'Da a drwg' i aros yn yr undeb tollau

Mae yna elfennau da a drwg i aros fewn yr undeb tollau yn dilyn Brexit, medd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Mark Drakeford, mae'r farn o fewn Llafur yn amrywio gan fod y sefyllfa mor niwlog ar hyn o bryd.

Mae llefarydd Llafur ar fasnach, Barry Gardiner wedi dweud y byddai aros o fewn y farchnad dollau yn "drychineb".

Ond mae'r arweinydd, Jeremy Corbyn wedi gwrthod diystyru'r posiblrwydd o barhau a'r aelodaeth.

O fewn yr undeb tollau, mae gwledydd yn cytuno i godi'r un tariff ar nwyddau oddi allan i'r undeb.

Unwaith bydd nwyddau ddod drwy ffiniau un wlad, fe allan nhw gael eu symud i wledydd eraill o fewn yr undeb heb codi tariff ychwanegol.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Ysgrifennydd Cyllid yn dweud bod y gwahanol safbwyntiau ar y farchnad sengl a'r undeb tollau yn adlewyrchiad o gymhlethdod y ddadl

Ond byddai aros o fewn undeb y tollau'n golygu na all y DU drafod cytundebau masnach rydd gyda gwledydd eraill.

Fis diwethaf, fe bleidleisiodd 50 Aelod Seneddol Llafur dros barhau'n aelod o'r undeb tollau a'r farchnad sengl.

Dywedodd Mr Corbyn bod yn rhaid i'r DU adael y farchnad sengl am ei fod yn rhan annatod o aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.

Galwodd maniffesto etholiad cyffredinol Llafur am gadw'r budd o fod yn aelod o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn dilyn Brexit.

'Cymhleth'

Dywedodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru'n cefnogi aros o fewn yr undeb tollau fel "mesur trawsnewid" a bod y mater yn un "cymhleth".

"Dwi'n credu fod y gwahanol safbwyntiau sydd wedi eu cyfleu yn adleywrchiad o gymhlethdod y ddadl."

"Yn ein barn ni yn, Llywodraeth Cymru, aros o fewn yr undeb tollau fel mesur trawsnewidiol sydd fwy na thebyg yn iawn, ond rydym yn cydnabod fod y dadleuon yn anodd.

"Ac mae yna elfennau da a drwg i aros o fewn yr undeb tollau.

"Mae'r cymhlethdod yn rea, ac mae ymchwilio iddo'n beth da i'w wneud."

Ddydd Mercher, mynnodd llefarydd Llafur ar y Trysorlys, John McDonnell fod arweinyddiaeth Llafur ar lefel y DU "ar yr un dudalen" a Llafur cymru, ac mai'r nod oedd cael mynediad di-dariff i'r farchnad sengl.