Â鶹ԼÅÄ

Y Gymraeg a thwf 'linguaphobia'

  • Cyhoeddwyd
Charles Forsdick
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Charles Forsdick

Ydy'r Gymraeg a gweddill ieithoedd lleiafrifol brodorol y DU o dan fygythiad yn dilyn canlyniad refferendwm y llynedd? Yr Athro Charles Forsdick, arbenigwr ieithyddol o Brifysgol Lerpwl, sy'n edrych ar effaith Brexit ar 'linguaphobia':

'Ideoleg uniaith beryglus'

Yn ystod ymgyrch refferendwm 2016 cafodd ieithoedd lleiafrifol y DU eu defnyddio yn wleidyddol ac i godi bwganod.

Roedd yr elyniaeth gynyddol tuag at y rheiny oedd yn siarad iaith ar wahân i Saesneg yn amlwg, nid yn unig ar lafar ac mewn cyfres o ymosodiadau treisgar ond hefyd mewn trafodaethau gwleidyddol.

Ymhlith y gwleidyddion gyfrannodd at y rethreg hon oedd Nigel Farage, arweinydd UKIP ar y pryd.

Honnodd iddo deimlo'n

Yn yr un flwyddyn, honnodd Farage fod "rhannau cyfan o'n dinasoedd lle nad oedd unrhyw un yn siarad Saesneg".

Dyma sylw sy'n adrodd cyfrolau am anallu llawer yn y DU i ddeall nad ydy diwylliant cenedlaethol yn gyfystyr ag un iaith genedlaethol, a bod cyfoeth amrywiaeth diwylliedig wastad yn gysylltiedig ag amrywiaeth ieithyddol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nigel Farage yn ffigwr amlwg yn yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r math hwn o genedlaetholdeb, sy'n cyflwyno'r DU yn gwbl Saesneg ei hiaith, wedi treiddio i'r fath raddau nes bod y sylw i ieithoedd yn y blynyddoedd diwethaf wedi cael ei roi o safbwynt ideoleg uniaith beryglus.

Awgrymodd Eric Pickles, Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth y DU yn Rhagfyr 2012, y dylai awdurdodau lleol ddarparu dogfennau yn Saesneg yn unig gan fod cyfieithu yn

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd y Prif Weinidog David Cameron yn gweld amlieithrwydd fel bygythiad hefyd, gan ddadlau - yn groes i unrhyw dystiolaeth gadarn - fod yna gydberthynas uniongyrchol rhwng faint o Saesneg oedd gan ferched Mwslemaidd yn y DU a'u tebygrwydd o fod yn gadarn

Doedd datganiadau fel hyn ddim yn anghyffredin o dan lywodraethau Llafur y gorffennol chwaith, gyda Tony Blair a David Blunkett yn cysylltu 'Prydeindod' gyda'r gallu i siarad Saesneg.

Brexit yn cyfiawnhau rhagfarn?

Mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi bod yn llwyfan i sawl digwyddiad o ragfarn ieithyddol ar wahân i brofiad Farage ar y trên.

Ychydig cyn y refferendwm ym mis Mehefin y llynedd, fe adroddodd un teithiwr fod dieithryn ar fws rhwng Caerdydd a Chasnewydd wedi dweud wrth ddynes oedd yn siarad gyda'i mab

Ar ôl cael gwybod mai Cymraeg oedd y ddynes yn ei siarad (ac nid, fel yr oedd y dyn yn amlwg wedi'i feddwl, Arabeg), cafodd y linguaphobe ei roi yn ei le.

Doedd hyn, fodd bynnag, ddim yn ddigwyddiad prin.

Efallai o ddiddordeb...

Mae canlyniad y refferendwm ar Ewrop yn ymddangos fel ei fod wedi cyfiawnhau ton o ragfarn yn erbyn pobl sy'n siarad unrhyw iaith ond Saesneg.

Yr hyn sy'n drawiadol yn ecoleg ieithyddol gymhleth Prydain yn yr unfed ganrif ar hugain ydy'r cyfosodiad [juxtaposition] rhwng yr ieithoedd lleiafrifol - fel Cymraeg a Gwyddeleg - a'r ieithoedd sy'n cael eu cysylltu â mewnfudwyr mwy diweddar o Ewrop, Affrica ac ati.

Y wasg a'r ieithoedd brodorol

Mae'r rhagfarn glir yma yn erbyn pobl sy'n siarad iaith sy'n wahanol i'r Saesneg yn cael ei ddisgrifio fel linguaphobia.

Cafodd y cysyniad ei fabwysiadu yn gyntaf yn yr 1950au i awgrymu unieithrwydd milwriaethus yn amlygu ei hun fel methiant i ddysgu, i osgoi ac i ddangos drwgdeimlad tuag at ieithoedd eraill.

Yn dilyn Brexit mae'r cysyniad yma yn prysur droi yn ffenomena ideolegol sy'n diffinio perthyn cenedlaethol yn ôl y defnydd ecsgliwsif o'r Saesneg.

Er bod y cyfryngau wedi rhoi'r rhan fwyaf o'r sylw i'r drwgdeimlad ymysg yr ieithoedd 'cymunedol' fel Pwyleg ac Arabeg, mae'r un yn wir am ieithoedd brodorol y DU.

Mae hyn yn amlwg iawn yn yr ymosodiadau diweddar ar y Gymraeg yn y wasg Saesneg, er enghraifft mewn a'r

Disgrifiad o’r llun,

Erthygl The Times ar Ddeddf yr Iaith Gymraeg ym mis Gorffennaf

Mae'r fath linguaphobia yn dangos methiant i gydnabod amlieithrwydd hanesyddol y DU, ac felly hawliau'r bobl i gael eu haddysgu ac i fyw eu bywydau mewn iaith, neu ieithoedd, ar wahân i'r Saesneg.

Mae hefyd yn adlewyrchu methiant parhaol i weld bodolaeth amryw o ieithoedd - mewn ysgolion, prifysgolion, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus - fel adnodd cymdeithasol a diwylliannol, yn hytrach na'n rhwystr i ryw fyth uniaith beryglus o undod cenedlaethol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol