Â鶹ԼÅÄ

Parciau Cenedlaethol Cymru i golli statws?

  • Cyhoeddwyd
SnowdoniaFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai Parciau Cenedlaethol Cymru golli'r statws o gael eu cydnabod yn rhyngwladol fel ardaloedd gwarchodedig petai adolygiad gan Lywodraeth Cymru yn cael ei weithredu - dyna farn panel o arbenigwyr.

Yn ôl panel asesu Comisiwn y Byd ar Ardaloedd Gwarchodedig mae adroddiad Llywodraeth Cymru ar Dirwedd y Dyfodol yn "gam yn ôl".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n ystyried y sylwadau.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru bump Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol - Gŵyr, Môn, Llŷn, Dyffryn Gwy a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Ymhlith y parciau cenedlaethol mae Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.

Ym mis Mawrth cafodd adroddiad drafft ei feirniadu yn hallt gan gadwraethwyr - roeddent yn dweud nad oedd digon o gyfeiriadau at warchod y parciau cenedlaethol.

Mae'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur yn ystyried Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a pharciau cenedlaethol ym Mhrydain yn fannau sy'n cael eu gwarchod - ac y mae'r comisiwn yn rhan o'r undeb.

Dywedodd y panel, sy'n cynnwys arbenigwyr ar ardaloedd gwarchodedig nad oedd 'bron dim cyfeiriad o gwbl" yn yr adroddiad ar Dirwedd y Dyfodol at gadwraeth.

'Amhosib cynnal y statws'

Os yn gweithredu argymhellion yr adroddiad, dywedodd y panel y byddai hi'n amhosib i Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru barhau i gael eu cydnabod yn rhyngwladol fel ardaloedd gwarchodedig.

Dywedodd Adrian Phillips, aelod o'r panel a chyn brif weithredwr y Comisiwn Cefn Gwlad, wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru nad oedd trafodaeth o gwbl yn yr adroddiad ar "bwrpas gwarchod, y rheswm dros gael parciau ac ardaloedd o brydferthwch eithriadol na sut i ddelio ag unrhyw bwysau sy'n eu hwynebu."

Pwrpas yr astudiaeth ar Dirwedd y Dyfodol, a gafodd ei gadeirio gan yr Arglwydd Elis-Thomas, oedd archwilio i gasgliadau adroddiad arall a oedd yn dweud y dylai Ardaloedd o Brydferthwch Eithriadol a pharciau feithrin "cymunedau gwledig mwy byw".

'Camddeall'

Mewn sylwadau sydd wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru dywedodd y panel fod yr adroddiad hwn wedi "camddeall" casgliadau adroddiad cynharach.

"Dim ond unwaith y ceir cyfeiriad at gyfraniad y sefydliadau yma i gadwraeth yng Nghymru," meddai'r panel.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y grŵp a gynhyrchodd yr adroddiad ar ddyfodol tirwedd Cymru ei gadeirio gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Cafodd y panel asesu ei sefydlu yn 2012 er mwyn canfod pa ardaloedd yn y DU a oedd yn cwrdd â gofynion rhyngwladol ardaloedd gwarchodedig.

Mae'r safonau sydd wedi cael eu gosod gan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur yn nodi'n glir bod yn rhaid i barciau ac ardaloedd o brydferthwch naturiol eithriadol "fod â chynllun cadwraeth hirdymor".

'Beirniadaeth hallt'

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Janet Finch Saunders: "Mae'r sylwadau yma ar adroddiad Tirwedd y Dyfodol yn hynod feirniadol ac y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i bryderon cyrff megis yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur sy'n ymgynghori ar statws ardaloedd gwarchodedig.

"Rhaid i gadwraeth fod yn rhan ganolog o gynlluniau Llywodraeth Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn ystyried sylwadau panel asesu Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar ardaloedd gwarchodedig.

"Yn ogystal bydd y sylwadau yn cael eu hanfon i Gadeirydd Tirwedd y Dyfodol yng Nghymru Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ac i bartneriaid eraill sydd ynghlwm â'r cynllun."