Â鶹ԼÅÄ

Ailedrych ar gynlluniau cerflun 'cylch haearn' Y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fe fyddai'r cerflun yn 7m o uchder a 30m o led a'r bwriad yw ei agor yn 2018

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am oedi cyn codi .

Mae'r darn celf wedi hollti barn gan ei fod yn cyfeirio at y cestyll gafodd eu hadeiladu gan Loegr wrth iddyn nhw goncro Cymru.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: "Rydym wedi gwrando, ac yn cydnabod pa mor gryf yw teimladau pobl ynghylch y gosodiad celf arfaethedig yng Nghastell Y Fflint.

"Rydym yn teimlo ei fod yn iawn i ni oedi bellach, ac ailedrych ar y cynlluniau ar gyfer y cerflun.

"Gan gydweithio'n agos â phartneriaid lleol, byddwn yn parhau i weithio ar gynlluniau ar gyfer datblygiadau yn Fflint, gan gynnwys edrych eto ar y cyfleusterau i ymwelwyr."

Ffynhonnell y llun, Geograph/Mike Searle
Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell Y Fflint - heb y cerflun - yn denu tua 30,000 o ymwelwyr pob blwyddyn

Ymysg y beirniad roedd un AC Plaid Cymru, sy'n dweud bod y cerflun yn "sarhad ar y genedl".

Roedd corff treftadaeth Cadw, eisoes wedi dweud y byddai "penderfyniadau... fel y geiriau ar y cerflun yn adlewyrchu safbwyntiau lleol".

Mae'r prosiect £400,000 i fod yn rhan o Flwyddyn y Chwedlau, sy'n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru.

'Sarhad ar y genedl'

Y bwriad, yn ôl y datganiad gwreiddiol, yw nodi trosglwyddo coron Lloegr o un llinach ganoloesol i un arall - digwyddiad sy'n cael ei ddisgrifio yn nrama Richard II gan Shakespeare.

Ond i nifer, mae'n symbol o orthrwm Lloegr dros Gymru.

, dywedodd AC Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, bod "hyn yn sarhad ar y genedl".

, dywedodd y gantores Cerys Matthews ei bod yn "cytuno y bydd adeiladu cylch haearn yn atgoffa cenedlaethau o blant Cymru o'u darostyngiad".