'Angen dysgu ai fe neu hi yw pobl trawsryweddol'

Ffynhonnell y llun, Jasper Williams

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Jasper Williams ei geni yn ferch a dechreuodd gymryd hormonau pan yn y brifysgol

Mae peidio cael gwybod digon am genedl pobl trawsryweddol yn creu "embaras" i ddarlithwyr addysg uwch ac gallai hynny arwain at faterion cyfreithiol, medd un undeb addysg.

Yn ôl Lesley Tipping o Undeb yr ATL, mae staff yn drysu pa ragenw i'w ddefnyddio ac y mae angen hyfforddiant.

Mae Stonewall Cymru yn dweud bod o leiaf hanner nifer o fyfyrwyr traws yn cael eu bwlio, ac nad yw'r rhan fwyaf o staff wedi'u hyfforddi i ddelio â'r hyn sy'n digwydd.

Mae Jasper Williams, sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor, yn dweud bod staff wedi "cael trafferth" wedi iddo ddweud yn y chweched dosbarth ei fod yn berson trawsryweddol.

'Gwybodaeth ddiffygiol'

Mae Mr Williams yn swyddog gydag undeb NUS Cymru.

Dywedodd: "Doedd un athro [chweched dosbarth] ddim yn derbyn fod person ddim yn wrywaidd nac yn fenywaidd.

"Roedd yr athrawon eraill yn iawn ond dal yn cael trafferth."

Ffynhonnell y llun, Jasper Williams

Disgrifiad o'r llun, Newidiodd Mr Williams ei enw yn gyfreithiol cyn dechrau yn y brifysgol

"Mae'r wybodaeth sydd ar gael yn ddiffygiol iawn."

Dywedodd Andrew White o Stonewall Cymru bod y rhan fwyaf o ddarlithwyr yn gefnogol, ond nad oeddynt yn sicr sut oedd gwneud hynny.

"Ry'n ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o staff eisiau delio â bwlio trawsffobig - ond dyw'r rhan fwyaf ddim wedi cael hyfforddiant i wneud hyn," meddai.

'Embaras'

Dywedodd Ms Tipping fod y cyfrifoldeb hefyd yn aml ar staff colegau.

"Does 'na ddim hyfforddiant gorfodol ar hyn o bryd, ac ar hyn o bryd mae'r cyfan yn ddibynnol ar ewyllys y coleg i wneud hynny," meddai.

"Mae'n bosib i ddarlithwyr gael eu rhoi mewn safle o embaras wrth iddynt gyfarch rhywun gyda'r rhagenw anghywir.

"Ry'n ni'n awyddus i ddarlithwyr gael hyfforddiant ac i ddeall cyfreithlondeb y mater ac i sicrhau nad ydynt yn teimlo'n chwithig mewn unrhyw ffordd. Os nad ydym yn sicrhau bod hyfforddiant ar gael mi allai'r cyfan fynd i gyfraith."

Ffynhonnell y llun, Jasper Williams

Disgrifiad o'r llun, Mae'n well gan Jasper Williams gael ei adnabod fel "fe"

Mae Stonewall Cymru yn dweud bod dau o bob pump o bobl traws wedi ceisio lladd eu hunain.

Mae Jasper Williams yn dweud hefyd fod adnoddau fel toiledau yn anodd i fyfyrwyr traws ac anneuaidd.

"Mae toiledau yn ymwneud yn benodol â bod yn fachgen neu'n ferch ac mae toiled arall ar gyfer pobl anabl - a dwi ddim yn hapus iawn i ddefnyddio hwnna.

"Ro'n i yn ffodus pan o'n i yn yr ysgol gan bo fi'n byw yn ymyl adre ac felly roedd modd i fi fynd adre adeg egwyl."

Ategodd Mr White o Stonewall Cymru fod addysg yn y maes yn hanfodol: "Mae'n bwysig ein bod yn addysgu pobl fel nad yw pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol na thrawsrywiol yn cael eu bwlio ond yn hytrach yn cael eu cefnogi a'u hannog i lwyddo."

Ymateb colegau addysg bellach

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi cysylltu â 14 coleg addysg bellach a sefydliadau yng Nghymru er mwyn canfod pa hyfforddiant amrywiaeth y maent yn ei gynnig i staff.

Tri sydd wedi ymateb hyd yma, ac mae'r tri wedi dweud eu bod wedi gweld cynnydd yn y myfyrwyr sy'n adnabod eu hunain fel myfyrwyr traws, anneuol neu rhyweddhylifol.

  • Dywedodd Coleg Caerdydd a'r Fro fod pob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant a oedd yn cynnwys "nodweddion gwarchodedig", a bod staff a oedd yn gweithio mewn adrannau lle roedd mwy o fyfyrwyr traws neu anneuol wedi cael hyfforddiant mwy manwl. Fe ddywedon nhw hefyd eu bod yn gweithio gyda Traws*Newid Cymru i greu cynllun mwy manwl a hyfforddiant pellach.
  • Mae Coleg Cambria yn dweud bod eu staff rheng flaen wedi derbyn hyfforddiant gan y gymuned drawsrywedd a bod deunyddiau hyfforddi ar gael. Mae hefyd nifer o grwpiau ar gael i fyfyrwyr LGBTQ, ac mae toiledau niwtral o ran rhyw ar gael ar bob safle. Roedd hi'n fwriad i gael mwy yn yr adeiladau newydd.
  • Dywedodd Coleg Sir Benfro bod pedwar o'u 1,500 o fyfyrwyr yn cael eu hadnabod fel myfyrwyr trawsryweddol, a bod ganddynt grŵp ar gyfer myfyrwyr LGBT. Doedden nhw ddim yn gallu rhoi manylion am hyfforddiant staff.