Brexit: Llafur 'ar yr un dudalen' medd McDonnell

Disgrifiad o'r llun, Carwyn Jones a Jeremy Corbyn - ar yr un dudalen?

Mae Canghellor Cysgodol Llafur yn San Steffan, John McDonnell wedi mynnu fod arweinyddiaeth y blaid "ar yr un dudalen" pan mae'n dod at Brexit.

Daw hynny er i'r prif weinidog Carwyn Jones awgrymu y dylai'r DU ddilyn y model Norwyaidd ar ôl gadael yr UE, a pharhau yn rhan o'r farchnad sengl.

Dros y penwythnos roedd arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn wedi dweud na fyddai'r DU yn parhau'n rhan ohono pan fydd y wlad yn gadael Ewrop.

Roedd un o ASau Llafur Cymru, Wayne David hefyd wedi dweud y byddai aros yn y farchnad sengl yn golygu "colli sofraniaeth" yn sylweddol.

'Rhannu amcanion'

Cyn ymweld â Sir Benfro ddydd Mercher, dywedodd Mr McDonnell fod prif weinidog Cymru ac arweinydd ei blaid yn San Steffan yn rhannu'r un "amcanion".

"Os yw Cymru am ffynnu, mae'n rhaid i ni gael mynediad heb dollau i'r farchnad sengl," meddai.

"Mae Carwyn Jones wedi dweud yn union yr un peth â Jeremy Corbyn."

Ychwanegodd y byddai "statws arbennig" y DU fel pumed economi fwyaf y byd yn hanfodol wrth drafod bargen fasnachu dda gyda'r UE.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae John McDonnell yn mynnu fod arweinyddiaeth Llafur yn cytuno ar Brexit

Dyw Norwy ddim yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, ond maen nhw dal yn rhan o'r farchnad sengl fel aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA).

Mae'n rhaid iddyn nhw wneud cyfraniad ariannol a derbyn y mwyafrif o ddeddfau'r UE, ond does ganddyn nhw ddim dylanwad yn y broses o'u creu nhw.

Mae'r trefniant hwnnw ar gyfer y DU wedi cael ei feirniadu gan rai o fewn y blaid Lafur, gan gynnwys ysgrifennydd masnach y blaid Barry Gardiner.

Ond ddydd Llun dywedodd Mr Jones: ""Fydden ni ddim â grym dros y rheolau, ond byddai gennym ni fynediad llawn a dilyffethair."