Â鶹ԼÅÄ

Sonia Edwards yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn y Brifwyl

  • Cyhoeddwyd
Tu allan i'r pafiliwn
Disgrifiad o’r llun,

Sonia Edwards ar y maes yn dilyn y seremoni

Sonia Edwards sydd wedi cipio'r Fedal Ryddiaith ar faes y Brifwyl ym Môn ddydd Mercher, a hynny am yr eildro.

Hi oedd yn fuddugol pan ddaeth y Brifwyl i'r ynys yn 1999, a 18 mlynedd yn ddiweddarach fe gododd ar ei thraed unwaith eto i dderbyn y Fedal am ei chyfrol ddiweddaraf.

Yn wreiddiol o Gemaes, Ynys Môn, cafodd ei haddysgu yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch a Phrifysgol Bangor. Bu'n athrawes Gymraeg cyn ymddeol yn gynnar i ganolbwyntio ar ysgrifennu.

Mae'n fam i Rhys, sy'n athro ac yn brif leisydd y grŵp Fleur de Lys, ac yn byw yn Llangefni.

'Profiad arbennig'

Wedi'r seremoni dywedodd Sonia Edwards wrth Cymru Fyw: "Roedd hi'n brofiad arbennig eistedd yn y pafiliwn. Er mai dyma'r ail dro i mi ennill mi oedd hi yr un mor gyffroes a'r tro cyntaf.

"Tydw i ddim yn cystadlu rhyw lawer ond gan fod yr Eisteddfod ym Môn roeddwn yn teimlo'r angen i gystadlu a mae hi'n arbennig gallu ennill adref."

Disgrifiad o’r llun,

Gerwyn Williams yn traddodi'r feirniadaeth ar lwyfan y Pafiliwn

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Francesca Rhydderch, Lleucu Roberts a Gerwyn Williams, a'r dasg oedd creu cyfrol o ryddiaith heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Cysgodion.

Cyflwynwyd y Fedal a'r wobr ariannol o £750 gan Bwyllgor Cronfa Eisteddfod Genedlaethol Môn 1957.

20 cyfrol

Derbyniwyd 20 o gyfrolau eleni, ac wrth draddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid o'r llwyfan, dywedodd Gerwyn Williams: "O blith yr 20 cyfrol a ddaeth i law, roedd y tri ohonom yn cytuno bod tua'u hanner yn haeddu cael eu cyhoeddi.

"Cofiwch, mae eu hansawdd yn amrywio, gydag amryw a fyddai'n elwa ar ymyrraeth olygyddol sylweddol, yn destunol ac yn greadigol.

"Ond yn yr ystyr fod yn y gystadleuaeth eleni ddigon o gyfrolau i gadw'n tai cyhoeddi'n brysur a bwydo'r awch am ffuglen Gymraeg gyfoes, bu hon yn gystadleuaeth lwyddiannus."

Cytunodd y beirniaid bod cyfanswm o naw cyfrol yn haeddu cael eu hystyried ar gyfer y wobr ym marn o leiaf un ohonynt.

Ychwanegodd Gerwyn Wiliams: "Gyda'r deunydd yn ymateb mewn amrywiol ffyrdd i'r thema 'Cysgodion', caed nofelau ffantasi, nofelau hanes, croniclau cymdeithasol, casgliadau o storïau byrion, hunangofiant, cyfrolau o lên meicro ar ffurf negeseuon Facebook - ac yn y blaen.

"A chyda'r fath amrywiaeth, mae amrywiaeth barn a chwaeth yn beth anorfod ac iach."

Daiwa SR3

Roedd un cais yn apelio at y tri beirniad sef gwaith Daiwa SR3, casgliad o chwe stori fer sy'n archwilio agweddau ar berthyn.

Yn ôl y beirniaid "dyma storïau aeddfed a llawn empathi gan lenor sy'n meddu ar ddawn dweud, yn wir, meistr ar ffurf y stori fer. Gyda'i ffugenw'n cyfeirio at fath arbennig o wialen bysgota, llwyddodd cyfrol lawn abwyd Daiwa SR3 i fachu'r tri ohonom."

Ychwanegodd Gerwyn Williams: "Mae'n dda gen i felly allu cyhoeddi y dylai pawb ohonom, yn feirniaid a chynulleidfa, fod wedi ein plesio bnawn heddiw: nid yn unig y mae'r gystadleuaeth yn arwyddo'n dda am gyflwr ein rhyddiaith greadigol gyfoes, ond mae yna enillydd tra theilwng i'w fedalu, ac rydym ein tri yn unfryd unfarn mai ffugenw'r enillydd hwnnw yw Daiwa SR3."

Disgrifiad o’r llun,

Y Priflenor Sonia Edwards yn sefyll ar ei thraed yn y Pafiliwn

Mae Sonia Edwards wedi cyhoeddi 27 o nofelau a chasgliadau o straeon byrion i blant, pobl ifanc ac oedolion, ac mae dwy nofel newydd yn yr arfaeth ar hyn o bryd.

Bydd ei nofel nesaf, Glaw Trana, yn ddilyniant i Mynd Draw'n Droednoeth, a gyhoeddwyd yn 2014, ac a addaswyd hefyd ganddi ar gyfer y radio.

Yn ogystal ag ennill y Fedal Ryddiaith y tro diwethaf y daeth yr Eisteddfod i Fôn, bu hefyd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn 1996 am ei chyfrol Gloÿnnod.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Archdderwydd yn cyhoeddi enw'r enillydd

Disgrifiad o’r llun,

Yr Orsedd a'r Archdderwydd ar y llwyfan ar ddechrau'r seremoni

Disgrifiad o’r llun,

Gorymdeithio gyda'r Orsedd wedi'r cyhoeddiad

Disgrifiad,

Seremoni Priflenor Rhyddiaith