Ateb y Galw: Dyddgu Hywel

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Chwaraewr rygbi Cymru, Dyddgu Hywel sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Rhys Iorwerth yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Dwi ddim yn siŵr os ydy o'n atgof byw, ynteu ailfyw y llun ydw i, ond cofio bod ar draeth Cricieth efo Dad, Mam, Es, Siw a Tryst (y teulu), yn chwarae golff. Ond y prif atgof yw fy mod i'n gwisgo trênyrs newydd Puma am y tro cyntaf, rhai gwyn a choch, a mod i efo obsesiwn am y trênyrs newydd 'ma - nhw oedd y peth gore erioed!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Sam Tân!

Disgrifiad o'r llun, Roedd Dyddgu yn meddwl y byd o'i thrênyrs newydd ar draeth Cricieth ers talwm

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed

Mi wnaeth yna fachgen diethr gicio kebab allan o fy llaw yn Sesiwn Fawr Dolgellau flynyddoedd nôl fel jôc, felly mi wnes i yr un peth i'w pizza, ac mi laniodd y pizza ar do camperfan oedd yn digwydd gyrru heibio.

Y cwbl reit ddoniol tan i'r bachgen gerdded i mewn i fy nosbarth Dylunio a Thechnoleg cyntaf, yn fy swydd newydd fel athrawes ddechrau Medi ryw flwyddyn!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wedi gorfod mynd i'r ysbyty yn dilyn anaf rygbi rhyw fis nôl, a gorfod disgwyl 30 awr am wely! (Roedd diffyg cwsg wedi fy ngwneud yn reit emosiynol!)

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Os oes gen i dipyn ar fy meddwl, fydda i ddim yn gwrando weithie pan ma' rhywun yn siarad efo fi. Ond dwi'n gweithio arno fo!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Tai Duon, Padog - fy nghartref lle ces i fy magu, wedi byw yno am 23 mlynedd, tan i mi symud i Gaerdydd gyda'r rygbi. Ffarm yng nghanol y wlad, mewn cymuned hapus a chlos - does unman yn debyg i gartref.

Mae cyfle i ddod adre o Gaerdydd yn ddihangfa o'r ddinas, yr unig le lle medraf roi switch off o'r rygbi a gwaith am benwythnos bach i ymlacio a mwynhau amser gyda'r teulu a hen ffrindiau ysgol.

Disgrifiad o'r llun, Tybed yw Dyddgu dal yn ffansio Sam Tân ar ei newydd wedd?

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Hwn ydy'r cwestiwn anodda', achos ma' sawl noson yn aros yn y cof rhwng Steddfod, y Sioe Fawr a nosweithiau allan yn Llanrwst a Rhuthun ers talwm.

Ond, 'nai byth anghofio noson allan yn Llanrwst ryw nos Sul ar ôl gêm rygbi yn erbyn merched Blaenau - noson fawr! A chofio mynd i'r ysgol bore wedyn (ar ôl cysgu yn car), a'r dirprwy yn dotio ein bod ni yno mor fore i adolygu at arholiad oedd y diwrnod hwnnw (wedi mynd yn gynnar i gael forty winks ar y soffa ym mloc y chweched oeddwn i!)

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Newydd ofyn i Dad "Disgrifia fi mewn tri gair Dad" (heb ddweud wrtho bod hyn am fod yn gyhoeddus - dwi'm yn meddwl y bydde fo wedi bod mor hael!)

Hynaws, pwyllog a charedig.

Beth yw dy hoff lyfr?

Un llyfr sydd wedi aros yn y cof ydy Llyfr Mawr y Plant, yn enwedig stori Siôn Blewyn Coch.

Disgrifiad o'r llun, Mae hanes y llwynog bach direidus wedi diddanu plant ers iddo ymddangos gyntaf yn Llyfr Mawr y Plant yn 1931

Byw neu farw gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Paned efo Nain Derlwyn. Nain wedi'i chladdu ers dros ddeg mlynedd bellach, ond fyddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i gael sgwrs unwaith eto a dweud fy hanes, yn enwedig ar y cae rygbi.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di a beth oeddet ti'n ei feddwl?

Es i i'r sinema ryw bythefnos yn ôl i weld Baby Driver, ffilm arbennig oedd yn fy nghadw ar flaen fy sedd (nid yw'r enw yn hudo felly, ond mae hi werth ei gweld).

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gwahodd pawb (teulu, ffrindiau, cymdogion, criw rygbi a bar y dafarn leol) i Tai Duon a chael parti mawr yn y sied. Mi fydd un rheol - neb yn cael crïo. Ac mi geith Dyl Mei fod yn DJ.

Dy hoff albwm?

Caneuon Robat Arwyn.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

1. Madarch garlleg mewn saws hufenog, gyda bara ffres, menyn Cymreig a halen Môn.

2. Stecen, sglodion a'r addurniadau i gyd, a halen Môn!

3. Crème brûlée.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Bod yn fi fy hun, ond mod i'n gallu chwarae unrhyw gân ar y piano, heb gopi. Mi fyddwn i wrth fy modd yn cael diwrnod fel hyn!!

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Yvonne Evans

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Disgrifiad o'r llun, Efallai bod Dyddgu ddim yn gallu chwarae unrhyw gân ar y piano heb gopi, ond mae hi'n dalentog iawn ar y cae rygbi!