Seland Newydd 15-15 Y Llewod

Ffynhonnell y llun, Phil Walter/GettyIamges

Disgrifiad o'r llun, Y Llewod a Seland Newydd yn rhannu'r gyfres

Mae'r Llewod wedi disgwyl 46 mlynedd i ennill cyfres yn Seland Newydd ac ar ôl gêm gyfartal yn y trydydd prawf yn Auckland, bydd yn rhaid aros am beth amser eto.

Fel y disgwyl roedd hi'n gêm ddi-gyfaddawd, llawn angerdd ac yn gorfforol galed.

Roedd y chwarter awr cynta' yn gyfle i'r ddau dîm brofi ei gilydd a chwilio am unrhyw wendidau.

Y tîm cartre darodd gynta. Ar y pryd roedd Y Llewod yn ymosod ac o fewn pum metr o'r llinell gais. Cafodd y bêl ei rhyng-gipio gan y Crysau Duon ac mi aethon nhw ar garlam yr holl ffordd i lawr y cae.

Llwyddodd yr amddiffyn i glirio, ond daeth y bêl yn ôl yn syth gyda chic Beauden Barrett yn dod o hyd i'w frawd, Jordie. Bwydodd y bêl i Ngani Laumape, a sgoriodd yn y gornel ,gyda Barrett yn ychwanegu'r ddau bwynt gyda trosiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Laumape yn dathlu cais cynta'r Crysau Duon

O fewn pum munud roedd Y Llewod yn ôl yn y gêm pan giciodd Owen Farrell gic gosb o tua 30 llath. Gydag wyth munud i fynd tan yr hanner manteisiodd Farrell ar gic gosb arall i ddod â'r ymwelwyr o fewn pwynt i Seland Newydd.

Gorffennodd y Crysau Duon yr hanner yn gryf. Cyfunodd Laumape, Anton Lienert-Brown a Jordie Barrett, a llwyddodd y cefnwr i groesi'r llinell gais. 12-6 oedd hi ar yr egwyl ar ôl i Beauden Barrett fethu'r trosiad.

Yn gynnar yn yr ail hanner cafodd Y Llewod gyfle wrth i Seland Newydd droseddu oddi ar y bêl. Roedd hi'n gic gosb o gryn bellter, ond doedd y dasg ddim yn poeni Elliot Daly, a lwyddodd o'r llinell hanner.

Roedd y Cymro Alun Wyn Jones yn chwarae yn ei nawfed prawf dros y Llewod heddiw, y mwyaf erioed i unrhyw chwaraewr. Dydy o ddim yn debyg o anghofio'r achlysur ar frys ar ôl ergyd anferth arno gan Jerome Kaino a Sam Whitelock. Cafodd Kaino gerdyn melyn a deg munud yn y gell gosb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cerdyn melyn i Kaino am ergyd beryglus ar Alun Wyn Jones

Gadawodd Alun Wyn Jones y maes yn fuan wedyn. Courtney Lawes ddaeth ar y maes i lenwi ei 'sgidiau ac mi wnaeth argraff bron yn syth. Wedi tacl uchel Brodie Retallick arno enillodd Y Llewod gic gosb arall. Unwaith eto roedd Farrell yn llwyddiannus.

Gyda'r sgôr yn gwbl gyfartal, 12-12, a dim ond ugain munud ar ôl ar y cloc roedd cefnogwyr Y Llewod yn dechrau dyfalu bod camp tîm Carwyn James yn 1971 ar fin cael ei hefelychu. Ennill taith oddi cartref yn erbyn y Crysau Duon? Does bosib!

Ond cyn i'r freuddwyd gael cyfle i ddatblygu roedd troed Beauden Barrett wedi rhoi Seland Newydd yn ôl ar y blaen gyda chic gosb o flaen y pyst, gafodd ei dyfarnu ar ôl i Kyle Sinckler droseddu yn y sgrym.

Er bod y capten Sam Warburton wedi gadael y maes am gyfnod cafodd dau Gymro eu cyfle i ddisgleirio yn y munudau olaf. Daeth Rhys Webb o'r fainc fel mewnwr ac roedd 'na ail gap dros y Llewod i fachwr y Scarlets, Ken Owens.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Y Llewod dan bwysau ger eu llinell gais eu hunain wrth i'r tîm cartre' geisio gorffen y gêm mewn steil. Ond yn dilyn sgrym anniben daeth y bêl yn rhydd a llwyddodd yr ymwelwyr i ennill cic gosb ar y llinell hanner.

Unwaith eto camodd Farrell ymlaen i gymryd y cyfrifoldeb. Roedd yr eiliadau wrth iddo baratoi yn teimlo fel oes i Warren Gatland, hyfforddwr y Llewod a phawb arall yn Eden Park a thu hwnt. Roedd ei gic yn gywir a phedair munud ar ôl i geisio ennill y gêm.

Roedd calonnau'r ymwelwyr yn eu gyddfau yn syth o'r gic i ail ddechrau'r gêm. Roedd 'na ddryswch yn amddiffyn Cymru a dyfarnodd Romain Poite bod Ken Owens yn camsefyll wrth gyffwrdd y bêl.

Gallai hynny fod wedi golygu cic gosb hawdd i Seland Newydd, ond ar ôl i'r dyfarnwr fideo gael golwg arni penderfynwyd ei bod hi'n drosedd anfwriadol, ac felly sgrym oedd hi i Seland Newydd gyda munud ar ôl o'r gêm.

Llwyddodd Webb i glirio'r bêl ac am eiliad roedd hi'n edrych fel pebai gwrthymosodiad yn bosib, ond cafodd y bwlch ei gau yn glep gan y Crysau Duon.

Pan aeth y chwiban ola' roedd 'na gymysgedd o ryddhad a siom yn rhengoedd y Llewod. Mor agos ond eto mor bell o gipio cyfres gofiadwy.

Yn ei sylwadau cyntaf ar ddiwedd y gêm crisialodd y capten Sam Warburton deimladau'r garfan a'u cefnogwyr: "Gwell na cholli!"

Seland Newydd: J. Barrett, Dagg, Liernert-Brown, Laumape, J. Savea, B. Barrett, A. Smith;

Moody, Taylor, Franks, Retallick, Whitelock, Kaino, Cane, Read.

Eilyddion: Harris, Crockett, Faumuina, S. Barrett, A. Savea, Perenara, Cruden, Fekitoa.

Y Llewod: Williams, Watson, J. Davies, Farrell, Daly, Sexton, Murray;

Vunipola, George, Furlong, Itoje, Jones, Warburton, O'Brien, Faletau.

Eilyddion: Owens, McGrath, Sinckler, Lawes, Stander, Webb, Te'o, Nowell.

Dyfarnwr: Romain Poite (Ffrainc)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bron iawn Sam, bron iawn!