Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ yn cyhoeddi gwasanaeth newydd Radio Cymru 2

  • Cyhoeddwyd
Â鶹ԼÅÄ radio Cymru

Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn bwriadu sefydlu ail orsaf radio genedlaethol yn Gymraeg.

Fe fydd Radio Cymru 2 yn darlledu o 7:00 tan 10:00 bob bore'r wythnos ar radio digidol, teledu digidol a Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio.

Cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant fydd ar y gwasanaeth newydd, tra bydd Radio Cymru yn parhau i ddarlledu'r Post Cyntaf.

Dywedodd golygydd Radio Cymru, Betsan Powys, ei bod yn ddatblygiad "hanesyddol".

'Cynnig dewis'

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r .

Dywedodd Betsan Powys: "Does dim dwywaith fod hwn yn un o'r datblygiadau mwyaf hanesyddol a phwysig yn natblygiad yr orsaf ers ei sefydlu yn 1977.

"Mae gwrandawyr Radio Cymru gyda'r gwrandawyr radio mwya' ffyddlon yng Nghymru ac mae gallu cynnig dewis iddyn nhw ac i wrandawyr newydd yn hynod gyffrous."

Mae tîm golygyddol Radio Cymru yn bwriadu lansio'r gwasanaeth newydd cyn diwedd y flwyddyn.

Disgrifiad,

Mae Betsan Powys yn dweud bod yr orsaf newydd yn "ateb hen alw - y gallu i gynnig dewis"

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Carl Morris, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith: "Ry'n ni'n croesawu'r newyddion yma - mae'n ddatblygiad addawol iawn gan fod dybryd angen rhagor o gynnwys digidol amrywiol yn y Gymraeg.

"Gall un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yma yn golygu y bydd rhagor o amrywiaeth."

Radio Wales yn ehangu

Mewn cyhoeddiad arall, fe ddywedodd y Â鶹ԼÅÄ y bydd gorsaf Radio Wales yn ehangu ar FM i gyrraedd 330,000 o bobl ychwanegol.

O ganlyniad bydd yr orsaf yn cyrraedd hyd at 91% o'r boblogaeth ar FM, o'i gymharu â 79% ar hyn o bryd.

Gwrandawyr yn y gogledd ddwyrain a'r canolbarth yn benodol fydd yn elwa ar y cynnydd yn argaeledd Radio Wales ar FM.

Bydd yr orsaf yn defnyddio tonfeddi FM sydd yn darlledu Â鶹ԼÅÄ Radio 3.