Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol 'yn llwyddiant'

Ffynhonnell y llun, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol

Mae creu Canolfan Genedlaethol i drefnu a hyrwyddo cyrsiau Cymraeg i oedolion wedi bod yn llwyddianus, yn ôl y corff arolygu ESTYN.

Cafodd adroddiad ar adolygiad o waith y Ganolfan Genedlaethol ei gyhoeddi fore Mercher.

Ers 2016, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sydd wedi bod yn gyfrifol am osod a gweithredu strategaeth glir i'r holl ganolfannau sy'n darparu cyrsiau hyfforddi Cymraeg, ac yn ôl ESTYN, mae'r ganolfan wedi "llwyddo i ddod â mwy o gysondeb mewn dulliau i ddatblygu'r cwricwlwm, casglu data ac asesu".

Mae 11 o sefydliadau ar draws Cymru yn darparu gwersi Cymraeg i oedolion erbyn hyn.

Dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Meilyr Rowlands, "Rydw i'n falch fod y Ganolfan Genedlaethol wedi ad-drefnu'r sector Cymraeg i Oedolion yn effeithiol a'i bod yn mynd i'r afael â'r heriau allweddol sy'n wynebu'r sector, fel yr amrywiad eang yn yr ymagwedd at y cwricwlwm.

"Mae gwaith strategol y Ganolfan Genedlaethol yn gam pwysig wrth greu cenedl ddwyieithog a chynorthwyo oedolion i wella eu medrau Cymraeg gartref ac yn y gweithle."

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl Prif Arolygydd Estyn, Meilyr Rowlands, mae gwaith y ganolfan yn gwm pwysig wrth greu cenedl ddwyieithog

'Braidd yn gynnar'

Yn ôl Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Canolfan Iaith Popeth Cymraeg sy'n gyfrifol am ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, mae creu'r canolfannau "yn gam ymlaen i'r sector".

"Mae'n dda fod 'na resymoli call ar lawr gwlad," meddai, "yn lle bod 'na fwy nag un darparwr yn cystadlu am yr un bobl yn yr un ardal".

"Dwi'n gefnogol iawn o'r ganolfan, ac mae'r berthynas rhwng y ganolfan a'r darparwyr yn un sy'n esblygu.

"Ond braidd yn gynnar ydy'r arolwg yma. 'Dy' ni heb gael un tymor cofrestru newydd eto, felly mae'n anodd ymateb llawer."

Ffynhonnell y llun, Alistair Heap

Disgrifiad o'r llun, Mae'r adroddiad yn argymell mireinio strategaeth farchnata'r Ganolfan Genedlaethol i dargedu mwy o ddarpar ddysgwyr

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod angen i ddarparwyr roi polisiau ac arferion a gafodd eu cyflwyno gan y Ganolfan Genedlaethol ar waith yn llawn, a deall trefniadau llywodraethu'r Ganolfan, am eu bod nhw mewn rhai achosion yn "araf i ymateb i newidiadau arfaethedig".

Maen nhw hefyd yn argymell dwyn darparwyr Cymraeg i Oedolion i gyfrif am eu perfformiad, a mireinio strategaeth farchnata'r Ganolfan Genedlaethol i dargedu mwy o ddarpar ddysgwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Rydym yn croesawu casgliadau Adolygiad Estyn o waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

"Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda'n darparwyr i sicrhau bod dysgwyr yn cael y profiadau gorau wrth ddysgu Cymraeg."

Beth ydy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol?

Ym mis Mai 2015, fe ddyfarnodd Llywodraeth Cymru y grant i sefydlu'r endid cenedlaethol i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS).

Cafodd y grant ei ddynodi am gyfnod o saith mlynedd, rhwng 2015 a 2022.

Yn 2016, sefydlwyd 11 o ddarparwyr yn unig gan y Ganolfan Genedlaethol yn lle'r chwe chanolfan ranbarthol flaenorol a'u 20 is-gontractwr.