cyfarwydd ar ochr y meysydd rygbi. Dyma hi gyda Lloyd Williams o'r Gleision.

Dy hoff albwm?

Goreuon Huw Chiswell

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Chicken satay, stecen dda, Sticky toffee pudding (bolgi)

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Warren Gatland - ar ddiwrnod gêm ryngwladol - er mwyn gweld pa mor anodd/rhwystredig yw hi i orfod ateb cwestiynau'r wasg.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Owain Wyn Evans