Â鶹ԼÅÄ

'Cynllun yn erbyn' penodi offeiriad hoyw yn Esgob Llandaf

  • Cyhoeddwyd
Jeffrey John
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gwir Barchedig Jeffrey John wedi gweld e-byst drwy gais dan y Ddeddf Gwarchod Data

Yn ei gyfweliad cyntaf â'r Â鶹ԼÅÄ ers etholiad Esgob newydd Llandaf mae'r Gwir Barchedig Jeffrey John yn honni bod "dau esgob wedi cynllunio gyda'i gilydd ymlaen llaw sut i drefnu'r etholiad yn Llandaf" a hynny er mwyn ei gadw allan.

Dywedodd Jeffrey John: "Yn eu barn nhw, byddai esgob sy'n hoyw yn peri gormod o drafferth."

Gwadu'r honiadau mae Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru gan ddweud fod "yr holl broses o ethol a phenodi Esgob Llandaf wedi bod yn un gywir a theg" ac nad yw bod yn hoyw yn atal unrhyw un rhag cael ei enwebu na'i ethol yn esgob.

Daw sylwadau Mr John wedi iddo weld rhannau o e-byst yr esgobion drwy gais dan y ddeddf gwarchod data.

Mae rhannau o'r e-byst newydd eu cyhoeddi ym mhapur newydd The Church Times ac mae copïau ohonynt yn nwylo'r Â鶹ԼÅÄ.

Ymgeiswyr 'da a chredadwy'

Mae e-bost dyddiedig 8 Chwefror, a lofnodir gyda'r enw John ac a gredir gan The Church Times o gael ei anfon gan Y Gwir Barchedig John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu at ei gyd-esgobion yn dweud: "Mae fy ngreddf yn dweud wrthai na fyddai safiad JJ ar fater perthynas un rhyw a'i sefyllfa ef ei hun yn cael llawer o groeso yn yr Esgobaeth...

"Fyddai hynna ddim yn gwneud lot o les chwaith i sut mae'r Fainc [yr Esgobion] yn cael ei gweld adre na thu hwnt."

Mae'r Church Times hefyd yn cyfeirio at e-bost arall y mae'r papur yn credu gafodd ei anfon gan Esgob Llanelwy, Y Gwir Barchedig Gregory Cameron.

Mae'r e-bost yn dweud: "Dw'm yn meddwl bod ganddo unrhyw bleidlais esgobol (?) ac yn bendant nid yw'n denu etholwyr Llanelwy.

"Rhaid i ni er hynny gamu'n ôl a pheidio rheoli'r broses."

Mae e-bost pellach ar 17 Chwefror - e-bost y mae'r papur yn tybio gafodd ei anfon gan yr Esgob John Davies yn dweud: "Byddaf yn cwrdd ag etholwyr Caerdydd, ddydd Llun siwr o fod, ac yn mynegi fy mhryderon."

Ddwy awr wedyn mae e-bost gan John Davies at ei gyd-esgobion yn dweud ei fod wedi clywed bod cefnogaeth yn Llandaf i Dr [Jeffrey] John ac felly "petai ymgeiswyr eraill yn cael eu cynnig bod angen gwneud gwaith cartref da arnynt fel eu bod yn edrych yn dda ac yn gredadwy. Hei-ho!".

Ffynhonnell y llun, Ian Berry
Disgrifiad o’r llun,

Y Deon June Osborne gafodd ei dewis fel Esgob newydd Llandaf

Ym mis Ebrill cafodd June Osborne, Deon Caersallog ei dewis yn wedi i'r Coleg Etholiadol fethu dewis olynydd i'r Parchedicaf Ddr Barry Morgan ym mis Chwefror. Ddydd Sadwrn cafodd .

Mewn cyfweliad ar raglen Bwrw Golwg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru ddydd Sul, bydd Jeffrey John yn dweud bod y "cynllun" honedig yn ei erbyn wedi llwyddo.

Dywedodd: "Llwyddodd y cynllun, er imi gael bron deuparth o'r pleidleisiau, ac er bod yr etholwyr yn Llandaf yn unfrydol am fy apwyntio i.

"A thra bod yr esgobion yn fficso popeth yn gyfrinachol, yn gyhoeddus roedden nhw datgan cyn, yn ystod, ac ar ôl yr etholiad, nad oedd dim rhagfarn a dim rhwystr i bobl hoyw o gwbl yn yr eglwys.

"Mae'r e-byst yn profi mor dwyllodrus a rhagrithiol oedd yr holl broses o'r dechrau.

"Ydw i'n ddig? Wrth gwrs 'mod i'n ddig, mae llawer o bobl eraill yn ddig hefyd. Ond nid teimladau sy'n bwysig, be' sy'n bwysig yw newid y system sy' mor amlwg wedi mynd yn llygredig."

'Dauwynebog'

Wrth gael ei holi am agwedd yr Eglwys tuag at hoywon dywedodd Y Gwir Barchedig John: "Gallwch chi fod yn ddidwyll ond eto'n twyllo eich hun.

"Dwi'n derbyn wrth gwrs bod llawer o Gristnogion yn credu'n ddiffuant, ar sail y Beibl, fod hoywder yn bechod.

"Y broblem yw dehongli y Beibl yn ei gyd-destun gwreiddiol, a gwneud hynny yn onest ac yn gyson.

"Y cwestiwn felly dwi eisiau ofyn yw pam fod cymaint o Gristnogion yn dal i gondemnio hoywon, ond ar yr un pryd yn derbyn - er enghraifft - ysgariad, neu ordeinio merched?

"Pam mae nhw'n dehongli'r Beibl yn llythrennol mewn un achos, ond ar bynciau eraill mae'n nhw'n derbyn dehongliad llawer mwy rhyddfrydol? Mae'r anghysondeb braidd yn amheus, on'd yw e?"

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Methodd y Coleg Etholiadol a dewis olynydd i'r Parchedicaf Ddr Barry Morgan ym mis Chwefror

Ychwanegodd wrth ymateb i gwestiwn am y gwrthwynebiad honedig i'r ffaith ei fod yn hoyw: "Does gen i ddim problem gyda phobl sy'n mynegi eu barn yn onest. Y peth anoddaf gen i yw'r ffaith fod yr eglwys ei hun mor ddauwynebog ar y pwnc.

"Mae pawb yn gwybod fod llawer o offeiriaid ac esgobion yn hoyw, ond yn gyfrinachol.

"Y canlyniad yw bod bwlch mawr rhwng safbwynt swyddogol yr Eglwys, a safbwynt preifat y mwyafrif o esgobion ac offeiriaid."

Gwadu homoffobia

Ganol Mawrth cyhuddodd Y Gwir Barchedig Jeffrey John yn dilyn honiadau bod yr Esgob John Davies wedi dweud wrtho y byddai'n "ormod o gur pen" ei benodi gan ei fod mewn partneriaeth sifil, er ei fod yn dilyn rheolau'r eglwys pan mae'n dod at berthynas rywiol.

Bryd hynny dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru bod yr esgobion yn gwadu'r cyhuddiad o homoffobia ac y maent yn parhau i wadu'r cyhuddiadau.

Wrth ymateb i'r honiadau diweddaraf gan Jeffrey John, dywedodd yr Eglwys yng Nghymru ar ran yr eglwys a Mainc yr Esgobion: "Ry'n yn deall bod gohebiaeth breifat rhwng yr esgobion a oedd ynghlwm â'r broses o ethol Esgob Llandaf wedi dod i sylw'r cyhoedd eto gan eraill.

"Ry'm yn cadarnhau nad yw bod yn hoyw neu yn rhan o berthynas sifil yn rhwystr i unrhyw ymgeisydd gael ei enwebu na'i ethol yn Esgob yn yr Eglwys yng Nghymru.

"Ry'm hefyd yn hapus fod yr holl broses o ethol a phenodi Esgob Llandaf wedi bod yn un gywir a theg.

"Mae'r broses etholiadol o ethol Esgobion wedi bod mewn grym ers 1920 ac wedi'i phrofi. Mae'r broses yn cael ei chynnal yn unol â gofynion Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru."

Bydd modd gwrando ar gyfweliad Y Gwir Barchedig Jeffrey John ar Bwrw Golwg ar Radio Cymru: Bore Sul, Gorffennaf 16 am 08:00 ac ar iPlayer.