Â鶹ԼÅÄ

AC Plaid yn ystyried arwain pan fydd Wood yn gadael

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dewi Llwyd yn holi Rhun ap Iorwerth am arwain Plaid Cymru yn 2017

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y gallai sefyll am arweinyddiaeth Plaid Cymru pan fydd Leanne Wood yn camu o'r neilltu.

Fe wnaeth AC Ynys Môn y sylwadau yn ystod sgwrs ym mhabell Radio Cymru ar faes yr Eisteddfod ym Modedern.

Mynnodd fodd bynnag nad oedd ganddo uchelgais ar hyn o bryd i fod yn arweinydd.

Yn dilyn ei sylwadau mae ffynhonnell arall o fewn Plaid Cymru - Aelod Cynulliad oedd am aros yn anhysbys - wedi galw am her i'r arweinyddiaeth ac i Leanne Wood sefyll o'r neilltu.

Dywedodd yr AC: "Mae angen her i arweinyddiaeth y blaid. Roedd canlyniad yr etholiad o dan Leanne yn siomedig.

"Os ydyn ni am symud ymlaen fel plaid, mae'n bryd i Leanne gamu o'r neilltu. Mae hi wedi colli'i hawdurdod yn y grŵp a bellach does ganddi ddim rheolaeth o'r hyn y mae'r grŵp yn ei wneud."

Ychwanegodd yr aelod fod uchelgais arweinyddol Rhun ap Iorwerth "wedi bod yn glir ers peth amser".

Gwrthododd llefarydd ar ran Plaid Cymru â gwneud sylw.

'Bosib iawn'

Yn y sgwrs gyda Dewi Llwyd, dywedodd Rhun ap Iorwerth hefyd y dylai Plaid Cymru ystyried clymblaid gyda Llafur petai'r "amgylchiadau" yn iawn, ond nad oedd y sefyllfa bresennol yn galw am hynny.

Yn ystod y sgwrs, gofynnodd y cyflwynydd Dewi Llwyd a oedd ganddo fwriad sefyll i fod yn arweinydd unwaith y byddai'r swydd yn dod yn wag.

"Bosib iawn, pwy a ŵyr," meddai Rhun ap Iorwerth, sydd wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 2013.

"Ond dydi o ddim yn rhywbeth dwi ar frys i wneud."

Cyfaddefodd hefyd fod ganddo uchelgais i fod yn brif weinidog Cymru yn y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Leanne Wood wedi bod yn arweinydd ar Blaid Cymru ers 2013

"Mi fyddai cael bod yn brif weinidog ar fy ngwlad fy hun, wrth gwrs, yn rhywbeth fyswn i wrth fy modd yn gwneud, pwy fyddai ddim," meddai.

Dywedodd fodd bynnag ei fod yn hyderus fod Plaid Cymru wedi gwneud y penderfyniad iawn wrth beidio â cheisio mynd i glymblaid gyda Llafur yn dilyn yr etholiadau diwethaf yn 2016.

"Ar hyn o bryd 'dan ni'n gwneud y peth iawn i fod yn wrthblaid," ychwanegodd.

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol yn Aelod Cynulliad Ynys Môn yn 2013, yn dilyn ymadawiad cyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru, Tomos Livingstone

Mae'n her i bob gwleidydd uchelgeisiol - sut i ffeindio ffordd o ateb cwestiynau ynglŷn â'r uchelgais honno heb, a dweud y gwir, ateb y cwestiwn o gwbl.

Michael Heseltine wnaeth ffafrio'r geiriad "no current plans" i ateb pob cwestiwn tebyg, ac, yn Saesneg o leiaf, dyma'r ffordd gliriaf o ddweud ie a na ar yr un pryd.

Yr opsiwn arall yw troi'r cwestiwn ar ei ben - wrth gwrs, pwy na fyddai'n dymuno arwain fy mhlaid/fy nghenedl?

Dyma'r trywydd wnaeth Rhun ap Iorwerth ddilyn ym Modedern y bore 'ma; mantais yr opsiwn yma yw gonestrwydd (ac mae gwell gan bawb wleidydd gonest, yn does?), ond mae'r anfantais yn weddol amlwg - mae'n awgrymu fod disgwyl i'r deiliad adael ei swydd cyn hir.

Ai dyna fwriad Leanne Wood? Y gwir amdani yw na fydd etholiad Cynulliad tan 2021, ac mae 'na ddigon o amser iddi hi (a'i phlaid) benderfynu os taw aros a rhoi cynnig arall arni yw'r opsiwn orau, neu i ildio'r awenau.

Y risg i Rhun ap Iorwerth yw bod siarad mor agored am yr arweinyddiaeth yn cael ei ddehongli fel diffyg teyrngarwch, a bod hynny'n codi gwrychyn selogion y blaid yn hollol ddiangen. Ar y llaw arall, wnaeth "no current plans" ddim gweithio, yn y pen draw, i Michael Heseltine chwaith.

Fe gafodd y sgwrs ei recordio ar gyfer Rhaglen Dewi Llwyd ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru a fydd yn cael ei darlledu ar fore Sul, 27 Awst.