Â鶹ԼÅÄ

'Rhaid cael gwared ar dabŵ galar'

  • Cyhoeddwyd
Galar a FiFfynhonnell y llun, Lolfa

Mae mam a gollodd fab mewn damwain ddwy flynedd yn ôl yn dweud bod angen cael gwared ar dabŵ galar.

"Pan mae pobl yn fud neu ddim yn cysylltu, mae hynna'n brifo," meddai Esyllt Maelor sydd newydd olygu cyfrol yn crynhoi profiadau ingol pobl sy'n byw gyda galar.

"Rydach chi angen pob cynhaliaeth," meddai Esyllt ar raglen Bwrw Golwg, Radio Cymru ddydd Sul.

Dywedodd: "Wedi colli dwi wedi bod yn ffodus o gael cefnogaeth teulu a ffrindiau amhrisiadwy - mae cynhaliaeth o'r fath yn holl bwysig."

'Pobl ofn mynd i dÅ· galar'

Ychwanegodd: "Ry'n yn byw mewn oes sy'n rhesymu pob dim, disgwyl atebion, rhoi pethau mewn sym - ond mae rhai pethau mewn bywyd y tu hwnt i'n dirnadaeth ni.

"Mae pobl ofn mynd i dÅ· galar gan boeni be mae nhw'n mynd i'w ddweud - ond weithiau does dim eisiau dweud dim byd, mae'r tawelwch yn ddigon ac yn gymorth.

"Wrth hel brofiad pawb yr hyn ar gyfer y gyfrol sy'n amlwg yw fod profiad pawb yn wahanol - taith bersonol yw'r cyfan ond beth sy'n clymu pawb yw'r cariad mawr."

Un sydd wedi cyfrannu i'r gyfrol yw'r awdures Sharon Marie Jones a gollodd ei mab bach Ned mewn damwain y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Rwy'n gobeithio y bydd yr hyn dwi wedi'i ysgrifennu yn gwneud i bobl siarad am alar, medd Sharon Marie Jones

Mewn neges drydar mae hi'n dweud: "Dwi wedi sgwennu o ryw dywyllwch sydd wedi ymdreiddio i'm henaid ers colli Ned - ond gyda'r gobaith y bydd e'n annog eraill i siarad am alar."

Ers colli ei gŵr Eifion Gwynne ym mis Hydref mae Nia Gwyndaf wedi bod yn ysgrifennu at Eifion mewn llyfr nodiadau ac y mae hi hefyd yn credu bod siarad am bethau yn bwysig.

"Rwy'n gobeithio y bydd y gyfrol hon," meddai Esyllt, "nid yn unig yn help i'r galarus ond yn gymorth i'r sawl sy'n ymwneud â'r galarus - rhaid siarad am alar yn agored. Mae mudandod yn brifo."