Â鶹ԼÅÄ

Da 'di darllen 'de?

  • Cyhoeddwyd

I nifer, gorwedd yn yr haul gyda llyfr da yw eu syniad o wyliau perffaith. Os ydych chi'n pendroni pa lyfr i bacio'n y cês yr haf yma, dyma rai awgrymiadau gan awduron a darllenwyr Cymru...

Mae gan yr awdur Manon Steffan Ros, ac un o enillwyr Gwobr Tir na n-Og sawl llyfr ar ei rhestr ddarllen yr haf yma:

Mae gen i batrwm darllen, llyfrau newydd yn y gwanwyn a'r haf, a hen ffefrynnau yn yr hydref a'r gaeaf! Yr ha' 'ma, mae Pantywennol a Dŵr yn yr Afon ar fy rhestr i.

Byswn i'n dweud bod I Botany Bay gan Bethan Gwanas yn llyfr grêt i'w ddarllen ar wyliau - unwaith 'da chi'n dechra ei ddarllen 'da chi methu stopio!

Dwi am ddarllen llyfrau am Fôn cyn y 'Steddfod Genedlaethol ym mis Awst, Craciau gan Bet Jones, Creigiau Milgwyn gan Grace Wynne Griffith a llyfr hyfryd sydd ddim yn cael hanner digon o sylw, sef Mat Racs gan Siân Williams.

Mae gan y cyflwynydd Trystan Ellis-Morris haf prysur o'i flaen, ond mi fydd yn mynd â llyfr ganddo ar ei deithiau:

Fe wnes i fwynhau darllen Dewis gan Ioan Kidd yn fawr iawn a byswn i'n argymell y llyfr hwnnw. Ond mae'n debyg os wyt ti'n mynd ar dy wyliau, rwyt ti angen llyfr hawdd ei ddarllen wrth ymlacio wrth y pwll, felly byswn i'n awgrymu Fi Sy'n Cael y Ci gan Rhian Cadwaladr. R'on i'n chwerthin yn uchel yn ei ddarllen, a fe wnes i ei fwynhau yn fawr.

Dwi ar fin hedfan i Latvia i gyflwyno Eurovision y Corau i S4C, yna byddai'n mynd yn syth i Ganada ar wyliau, cyn dod yn ôl i weithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dwi yng nghanol prysurdeb popeth ar hyn o bryd felly dwi ddim yn siŵr faint o ddarllen fyddai'n gallu gwneud, ond dwi am fynd â llyfr gyda fi.

Mae Bethan Mair yn adolygydd llyfrau, ac yn edrych ymlaen at y teitlau newydd fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni:

Gan bod yr Eisteddfod yn Sir Fôn eleni, byswn i'n awgrymu i bobl ddarllen Craciau gan Bet Jones. Mae'n ymwneud â digwyddiad yn Llangefni sy'n golygu bod Sir Fôn yn torri i ffwrdd o'r tir mawr, felly fy neges i ydy, os ydych chi'n mynd i Sir Fôn darllenwch Craciau.

Nofel y gallwch chi ymgolli'n llwyr ynddo ydy Awst yn Anogia gan y diweddar Gareth F Williams. Mae'n lyfr gwirioneddol rhagorol, yn llyfr mawr swmpus wedi ei osod ar ynys yng Ngwlad Groeg. Os ydych chi'n mynd ar eich gwyliau i wlad dramor, byddai'n lyfr perffaith i fynd gyda chi.

Dwi 'di prynu Fabula gan LlÅ·r Gwyn Lewis, a dwi'n dala mlaen rhag ei ddarllen tan i fi fynd i'r Steddfod, gan obeithio y bydd 'na lyfrau da newydd i fi eu prynu yno hefyd wrth gwrs.

Mae'r awdur a chyn fardd plant Cymru Anni Llŷn yn cytuno â Bethan Mair ar ei dewis o lyfr:

Byswn i'n awgrymu Awst yn Anogia gan Gareth F Williams fel y llyfr perffaith i fynd ar eich gwyliau, oherwydd mae'n chwip o nofel dda, wedi ei lleoli ar ynys Creta. Mae'n neis i ddarllen stori sydd wedi ei lleoli mewn gwlad arall tra dy fod ar wyliau. Fe fues i'n Vietnam ym mis Ionawr ac fe es i â'r nofel yma gyda fi.

Dwi'n mynd i Ibiza gyda chriw o ffrindiau ddiwedd yr haf, ond mae'n annhebygol bydd cymaint o amser gen i ddarllen yno!

Llyfrau antur sy'n mynd â bryd Tudur Phillips:

'Wi'n joio cydio mewn llyfr pan 'wi'n mynd ar wyliau. Dwi newydd orffen darllen Lladdwr gan Llion Iwan. 'Wi'n joio llyfr antur, cyffrous gyda bach o ymosod a lladd ynddyn nhw a dyna'r math o lyfr y bysen i'n argymell i unrhyw un ddarllen.

Mae Bethan Gwanas yn cofio'r nofel Gymraeg gyntaf a'i hysbrydolodd i sgrifennu nofel ysgafn, a bysai'n ei argymell i unrhyw un:

Awst yn Anogia gan Gareth F Williams ydi fy hoff lyfr Cymraeg i erioed, ond dwi hefyd am enwi Un Peth 'Di Priodi, Peth Arall 'Di Byw gan Dafydd Huws (sydd allan o brint bellach).

Hwn oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i wneud i mi chwerthin; roedd yn glyfar, yn ffraeth ac yn chwa o awyr iach, a dyma'r nofel wnaeth fy sbarduno i feddwl bod modd i minnau roi cynnig ar sgwennu nofel ysgafn efo dogn go lew o hiwmor. Felly roedd yn ysbrydoliaeth hefyd!

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i'r darlledwr Dewi Llwyd, felly mae'n edrych ymlaen i fynd â phentwr o lyfrau ganddo ar ei wyliau yr haf yma:

Pan ddaw gwyliau'r haf wedi blwyddyn brysur, ac mae hon wedi bod yn eithriadol felly, 'does dim yn rhoi mwy o foddhâd na dewis pentwr o lyfrau'n barod ar gyfer y daith. Mae'r rheiny sydd wedi eu rhoi i'r naill ochr ers misoedd, yn mynd i gael sylw haeddiannol o'r diwedd.

Creadur eithaf traddodiadol ydw i - digon tebyg ydi'r dewis bob blwyddyn, cynnyrch yr Eisteddfod, nofelau ac ambell lyfr ffeithiol, gan amlaf am wleidyddiaeth neu chwaraeon. Tebyg fu'r patrwm hefyd ers cyfnod fy arddegau'n mynd i wersylla gyda'r teulu.

Efallai mai nofelau swmpus sy'n rhoi'r pleser mwyaf, cyfrolau trwchus y mae rhywun yn ymgolli ynddyn nhw am ddyddiau. Yn y deng mlynedd diwethaf, mae dwy o'r rheiny'n sicr wedi taro deuddeg, Petrograd gan William Owen Roberts ac Awst yn Anogia gan Gareth F. Williams. Dwy nofel yn mynd â ni ar deithiau hanesyddol gafaelgar, ac yn ffrwyth gwaith ymchwil trwyadl.

Os na chawsoch chi gyfle i'w darllen nhw eto, wnewch chi ddim difaru rhoi lle iddyn nhw yn y cês. Ac os bydda i'n llwyddo i ddarganfod rhywbeth cystal ar gyfer eleni, mi fydda i'n fwy na bodlon.

Disgrifiad o’r llun,

Dewi Llwyd a Shân Cothi - dau o ddarlledwyr Radio Cymru

Fel cyflwynydd rhaglen Bore Cothi ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru bob bore, mae Shân Cothi yn cyfweld â nifer o awduron, ac wedi ei hysbrydoli i ddarllen:

Bysen i'n awgrymu Dŵr yn yr Afon gan Heiddwen Tomos fel y llyfr da i fynd ar wyliau. Fe ges i sgwrs fywiog iawn gyda Heiddwen ar fy rhaglen, a wnaeth fy ysbrydoli i i ddarllen ei llyfr. Gan fy mod i'n dod o'r gorllewin hefyd ac mae'r teulu yn y nofel yn dod o gymuned wledig, byddai'n gallu uniaethu â'r cymeriadau.

Dwi'n bwriadu pacio'r llyfr yma i fynd ar fy ngwyliau i Iwerddon yr haf 'ma.