Cymru yn yr awyr

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Maes Awyr Sain Tathan ym Mro Morgannwg

Ar 1-2 Gorffennaf 2017 mae Sioe Awyr Cymru'n dychwelyd i Abertawe, ac mae disgwyl i hyd at 200,000 o bobl fwynhau'r sioeau awyr ysblennydd ac edmygu'r awyrennau hynafol fydd yn cael eu harddangos.

Ond beth yw cysylltiadau Cymru â'r diwydiant hedfan? Dyma ychydig o'r hanes:

Ai Cymro oedd y cynta' i hedfan?

Wilbur ac Orville Wright sy'n cael eu cydnabod gan amlaf fel y cyntaf i hedfan mewn awyren self-propelled yn llwyddiannus, a hynny yn North Carolina, UDA, yn 1903.

Ond mae rhai yn dadlau mai Cymro o'r enw William Frost oedd y cyntaf i gyflawni'r dasg, yn Saundersfoot, Sir Benfro yn 1896.

Mae sôn bod Frost wedi hedfan 500 metr cyn iddo gael damwain a hedfan i mewn i goeden. Yn anffodus doedd yna ddim tystion yno i gadarnhau y digwyddiad yn annibynnol, a chyn iddo gael y cyfle i geisio eto fe gafodd y peiriant ei ddinistrio yn llwyr yn ystod storm.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bill Frost o Saundersfoot...y dyn cyntaf i hedfan?

'Taffy Jones'

Cafodd James Ira Thomas Jones ei eni ar fferm ger Sanclêr yn Sir Gâr yn 1896. Roedd yn beilot llwyddiannus yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac roedd yn gyfrifol am saethu llawer o awyrennau Almaenaidd i lawr yn ei gyfnod yn yr Awyrlu Brenhinol.

Ar un adeg roedd ganddo 'ffigyrau lladd' cystal â'r enwog Farwn Coch o'r Almaen, gan ladd 38 o weithiau mewn pedwar mis. Mae'n debyg bod ei ddyddiau yn hela ar y fferm tra oedd yn iau wedi ei helpu i feithrin ei ddawn i saethu.

Cafodd ei urddo sawl gwaith, gan gynnwys y Military Cross a'r Urdd Gwasanaeth Nodedig (Distinguished Service Order).

Aeth ymlaen i ymladd yn erbyn y Bolsieficiaid yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia (1917-1923). Roedd hefyd yn brwydro yn yr Ail Ryfel Byd ac fe gafodd ddyrchafiad i fod yn Gadlywydd Adain (Wing Commander). Bu farw yn Aberaeron yn 1960 yn 64 oed.

Disgrifiad o'r llun, Ira Jones yn cyfarfod y Brenin Siôr y Chweched

Trychinebau awyr

Roedd yr awyren Avro Tudor V wedi ei llogi i gludo cefnogwyr rygbi nôl o gêm rhyngwladol rhwng Cymru ac Iwerddon. Dim ond tri o'r 83 o deithwyr wnaeth oroesi wedi i'r awyren syrthio i'r ddaear wrth geisio glanio yn Llandŵ.

Cafodd pedwar o bobl eu lladd ar 6 mai 1959 pan syrthiodd awyren i'r ddaear ar un o ffyrdd prysuraf gogledd Caerdydd. Roedd hi'n wyrth na chafodd rhagor eu lladd gan bod yr awyren wedi syrthio yn agos at Stadiwm Maendy ble roedd cystadleuaeth athletau fawr yn cael ei chynnal ar y pryd. Roedd y lleoliad hefyd dafliad carreg o Ysgol Uwchradd Cathays.

Disgrifiad o'r llun, Fe syrthiodd yr awyren ganllath o bentref Tresigin, ger Llandŵ ym Mro Morgannwg

Cwmnïau awyrennau Cymreig

Yng Nghaerdydd yn 1984 cafodd cwmni awyrennau Airways International Cymru ei sefydlu. Roedd yn cynnig hediadau i 20 o ganolfannau ledled Ewrop, gan gynnwys Milan, Geneva a Salzburg.

Roedd y cwmni yn gwneud yn dda yn ystod yr haf ond yn ystod misoedd y gaeaf roedd yr awyrennau'n cael eu benthyg i gwmnïau eraill fel Air New Zealand, Aer Lingus, British Midland Airways a Manx Airlines. Daeth Airways International Cymru i ben fel gwasanaeth yn 1988.

Cwmni awyrennau Cymreig arall oedd Awyr Cymru, enw sydd wedi cael ei ddefnyddio ddwywaith - yn 1977 am ddeunaw mis, ac eto yn 1997. Ar 23 Ebrill, 2006 daeth y gwasanaeth i ben yn barhaol, oherwydd costau cynyddol a chystadleuaeth gan gwmnïau enfawr a oedd yn cynnig gwasanaeth tebyg.

Disgrifiad o'r llun, Roedd awyrennau Airways Cymru yn teithio ledled Ewrop i feysydd awyr yn yr Eidal, Portiwgal, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Ffrainc a'r Swistir

Cynhyrchu adenydd

Cafodd y safle ym Mrychdyn yn Sir y Fflint ei agor yn 1939 fel ffatri i adeiladu'r awyrennau bomio Vickers Wellington a'r Lancaster yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe brynodd y cwmni De Havilland y safle a cafodd yr awyrennau Mosquito a Comet eu cynhyrchu yno.

Heddiw mae dros 5,000 o bobl yn gweithio ar y safle ym Mrychdyn, gydag adenydd pob awyren Airbus yn cael eu cynhyrchu yno, ac eithrio'r A320 (sy'n cael eu gwneud yn Tseina) a'r A400M (sydd yn cael eu gwneud yn Filton).

Mae'r adenydd yn cael eu cludo i dde Ffrainc ar awyren enfawr Airbus Beluga. Ond oherwydd eu maint mae adenydd yr A380 yn cael eu cludo ar long i Toulouse i'w cysylltu i weddill yr awyren.

Disgrifiad o'r llun, Mae adenydd yr Airbus A380, yr awyren fwyaf yn y byd sy'n cludo teithwyr, yn cael eu cynhyrchu yng ngogledd Cymru

Meysydd awyr Cymru

Mae'n debyg bod 34 maes awyr o ryw fath wedi bod yng Nghymru ar un adeg. Mae'r rhain yn amrywio o faes awyr rhyngwladol, meysydd awyr rhanbarthol a meysydd bychain iawn.

Maes Awyr Caerdydd yw'r mwyaf yng Nghymru, a'r unig un sy'n cael ei ystyried fel un rhyngwladol. Mae Maes Awyr Abertawe a Sain Tathan ymhlith y meysydd awyr rhanbarthol. Ymysg y rhai bychain mae meysydd awyr Caernarfon, Aberporth a Llanbedr, Meirionnydd.

Dechreuodd y gwaith o adeiladu Maes Awyr Caerdydd yn 1941. Yn ôl ystadegau diweddar, Amsterdam yw'r daith fwyaf poblogaidd, gyda Dulyn a Mallorca yn ail ac yn drydydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cristiano Ronaldo a charfan Real Madrid yn glanio yng Nghaerdydd ar 2 Mehefin ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr