Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Iwan John

  • Cyhoeddwyd
iwan

Iwan John sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan .

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Dwyn y siocledi bach barel na gyda wisgi tu fewn iddynt o garej fy rhieni pan o'n i'n fach a'u bwyta nhw yno.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Y six million dollar woman, Lady Diana, a Jill Dando.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Tra oedde ni allan yn ffilmio Beryl, Cheryl a Meryl yn Tenerife es i i'r môr i nofio. Wedyn es i mas o'r môr at y bwrdd bwyd lle oedd y cast a'r criw a pawb yn eistedd. Roeddwn i wrth ymyl y ddynes golur oedd mas gyda ni a wnes i blygu dros ei phlât hi i nôl rhywbeth, ac yn sydyn daeth lot o ddŵr môr mas o'n nhrwyn i a mynd ar hyd ar ei phlât hi. Ar ôl eiliad o fod yn horrified, 'nath bawb weld yr ochr ddoniol, diolch byth.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Iwan yn ei rôl fel y cymeriad Eddie Butler

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Echnos tra o'n i'n sâl gyda thymheredd ofnadwy o uchel.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Peidio cofio enwau pobl ar ôl mi gyfarfod nhw y tro cynta. Dwi yn gwrando, ond efallai ddim yn gwrando digon...

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Trefdraeth yn Sir Benfro, achos dyna'r lle dwi'n mynd mas i bysgota ar y môr pan mae'n braf ac alla i fod ar ben fy hunan fanna a mae'n lyfli.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yn Tenerife, pan oedden ni'n ffilmio Beryl Cheryl a Meryl ac gafon ni barti drwy dydd ar y traeth, gan yfed a mwynhau lan môr drwy'r dydd tan iddi nosi.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Neis(ish), hwyl, idiot.

Ffynhonnell y llun, Mei Lewis
Disgrifiad o’r llun,

DJ Sal, sy'n diddanu y cleifion yn Ysbyty Hospital

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi ddim yn darllen lot fawr, ond byswn i'n dweud llyfr o'n mhlentyndod - Y bachgen ar y traeth - roedd lot o lunie ynddo fe.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Efallai James Taylor, oherwydd os ydy e'n meddwl yn debyg i'w eiriau yn ei ganeuon, mae'n athrylith.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Cyfres oedd hi, The People versus OJ Simpson. Stori mor ddiddorol ond efallai bod yr actorion oedd yn actio OJ a'r gyfreithwriag yn y gyfres ddim cweit yn iawn. Er hynny, roedd e'n dda iawn.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Treulio'r diwrnod gyda'r plant a'r wraig ac yn bwyta lot ac yfed lot o win neis yn edrych dros y traeth mewn rhyw restaurant braf.

Dy hoff albwm?

Rhywbeth gan IZ, y canwr o Hawaii, efallai y casgliad Over the Rainbow.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Iwan a'i ddannedd miniog tra'n actio fel Jac Russell

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?

Foie gras i ddechre, yna byswn i'n cael steak gyda'r trimings i gyd fel prif gwrs ac yna tiramisu da yn bwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Donald Trump, a byswn i'n mynd i weld rhywun i sortio'n hun mas.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Non Parry