Â鶹ԼÅÄ

'Angen gwasanaethau gwell ar gyfer y digartref'

  • Cyhoeddwyd
Dyn digartrefFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae pobl ddigartref yn cael trafferth cael mynediad at ofal iechyd, yn ôl adroddiad cenedlaethol newydd.

Dywedodd yr adroddiad fod traean o'r bobl a holwyd gan elusen tai Cymorth Cymru wedi dweud fod problemau iechyd yn cyfrannu at y ffaith eu bod wedi colli eu cartrefi.

Mae saith o argymhellion wedi eu gwneud i fyrddau iechyd, landlordiaid a chynghorau i sicrhau gwell gefnogaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn croesawu'r adroddiad ac yn ystyried yr argymhellion.

Profiadau pobl ddigartref

Mae'r elusen - corff ymbarél ar gyfer darparwyr cymorth tai a gwasanaethau gofal cymdeithasol - wedi dadansoddi ymatebion gan 332 o bobl ddigartref sy'n byw mewn 21 o'r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Cafodd yr arolwg ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i edrych ar brofiadau pobl oedd wedi cysgu ar y stryd, wedi aros mewn hostel neu wely a brecwast, neu oedd wedi aros gyda ffrindiau neu berthnasau, ac wedi gwneud cais i'r cyngor fel person digartref.

Dywedodd traean o'r sampl bod eu digartrefedd wedi ei achosi, yn rhannol o leiaf, oherwydd problemau iechyd.

Roedd problemau cyffuriau neu alcohol yn cael eu cynnwys fel materion iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Katie Dalton bod y canlyniadau yn awgrymu fod iechyd gwael yn gallu achosi digartrefedd

Dywedodd bron i chwarter o'r rhai gafodd eu trin mewn ysbyty eu bod wedi eu gadael i gysgu ar y strydoedd neu mewn "llety anaddas" ar ôl gadael.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod mwy na dwy ran o dair o'r rhai wnaeth ymateb heb gael brechiad hepatitis B neu frechiad y ffliw a doedd hanner y menywod wnaeth ymateb ddim yn gymwys ar gyfer profion ceg y groth neu archwiliadau'r fron yn rheolaidd.

'Atal y dirywiad'

Dywedodd cyfarwyddwr Cymorth Cymru, Katie Dalton, bod y canlyniadau yn awgrymu bod iechyd gwael yn achosi yn ogystal ag yn ganlyniad digartrefedd.

"Gall pobl ddechrau profi problem iechyd corfforol neu iechyd meddwl a all effeithio ar eu gallu i wneud eu gwaith - gallent weld eu hincwm yn lleihau neu'n cael ei atal," meddai.

"Dyw'r bobl yma ddim yn gallu fforddio eu rhent neu forgais, ac maent felly yn colli eu cartref.

"Rydym yn gwybod bod tua 30% o bobl sy'n ddigartref yn gweld eu hiechyd yn gwaethygu yn ystod y 12 mis cyntaf, a bod llawer ohonynt yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad i ystod o wasanaethau iechyd a allai fod wedi atal y dirywiad hwnnw rhag digwydd."

Argymhellion

  • Ystyried cyflwyno "Gwasanaeth peidiwch gadael fynd" - lle mae un person yn cydlynu anghenion iechyd a thai er mwyn osgoi bod pobl yn mynd ar goll yn y system;

  • Dulliau newydd i weithio gyda phobl sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth;

  • Sicrhau bod anghenion pob claf wedi eu hasesu cyn gadael yr ysbyty;

  • Dylai Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fonitro beth sy'n cael ei wneud i wella iechyd a lles pobl ddigartref.