Â鶹ԼÅÄ

Gofyn i bysgotwyr ryddhau eogiaid i warchod stociau

  • Cyhoeddwyd
An anglerFfynhonnell y llun, Natural Resources Wales
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd CNC bod tua 60% o eogiaid eisoes yn cael eu rhyddhau'n wirfoddol gan bysgotwyr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gofyn i bysgotwyr Cymru ryddhau pob un eog y maen nhw'n ei ddal mewn ymdrech i warchod stociau pysgod.

Dywedodd y corff ei fod wedi gwneud y cais am fod nifer yr eogiaid yn afonydd Cymru yn "parhau i beri pryder difrifol".

Mae niwed i gynefinoedd, llygredd a physgota anghyfreithlon wedi rhoi rhagor o straen ar stociau pysgod, meddai.

Dywedodd uwch gynghorydd pysgodfeydd CNC, Dave Mee, bod nifer yr eogiaid sy'n goroesi yn y môr yn "is nag a welwyd erioed o'r blaen".

"Eisoes mae'r rhan fwyaf o bysgotwyr yn mynd ati'n wirfoddol i ryddhau'r pysgod a gaiff eu dal ganddynt, ond rydym o'r farn fod y sefyllfa mor ddifrifol i eogiaid erbyn hyn nes ein gorfodi i ofyn i bob pysgotwr ryddhau pob un o'u heogiaid," meddai.

"Cael pysgotwyr i ryddhau eu pysgod yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o geisio diogelu ein stociau trwy ganiatáu i fwy o bysgod oroesi a silio."

Yn 2016 fe wnaeth asesiad blynyddol ar stociau pysgod ddangos bod pob un ond dwy o'r 23 afon yng Nghymru sydd ag eogiaid naill ai "mewn perygl" neu "mewn perygl yn ôl pob tebyg".