Â鶹ԼÅÄ

Canoli triniaeth fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd in Bodelwyddan

Mae disgwyl i gynlluniau i gael theatr llawdriniaethau newydd yn Ysbyty Glan Clwyd ddod gam yn nes ddydd Iau, wrth i'r bwrdd iechyd gymeradwyo cynllun gwerth £2.76m.

Theatr Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych fydd y brif theatr ar gyfer llawdriniaeth fasgwlaidd yn y gogledd.

Ond mae 'na ofnau y bydd iechyd cleifion yng Ngwynedd yn cael eu peryglu os yw gwasanaethau yn cael eu canoli yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo mewn egwyddor gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn 2013.

Rhybudd

Mae'r cam wedi derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Fasgwlaidd Prydain ac Iwerddon.

Yn 2015 dywedodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, a fu'n ymchwilio i wasanaethau llawfeddygol fasgwlaidd ar draws y rhanbarth, fod galwadau am i'r gwasanaeth gael ei leoli yn Ysbyty Gwynedd yn blaenoriaethu cystadleuaeth rhwng llawfeddygon yn hytrach na gofal cleifion.

Dangosodd yr astudiaeth hefyd nad oedd systemau ar alwad i gleifion brys yn "ddiogel" ar hyn o bryd, ac nad oedd staff yn gwybod pwy i alw arnynt mewn argyfwng.

Rhybuddiwyd hefyd os nad oedd cam ymlaen yn cael ei wneud i'r cyfeiriad iawn y gallai'r gwasanaethau fasgwlaidd, o bosib, gael eu huno gyda rhwydwaith mwy o ysbytai yn Lloegr a de Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw canoli llawdriniaethau fasgwlaidd yn ysbyty Glan Clwyd

Llynedd bu AC Arfon Sian Gwenllian yn dadlau y byddai canoli'r gwasanaeth yn peryglu iechyd rhai cleifion fasgwlaidd.

Dywedodd: "Os yw gwasanaeth fasgwlaidd yn symud, mae'r arbenigedd yn mynd gydag o, ac mae hynny yn golygu gorfod cyfaddawdu ar gyfer gogledd orllewin Cymru."

Mae oddeutu 300 (20%) o lawdriniaethau fasgwlaidd cymhleth yn cael eu cynnal yn y gogledd bob blwyddyn - bydd gweddill y triniaethau yn cael eu cynnal mewn ysbyty sy'n agos at y claf.

Dywedodd Evan Moore, cyfarwyddwr meddygol y bwrdd iechyd: "Mae unedau fel hyn, sy'n ganolbwynt llawdriniaethau fasgwlaidd mawr, yn cael eu creu ar draws y DU ac mae tystiolaeth yn dangos fod canolfannau o'r fath yn gwella canlyniadau a diogelwch y claf - maent hefyd yn denu'r staff gorau ac yn datblygu'r rhwydwaith mewnol gorau."

Bydd y theatr fydd yn dod i Ysbyty Glan Clwyd yn cyfuno'r offer angenrheidiol ar gyfer llawfeddygaeth ddiogel a thechnoleg ddarlunio ar gyfer llawdriniaeth endofasgwlaidd.

Mae'r bwrdd yn gobeithio cael cyllid gan Raglen Adnewyddu Cyfalaf Iechyd Cymru Gyfan, ac y mae'n bosib y bydd cyfraniad ariannol yn cael ei wneud gan elusen sydd yn gysylltiedig ag iechyd.