Dwy ochr i'r cylch

Y bwriad yw dathlu Blwyddyn y Chwedlau ond mae'r cylch haearn sydd wedi ei gomisiynu ger Castell y Fflint yn cael ei weld gan rai fel symbol o orthrwm y Cymry.

Beth?

Mae £395,000 wedi ei glustnodi ar gyfer y cerflun ac mae'n bosib y bydd y cylch yn saith metr o uchder a 30m ar ei hyd. Pan fydd yn agor i'r cyhoedd yn 2018 bydd hi'n bosib i ymwelwyr gerdded arno a mwynhau golygfeydd o'r castell ac ar draws ceg yr afon Dyfrdwy.

Pam?

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r cynllun buddugol yn symbol o goron wedi rhydu ac fe fydd y cerflun yn cynrychioli'r berthynas rhwng teuluoedd brenhinol yn y canol oesoedd a'r cestyll wnaethon nhw eu codi. Mae ei leoliad yn Y Fflint yn nodi trosglwyddo'r goron o un llinach ganoloesol i un arall - digwyddiad sy'n cael ei ddisgrifio yn nrama Richard II gan Shakespeare.

Castell Fflint oedd y lleoliad wrth i Richard II ildio'r goron i Harri IV, digwyddiad sy'n cael ei weld fel un gafodd gryn effaith ar hanes Prydain ac Ewrop.

Meddai'r Ysgrifennydd Diwylliant Ken Skates: "Ar ei anterth fe chwaraeodd Castell y Fflint ran allweddol wrth ffurfio dyfodol Cymru ond hefyd gweddill y DU ac Ewrop."

Ond...

Mae deiseb wedi ei llunio i wrthwynebu'r cylch. Mae'r trefnwyr yn dehongli'r cylch fel symbol o'r 'cylch haearn' o gestyll gododd Edward I er mwyn cryfhau ei reolaeth dros y Cymry.

Mae Izzy Evans, trefnydd y ddeiseb yn dweud mewn erthygl ar : "Mae'r cestyll yna'n barod i'n hatgoffa o goloneiddio Cymru. Dylai unrhyw gofebau ry'n ni'n eu codi o hyn ymlaen sefyll i gynyddu'n balchder o'n hanes ein hunain a'n cyndeidiau frwydrodd yn ddewr dros ryddid."

Disgrifiad o'r sainYr hanesydd- Hefin Mathias "anwybodaeth pobl Cymru o'u hanes"

Symboliaeth wahanol

Roedd Castell y Fflint yn un o'r cestyll cyntaf iddo eu codi yng Nghymru wedi'r ymgyrch filwrol lwyddiannus yn erbyn Llywelyn yn 1277.

Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes

Disgrifiad o'r llun, Cofeb Llywelyn ap Gruffydd, Cilmeri: Oes angen rhagor o gofebau i nodi cyfraniad y Cymry eu hunain?

Ceisiodd y Cymry adennill tir yn 1282 ond aflwyddiannus oedd yr ymgyrch hon yn y pendraw.

Yn ogystal ag adnewyddu rhai o gestyll ei dad, roedd Edward I yn benderfynol o osgoi trydydd gwrthryfel ac felly aeth ati i godi cestyll Biwmares, Conwy, Caernarfon a Harlech i gwblhau 'cylch' o gadernid yn nhiroedd y gogledd. I rai dyma ddechrau go iawn ar ddarostyngiad y Cymry fel cenedl.

Ymateb?

Ddydd Mercher 26 Gorffennaf wedi i filoedd o bobl arwyddo'r ddeiseb, cyhoeddodd Ken Skates y bydd 'na ailfeddwl:

Dywedodd y Gweinidog y bydd 'na adolygiad o'r cynlluniau ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr yn Y Fflint.