Â鶹ԼÅÄ

Carcharorion yn darparu prydau ar glud ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
HMP ParcFfynhonnell y llun, G4S

Mae carcharorion yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont yn darparu gwasanaeth pryd ar glud i henoed ym Mro Morgannwg wedi i'r cyngor gael gwared â'r gwasanaeth.

Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg roedd nifer y prydau a oedd eu hangen wedi gostwng yn sylweddol. Roedd y ffigwr dyddiol yn 2012 yn 112 pryd y dydd ond erbyn dechrau eleni dim ond 45 a oedd angen pryd ar glud.

Un o'r sefydliadau sydd wedi dod i'r adwy yw The Food Shed sy'n cydweithio â charchar y Parc ym Mhen-y-bont.

Y carcharorion sy'n paratoi'r prydau ar glud ac maent yn cael eu dosbarthu gan wasanaeth arall i bobol sydd angen y prydau.

Yn ôl G4S, sy'n rhedeg Y Parc, mae'r broses yn helpu carcharorion rhag aildroseddu.

Ar hyn o bryd henoed yn rhan orllewinol Sir Bro Morgannwg sy'n derbyn y gwasanaeth ond y gobaith yw ehangu i weddill y sir.

Does yna'r un cytundeb wedi'i arwyddo ond roedd The Food Shed yn un o'r gwasanaethau a gysylltwyd â nhw wedi i wasanaeth pryd ar glud y cyngor ddod i ben.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y cyngor bod y gwasanaeth pryd ar glud yn costio £50,000 y flwyddyn i'r adran gwasanaethau cymdeithasol .

Bu'n rhaid i'r bobl yr oedd y newid yn cael effaith arnynt gael eu hailasesu ac os yr oeddynt yn hapus gyda threfniant newydd roedd swyddogion yn trosglwyddo eu manylion i sefydliadau perthnasol.

Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr carchar Y Parc Lisette Saunders: "Mae ein partneriaeth gyda'r Food Shed yn darparu bwyd o safon i bobl sydd ei angen a hefyd yn cefnogi ein gwaith i ddatblygu sgiliau a hyfforddiant i garcharorion - yr hyn sy'n digwydd yn y pen draw yw bod y cyfan o gymorth i'r carcharorion i beidio aildroseddu."

Cafodd un carcharor, meddai G4S, swydd gyda'r Food Shed wedi iddo gael ei ryddhau.

Ychwanegodd Ms Saunders: "Mae rhaglenni fel The Food Shed yn annog carcharorion i fod yn gysylltiedig gyda cgymunedau lleol, i fod yn gymdogion da ac i roi rhywbeth yn ôl i'r mwyaf anghenus."