Côr Merched Sir Gâr yn Riga

Disgrifiad o'r llun, "Ry'n ni wedi ennill!" Côr Merched Sir Gâr ar ben eu digon ar ôl ennill Côr Cymru ym mis Ebrill

Mae gobeithion Cymru yng ngofal Côr Merched Sir Gâr.

Ym mis Ebrill fe enillon nhw gystadleuaeth Côr Cymru a nos Sadwrn 22 Gorffennaf fe fydden nhw yn cystadlu yng nghystadleuaeth yn Riga.

Cofiwch y gallwch ddilyn y gystadleuaeth mewn dwy raglen arbennig ar S4C

  • Côr Eurovision: Y Daith i Riga, 21 Gorffennaf, 20:25
  • Côr y Flwyddyn Eurovision 2017, 22 Gorffennaf,18:30

Ffion Moore a Lois Campbell, dwy o aelodau'r côr sy'n rhannu profiadau'r daith hyd yma gyda Cymru Fyw.

Dydd Llun

Lois: Heddiw oedd diwrnod cyntaf y daith fawr! Fe aethon ni ar y bws o Neuadd y Gwendraeth ym Mhontyberem i westy yn Gatwick er mwyn aros dros nos cyn teithio'n y bore bach i Riga.

Roedd y teimladau ar y bws yn rhai cymysg - llawer ohonom yn gyffrous i deithio i Latfia ac eraill yn nerfus i ganu mewn cystadleuaeth mor fawr!

Erbyn diwedd y noson gyntaf roedd pawb yn flinedig ar ôl siwrne hir ar y bws!

Disgrifiad o'r llun, Ma' pawb wedi cofio'r pasbort 'na gobeithio!

Dydd Mawrth

Ffion: Codi cyn cŵn Caer heddiw! Dihuno am 5:45 y bore a brecwast o fewn yr awr. I ffwrdd am y maes awyr i ddal yr awyren erbyn 10.10.

Fe fuon ni yn canu 'Rownd yr horn' ar gyfer cwmni Rondo, sy'n ffilmio'r daith i S4C - gyda gweddill y teithwyr yn mwynhau'r adloniant. Fe wnaethom ni gyrraedd Riga tua 15:00

Lois: Fe gawson ein tywys i fws er mwyn teithio i'n gwesty yng nghanol y brifddinas cyn mynd ar daith o amgylch Arena Riga lle byddwn yn canu! Ar ôl y daith cawsom swper blasus yn y gwesty cyn ymlacio am weddill y noson.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Ddraig yn hedfan! Trystan Ellis-Morris, cyflwynydd y ffeinal ar S4C, gyda'r criw yn Riga

Dydd Mercher

Ffion: Heddiw fe fues i a'm grŵp gyda chriw S4C yn teithio o gwmpas y ddinas yn ffilmio ar gyfer y rhaglen deledu. Wedi hynny aethom ar daith i gyfarfod y côr merched o Latfia - un o'r corau eraill yn y gystadleuaeth i gael cymdeithasu a phicnic.

Lois: Ar ôl brecwast cawson ni'n rhannu i ddau grŵp. Ro'n i gyda'r criw aeth i ffilmio gyda S4C. Aeth y grŵp arall i ffilmio hysbyseb ar gyfer sianel deledu TV Latvia.

Fe wnaethom ni ganu gyda Côr Merched Latfia a g'neud ffrindiau newydd cyn teithio i'r gwesty am seibiant haeddiannol!

Disgrifiad o'r llun, Mae hi'n neuadd fawr ond 'dyw hi?

Mae hi'n swnio fel wythnos gyffrous iawn hyd yma. Pob lwc nos Sadwrn ferched!

Cofiwch ymuno gyda Trystan Ellis-Morris, Morgan Jones ac Elin Manahan Thomas ar gyfer y rownd derfynol yn fyw ar S4C am 18:30 nos Sadwrn, 22 Gorffennaf.