Galw am fwy o gefnogaeth i dadau sydd wedi colli babi

Disgrifiad o'r llun, Mae Dave a Heatherjane Coombs bellach yn cynorthwyo rhieni eraill sydd hefyd wedi colli plentyn

Mae angen gwneud mwy i annog tadau i chwilio am gymorth pan mae eu partneriaid yn colli plentyn neu'n geni plentyn yn farw, yn ôl gweithwyr elusen.

Mae'r ffigyrau diweddaraf sydd ar gael yn dangos fod 158 o fabanod yn farw-anedig yng Nghymru yn 2015 - 0.47% o gyfanswm y genedigaethau.

Ond er bod llawer o fenywod yn chwilio am gefnogaeth, meddai elusen Sands, mae dynion yn llai parod i wneud.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cymorth ar gael drwy wasanaethau profedigaeth y byrddau iechyd.

'Methu siarad yn agored'

Mae Sands yn cynnal gwasanaeth cofio ddydd Sul yng Nghaerdydd i rieni sydd wedi eu heffeithio ar ôl colli plentyn neu'n geni plentyn marw-anedig.

Roedd Heatherjane Coombs 36 wythnos yn feichiog gyda'i mab Xander pan gafodd hi drafferthion yn 2004.

Bu farw ei mab yn y groth a bu'n rhaid iddi roi genedigaeth iddo ddeuddydd yn ddiweddarach.

Dywedodd Mrs Coombs, 43, sydd bellach yn gadeirydd grŵp Sands yng Nghaerdydd a Chasnewydd, fod y gefnogaeth gan y fydwraig iddi hi wedi bod yn wych, ond doedd na neb i siarad gyda'i gŵr.

"Bydd llawer o bobl yn gofyn i'r tad, 'sut mae eich gwraig?' neu 'sut mae eich partner?, a phrin iawn y cewch chi bobl yn gofyn 'sut ydych chi?'," meddai.

Ffynhonnell y llun, Sands

Disgrifiad o'r llun, Mae Sands yn defnyddio lein olchi gyda 15 dilledyn babi fel symbol ar gyfer y plant sydd yn parhau i farw bob diwrnod ar draws y DU

"Dwi'n meddwl fod hynny'n rheswm arall pam ei fod yn dabŵ gyda dynion, achos dyw cymdeithas yn gyffredinol ddim yn gwneud iddyn nhw deimlo y gallan nhw siarad yn agored."

Ychwanegodd ei gŵr Dave, sydd hefyd yn cynorthwyo gyda gwasanaethau Sands, fod cefnogaeth i dadau wedi gwella ers ei golled ef ond bod mwy eto i'w wneud.

"Fel partner rydych chi'n troi at fod y person sydd yn parhau i ennill y bara menyn.

"'Dych chi'n ceisio parhau i weithio, cefnogi, chi yw'r un sy'n gorfod aros yn gryf, ond beth sy'n digwydd yw 'dych chi'n disgyn yn ddarnau nes ymlaen," meddai.

"Mae angen dweud wrth ddynion, mae'n iawn i alaru, mae'n iawn i ypsetio ac yn y pen draw, er lles eich iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol, mae'n dda i alaru achos [fel arall] mae'n tueddu amlygu'i hun fel salwch corfforol neu feddyliol nes ymlaen."

Cefnogaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae colli plentyn neu eni plentyn marw-anedig yn gallu bod yn dorcalonnus i rieni'r babi, ac i aelodau eraill o'r teulu.

"Dyna pam fod gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru eu gwasanaeth profedigaeth eu hunain sydd yn cynnig cefnogaeth nid yn unig i rieni, ond y teulu'n ehangach."

Ers colli Xander mae Mr a Mrs Coombs, sydd heb gael unrhyw blant eraill wedi i ddau gael eu camesgor, wedi sefydlu'r grŵp yn ardal Caerdydd a Chasnewydd i gefnogi teuluoedd eraill.

Bydd y gwasanaeth cofio blynyddol yn cael ei gynnal am 11:30 yng Nghapel Wenallt, Amlosgfa Thornhill ac yn cael ei arwain gan y Parchedig Rhiannon Francis, o gaplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru.