Â鶹ԼÅÄ

'Dathlu bod yn fam'

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na gynnydd yn y nifer o wefannau a blogiau ar gyfer mamau newydd yn y Saesneg, ond mae dwy fam o ganolbarth Cymru wedi mynd ati i gyhoeddi gwefan gyda chynnwys Cymraeg. Ddydd Llun, mae , blogzine dwyieithog cyntaf ar gyfer mamau yn cael ei lansio.

Heulwen o ardal Machynlleth ac Ashleigh o Dregaron sy' wedi ei sefydlu a bu Heulwen yn esbonio mwy am y cefndir wrth Cymru Fyw:

Ffynhonnell y llun, Mam Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mamau Cymru, Heulwen ac Ashleigh

Pan ges i fy merch bron i bum mlynedd yn ôl, fe wnes i weld fod 'na fwlch. Mae 'na alw mawr am gynnwys yn Gymraeg ond does dim lle i famau rannu pethau a darllen am brofiadau yn Gymraeg. A does 'na ddim byd dwyieithog i famau ar y we chwaith, felly dyna ddechrau meddwl am y blog.

Fel pob mam, dwi'n jyglo cymaint gyda dwy swydd, cwmni marchnata a merch fach, a ro'n i wedi ei roi o off. Wedyn wnes i benderfynu, dwi jyst yn mynd i'w wneud o.

Fe fyddylies i taw Ashleigh fy ffrind fydde'r un berffaith i 'neud o efo fi, mae ganddi saith o blant, mae'n dod o America ac yn dysgu Cymraeg ac mae ganddon ni yr un weledigaeth.

Yn fympwyol iawn, wnes i ffonio Ashleigh, a roedd y ddwy ohonon ni ar y school run ar y pryd. Fe gytunodd hi'n syth, a dros y mis dwetha' rydyn ni wedi bod yn gweithio bob nos ar y ffôn, ar messenger... yn trafod, yn siarad â chyfranwyr posib ac ati.

Beth sy'n bwysig i ni ydy positifrwydd, dathlu bod yn fam, cael hwyl a'r syniad o empower women. Rydyn ni eisiau codi calonnau pobl a ddim am i bobl fod yn depressed. Mi fyddwn ni'n delio gyda phynciau anodd a chaled wrth i bobl rannu eu straeon, ond gobeithio bydd mamau eraill yn gallu elwa.

Mae pobl yn eu 70au a 20au wedi cyfrannu yn barod, y bwriad yw i gynrychioli pob mam yng Nghymru ac i ni ddysgu wrth ein gilydd, a byw yn ddwyieithog.

Yn ogystal â chyngor ac adolygiadau, mae ganddom ni siop ar-lein yn gwerthu nwyddau unigryw Mam Cymru. Bydd canran o werthiant y nwyddau yn mynd i Tŷ Hafan.

Er nad oes ganddon ni gysylltiad efo'r elusen, rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i gael wyth plentyn iach rhyngddon ni, ond rydyn ni'n 'nabod teuluoedd sy' di elwa o waith anhygoel TÅ· Hafan, felly roedd yn bwysig i ni gefnogi'r elusen honno.

Ffynhonnell y llun, Mam Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ashleigh a Heulwen yng nghrysau T unigryw y wefan

Dwi hefyd yn sgwennu llyfr yn y Gymraeg o bersbectif mam yng nghefn gwlad. Dwi erioed 'di sgrifennu o'r blaen, ond pan o'n i'n disgwyl, ro'n i'n siomedig bod dim byd real am brofiad mam yn Gymraeg.

Mi fyddai'n cynnwys rhywfaint o anecdotes gan rieni eraill hefyd, rhai sy'n jyglo mwy nag un plentyn ac mi fydd 'na tips yn y llyfr, lot o hiwmor a chartŵns i ddod â'r cyfan yn fyw.

Dwi'n gobeithio y bydd yn llyfr defnyddiol a hwyliog sy'n dilyn y cyfnod trwy'r beichiogrwydd tan ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Y bwriad yw cyhoeddi erbyn Sul y Mamau nesaf.

Pan mae rhywbeth ynddo ti'n ysu i'w wneud o, mae'n rhaid ei wneud o.